Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:39, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym yn byw mewn economi fyd-eang, sy'n newid yn drawiadol iawn. Dyna'r union bwynt. Dyna pam y credwn bod y farn sydd gan yr Aelod ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw gytundeb yn arbennig o drychinebus. Ar adeg pan fo pawb ohonom yn rheoli newid byd-eang, byddai ceisio'r math o newid trawmatig y mae ef yn ei argymell yn gwbl anghyfrifol. Lle bu—[Torri ar draws.] Lle bu enghreifftiau o fuddsoddi, fel y noda, maent yn deillio o waith dygn gan Lywodraeth Cymru, gan Ysgrifennydd yr economi, dros gyfnod hir o amser i sicrhau bod cwmnïau'n deall lefel yr ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w wneud i gyflogwyr sylweddol yng Nghymru. A'r gwaith paratoi hwnnw yw'r union waith y mae angen iddo ddigwydd a pharhau i ddigwydd ar draws y DU er mwyn inni sicrhau bod effeithiau aflonyddgar Brexit yn cael eu lleihau, a lle gallwn annog busnesau i fuddsoddi, ein bod yn gallu gwneud hynny.