5. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:56, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, hoffwn gofnodi fy niolch i'r Aelod cyfrifol, Llyr Gruffydd, a'r Pwyllgor Cyllid a'u swyddogion cynorthwyol am eu hamser a'u gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gweithio'n adeiladol iawn gyda Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, i sicrhau bod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) sydd gennym ger ein bron heddiw, yn ddeddfwriaeth effeithiol a chadarn a fydd yn helpu i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn cefnogi atebolrwydd cyhoeddus. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n gallu ei gefnogi. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am graffu'n fanwl ar y Bil yn ogystal â chofnodi fy niolch i'r Aelodau a oedd yn rhan o'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y pedwerydd Cynulliad, a oedd yn allweddol iawn yn y broses o baratoi'r gwaith sylfaenol ar gyfer y Bil hwn. Y tu hwnt i'r Siambr hon, hoffwn ddiolch i bawb ledled Cymru sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Bil hwn drwy ymchwiliadau ac ymgynghoriadau amrywiol, a gynhaliwyd yn ddiweddar ac yn ystod y pedwerydd Cynulliad.

Drwy gydol yr amser y bu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried y Bil hwn, mae gwerth gwasanaeth yr ombwdsmon wedi bod yn glir iawn. Mae swyddfa'r  ombwdsmon yn helpu'r bobl a gafodd gam gan wasanaethau ac nad ydynt wedi derbyn y lefel o wasanaeth y mae ganddynt yr hawl i'w ddisgwyl. Bydd y Bil hwn yn cefnogi mynediad at wasanaethau’r ombwdsmon i bobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys, am y tro cyntaf, y rheini a gafodd gam gan gwmnïau gofal iechyd preifat. Mae'n rhoi pwerau newydd i'r ombwdsmon ymchwilio i broblemau systemig ar ei liwt ei hun lle ceir tystiolaeth o broblemau eang, ailadroddus a dwfn, a bydd hefyd yn caniatáu i'r ombwdsmon chwarae rôl arweiniol yn gwella safonau ymdrin â chwynion ar draws y sector cyhoeddus. Dylai hyn arwain at fwy o gwynion yn cael eu datrys ar y pwynt cyswllt cyntaf yn hytrach na bod pobl yn gorfod troi at yr ombwdsmon, a bydd y Bil hwn yn ei gwneud yn haws i bobl wneud cwynion i'r ombwdsmon pan fo angen uwchgyfeirio materion. Mae'r diwygiadau helaeth a wnaeth y Pwyllgor Cyllid i'r Bil ers ei gyflwyno yn sicrhau y bydd yn cyflawni'r nodau hyn yn effeithiol ac y bydd yn cynnal goruchafiaeth y prosesau cwynion a gytunwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Wrth wraidd y Bil hwn, mae'r egwyddor fod prosesau cwyno effeithiol ac iach yn ffynhonnell allweddol o adborth ar gyfer cyrff cyhoeddus ac yn sbardun i wella'r gwasanaethau a gynigiwn i bobl Cymru. Yn yr ysbryd hwnnw, gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n cefnogi Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) heddiw, gan sicrhau y bydd Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad mewn perthynas â deddfwriaeth ombwdsmon a chynorthwyo ein gwasanaethau cyhoeddus i fod yn ymatebol i anghenion pobl Cymru.