Rheoli'r Broses o Ymadael â'r UE heb Gytundeb

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:07, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol.

Nawr, tra ein bod ni yma, naw niwrnod sydd ar ôl cyn y dyddiad cyfreithiol rydym i fod i adael yr UE, ac eto nid ydym yn gwybod a fyddwn yn gadael yr UE gyda chytundeb, heb gytundeb, neu estyniad efallai. Ac rwy'n siŵr fod y llanastr rydym yn ei weld yn deillio o Lywodraeth anhrefnus yn San Steffan. Ond mae'n rhaid i chi, fel Llywodraeth Cymru, reoli'r llanastr hwnnw yma yng Nghymru. Nawr, rydych newydd ddweud bod gennych 124 o weithwyr ychwanegol, gydag oddeutu 50 arall y tu hwnt i hynny; a yw hynny'n mynd i fod yn ddigon ar gyfer dydd Gwener nesaf os byddwn yn gadael heb gytundeb? Beth fydd goblygiadau hynny i waith arall Llywodraeth Cymru? A allwn sicrhau y gallwn ddarparu'r gwasanaethau y bydd pobl Cymru eu hangen ac yn parhau i fod eu heisiau yn dilyn Brexit heb gytundeb? Oherwydd, yn anffodus, o ystyried y sefyllfa ar hyn o bryd, y llanastr rydym yn ei weld, mae hwnnw'n bosibilrwydd cryf iawn.