Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 20 Mawrth 2019.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ateb nad yw'n cynnig unrhyw oleuni, wrth gwrs. Ond os caf ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnodd Lynne Neagle yn gynharach am effaith 'dim bargen' ar y diwydiant modurol yn ei hetholaeth hi, fel yr honnodd hi beth bynnag, a yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi gweld heddiw, yn wir, fod Toyota wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i ddechrau cynhyrchu cenhedlaeth newydd o geir hybrid yn eu ffatri yn Swydd Derby y flwyddyn nesaf, er gwaethaf y dirywiad yn y diwydiant ceir yn fyd-eang, ac y bydd y ceir hyn a gaiff eu hadeiladu ar gyfer Suzuki hefyd yn defnyddio injans a gynhyrchir yn ffatri Toyota yng Nglannau Dyfrdwy yng Nghymru—y cyfan er gwaethaf Brexit, wrth gwrs? Yn y cyfamser, mae Ford hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn torri 5,000 o swyddi yn yr Almaen, sydd, wrth gwrs, â dim i'w wneud â Brexit, ac felly, beth sy'n digwydd yn y byd, yn sicr yn y byd modurol, yw bod y platiau tectonig yn newid a bod Ewrop, yn ei chyfanrwydd, yn mynd i ddioddef yn sgil ei dibyniaeth ar or-reoleiddio ac agweddau amddiffynnol mewnblyg, a phe baem ni ar y tu allan i'r gyfundrefn tollau a'r tariff allanol cyffredin, byddai gennym gyfle i fanteisio ar yr 85 y cant o'r economi fyd-eang nad yw'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd ac sy'n ehangu, yn wahanol i'r Undeb Ewropeaidd, sy'n crebachu'n economaidd.