– Senedd Cymru am 3:46 pm ar 20 Mawrth 2019.
Eitem 5 ar ein hagenda yw dadl ar Gyfnod 4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), a galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i gyflwyno Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) i’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn ei gymeradwyo. Dwi'n gobeithio, yn wir, y bydd yr Aelodau’n cefnogi'r Bil y prynhawn yma, achos mi fydd y Bil yn cryfhau rôl yr ombwdsmon er mwyn diogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni, gwella cyfiawnder cymdeithasol, ac, wrth gwrs, sicrhau gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus a’r gwaith o ymdrin â chwynion.
Heddiw yw penllanw proses a ddechreuodd nôl yn 2015 pan wnaeth Pwyllgor Cyllid y pedwerydd Cynulliad, o dan gadeiryddiaeth Jocelyn Davies, gynnal ymchwiliad i ystyried ymestyn pwerau’r ombwdsmon. Ar ran Pwyllgorau Cyllid y pedwerydd a’r pumed Cynulliad, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr amryw ymgynghoriadau sydd wedi helpu i lywio a ffurfio'r Bil yma sydd ger ein bronnau ni heddiw.
Hefyd, mi hoffwn i ddiolch i’r Aelodau am ymdrin â’r ddeddfwriaeth hon mewn ffordd adeiladol a chydweithredol—y Bil cyntaf i fynd drwy’r Cynulliad dan law pwyllgor, a hynny oherwydd yr awydd sydd gan bob un ohonom ni i sicrhau bod yr oedolion sydd fwyaf agored i newid, sy’n aml yn fwyaf dibynnol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yn teimlo’n hyderus yn gwneud cwyn i’r ombwdsmon a bod ganddyn nhw'r hawl i ymateb teg i’r gŵyn honno.
Dwi’n ddiolchgar i bwyllgorau’r Cynulliad sydd wedi bod yn gyfrifol am graffu ar y Bil, sef y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac yn arbennig y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau o dan gadeiryddiaeth John Griffiths. Mae’r gwaith craffu hwn wedi gwella’r Bil. Er enghraifft, erbyn hyn mae’r Bil yn sicrhau ei bod hi'n ofynnol i’r ombwdsmon ymgynghori â phersonau penodedig, fel comisiynwyr, wrth gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun; mae'r Bil nawr yn ei gwneud yn ofynnol i’r ombwdsmon gadw cofrestr o’r holl gwynion sy’n dod i law, ac mae'r Bil hefyd yn cryfhau’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau sy’n cael eu rhoi ar yr ombwdsmon mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.
Yng Nghyfnod 2, fe wnaeth yr Aelodau fynegi pryderon am atebolrwydd yr ombwdsmon at y dyfodol. A chyn y bleidlais heddiw, hoffwn i roi sicrwydd i'r Aelodau fy mod i wedi cynnal trafodaethau agoriadol gyda Chadeiryddion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch trefniadau goruchwylio presennol y Cynulliad, a sut y bydd modd eu cryfhau yn y dyfodol drwy ein cyfrifoldebau ar gyfer penodi'r ombwdsmon, craffu ar amcangyfrif adroddiad blynyddol a chyfrifon yr ombwdsmon ac, wrth gwrs, y ddyletswydd i adolygu gweithrediad y Ddeddf.
Nawr, mae’r camau nesaf o ran gweithredu’r Bil yn cynnwys cael Cydsyniad Brenhinol a chychwyn, neu commencement, gan Weinidogion Cymru, gan weithio gyda’r ombwdsmon i sicrhau ei fod e wedi ymgynghori’n helaeth cyn i’r darpariaethau ddod i rym. Mae hefyd yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i Ddeddfau Senedd y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ymdrin â gallu'r ombwdsmon i weithio ar y cyd ag ombwdsmyn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a rhai darpariaethau mewn perthynas â'r rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data—y GDPR—sydd y tu hwnt i gymhwysedd y Cynulliad hwn. A tra bod rhai materion ymarferol fel yna i weithio drwyddyn nhw, mae swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi nodi ei bod yn fodlon delio â’r ddeddfwriaeth ganlyniadol angenrheidiol ac, wrth gwrs, mae hynny i’w groesawu yn fawr iawn.
Mae wedi bod yn siwrnai hir i gyrraedd cam 4 fel ag yr ŷn ni wedi ei gyrraedd e heddiw, a dwi’n gofyn yn garedig i Aelodau’r Cynulliad hwn gefnogi Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
Diolch i'r Aelod cyfrifol am ei holl waith caled ac am y ffordd gydsyniol ac amhleidiol y mae wedi gweithio gyda phleidiau eraill drwy broses y Bil. Mae wedi bod yn un o'r achlysuron prin lle mae pob plaid wedi cytuno at ei gilydd ar ddarn o ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, wrth gwrs, roeddwn yn siomedig fod y gwelliannau a gynigais i yn aflwyddiannus.
