2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2019.
9. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gapasiti Llywodraeth Cymru i reoli'r broses o ymadael â'r UE heb gytundeb? OAQ53626
Er nad yw'n bosibl lliniaru effeithiau gadael heb gytundeb yn llwyr, rydym yn gwneud popeth a allwn i baratoi ar gyfer y posibilrwydd hwn. Mae staff ar draws y sefydliad wedi cael cyfarwyddiadau i flaenoriaethu'r gwaith hwn, ac rydym wedi llenwi 127 o swyddi ychwanegol sy'n gysylltiedig â Brexit, gyda 53 pellach i ddilyn.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol.
Nawr, tra ein bod ni yma, naw niwrnod sydd ar ôl cyn y dyddiad cyfreithiol rydym i fod i adael yr UE, ac eto nid ydym yn gwybod a fyddwn yn gadael yr UE gyda chytundeb, heb gytundeb, neu estyniad efallai. Ac rwy'n siŵr fod y llanastr rydym yn ei weld yn deillio o Lywodraeth anhrefnus yn San Steffan. Ond mae'n rhaid i chi, fel Llywodraeth Cymru, reoli'r llanastr hwnnw yma yng Nghymru. Nawr, rydych newydd ddweud bod gennych 124 o weithwyr ychwanegol, gydag oddeutu 50 arall y tu hwnt i hynny; a yw hynny'n mynd i fod yn ddigon ar gyfer dydd Gwener nesaf os byddwn yn gadael heb gytundeb? Beth fydd goblygiadau hynny i waith arall Llywodraeth Cymru? A allwn sicrhau y gallwn ddarparu'r gwasanaethau y bydd pobl Cymru eu hangen ac yn parhau i fod eu heisiau yn dilyn Brexit heb gytundeb? Oherwydd, yn anffodus, o ystyried y sefyllfa ar hyn o bryd, y llanastr rydym yn ei weld, mae hwnnw'n bosibilrwydd cryf iawn.
Wel, mae'r Aelod yn fy ngwahodd i ddweud, 'Peidiwch â phoeni, bydd popeth yn iawn ar y diwrnod', ac nid wyf am ddweud hynny, oherwydd nid ydym mewn sefyllfa i gynnig y lefel honno o sicrwydd.
Mewn perthynas â pharodrwydd yn gyffredinol, rydym wedi bod yn ofalus i fod yn benodol ynglŷn â'r hyn y credwn yw'r sefyllfaoedd mewn perthynas â lefelau gwahanol o barodrwydd, oherwydd credaf mai dyna'r ffordd fwyaf defnyddiol o roi dealltwriaeth i bobl Cymru o'r hyn rydym yn ei wneud, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, a beth yw ein disgwyliadau, er enghraifft, os ydych yn berchennog busnes. Felly, rydym wedi ceisio bod yn benodol iawn mewn perthynas â'r cyngor rydym yn ei roi.
Ar fater adnoddau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, mae adnoddau'r Llywodraeth yn amlwg dan bwysau mewn perthynas â pharatoi ar gyfer Brexit. Mae hynny'n wir yng Nghymru; mae'n wir ym mhob rhan o'r DU, oherwydd mae hwn yn faich ychwanegol nad ydym, yn sicr yma yng Nghymru, yn ei groesawu. O fewn y cyd-destun o wneud hynny, rydym wedi bod yn recriwtio, fel y bydd yn gwybod yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y pwyllgor perthnasol, niferoedd sylweddol—yn amlwg, llawer llai nag mewn rhannau eraill o'r DU, am resymau amlwg. A yw hynny'n golygu cadw pobl rhag gwneud pethau pwysig eraill? Ydy. A fyddai'n well gennym beidio â gorfod gwneud hynny? Byddai. Ond yn y cyd-destun rydym ynddo, hyd nes y byddwn yn gwybod nad yw 'dim bargen' yn ganlyniad posibl—ac yn sicr nid ydym yn agos at hynny wrth i mi sefyll yma heddiw—bydd yn rhaid i ni barhau i ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym i sicrhau ein bod yn gallu lliniaru eithafion gwaethaf 'dim bargen' lle gallwn geisio wneud hynny. Ond hoffwn bwysleisio i'r Aelod ein bod wedi bod yn glir nad yw'n bosibl lliniaru effaith 'dim bargen' yn gyfan gwbl yn y tymor byr na'r tymor hir.
Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol. Diolch.