Mae'r ombwdsmon yn chwarae rôl hanfodol yn sicrhau bod unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n credu eu bod wedi dioddef anghyfiawnder drwy gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth gan gorff cyhoeddus yn gallu gwneud cwyn gyda'r sicrwydd y bydd eu cwyn yn cael ei thrin gan yr ombwdsmon yn deg ac yn annibynnol. I'r perwyl hwn, rydym yn croesawu'r estyniad i'w bwerau o fewn y Bil hwn, ond wrth gwrs, mae mwy o bŵer yn dod â mwy o gyfrifoldeb yn ei sgil.
Roedd ein gwelliannau aflwyddiannus yng Nghyfnod 3 yn cynnwys un i sicrhau bod yr ombwdsmon yn ystyried adnoddau cynghorau tref a chymuned wrth baratoi eu gweithdrefn ymdrin â chwynion enghreifftiol ac un arall i sicrhau bod yr ombwdsmon yn ystyried egwyddorion Nolan sy'n berthnasol i'r safonau moesegol a ddisgwylir gan ddeiliaid swyddi cyhoeddus wrth ymgymryd ag ymchwiliadau i gwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus. Rydym yn teimlo y byddai'r rhain wedi cryfhau'r Bil.
Fel y dywedais yng Nghyfnod 3, roedd Un Llais Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau tref a chymuned yng Nghymru, wedi ysgrifennu ataf yn dweud bod ganddynt bryderon am y weithdrefn gwynion enghreifftiol. Hefyd, nodwyd bod y rhan fwyaf o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru yn anhygoel o fach ac yn cyflogi un clerc yn unig a fyddai, fel arfer, neu'n debygol o fod yn gweithio ar sail ran-amser. Ers hynny, rwyf hefyd wedi derbyn gohebiaeth oddi wrth Gymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru, sy'n cyfeirio at y weithdrefn gwyno enghreifftiol ar wefan Cyngor Tref y Trallwng ac mae'n argymell y dylai cynghorau tref ymdrin â'u cwynion eu hunain yn y lle cyntaf lle maent yn dymuno mabwysiadu cod i'r perwyl hwn.
Nodaf fod yr Aelod cyfrifol wedi dweud yng Nghyfnod 3 ei fod
'wedi cynnwys rhai sylwadau ar y mater hwn yn y memorandwm esboniadol diwygiedig i'r Bil' a'i fod o'r farn
'fod hynny'n rhoi sylw digonol i'r pryderon a fynegwyd'.
Gobeithiwn felly y bydd yn cael ei brofi'n gywir yn hyn o beth.
Nodaf hefyd ei ddatganiad yng Nghyfnod 3, ei fod
'wedi sicrhau serch hynny fod y memorandwm esboniadol diwygiedig bellach yn nodi'n eglur fod gofyn i'r ombwdsmon a'r awdurdodau rhestredig roi sylw dyledus i egwyddorion Nolan wrth ddal swyddi cyhoeddus neu weithio yn y sector cyhoeddus.'
Rydym yn parhau i fod o'r farn fod hyn yn allweddol pan fo cwynion i'r ombwdsmon yn ymwneud yn aml â materion lle mae ymddygiad honedig swyddogion yn rhan annatod ohonynt a fan lleiaf, dylid ystyried tystiolaeth a gyflwynwyd i'r ombwdsmon gan y cyfryw swyddogion mewn perthynas â'r cwynion hyn yng nghyd-destun gwrthdaro buddiannau posibl. Fodd bynnag, rydym yn gyffredinol gefnogol i'r Bil hwn sydd ger ein bron heddiw ac rydym yn croesawu'n arbennig yr agweddau ar y Bil sy'n caniatáu i'r ombwdsmon gychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, a'r agweddau sy'n cynyddu nifer y ffyrdd y gall pobl gwyno, yn hytrach nag ysgrifennu'n unig, gan greu proses gwyno fwy hygyrch. Diolch.
Rwy'n datgan buddiant fel cynghorydd sir. Ni fyddaf yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Yng Nghatalwnia, maent yn gwleidydda drwy farnwriaeth—yr unoliaethwyr, hynny yw. Ac yn Llafur Cymru, rydym yn gwleidydda drwy dribiwnlys. Mewn gwirionedd, mae'r modd y camddefnyddir y system yn debyg iawn mewn egwyddor. Teimlaf fod gennym system ombwdsmon sy'n brin o uniondeb, yn brin o atebolrwydd ar ran yr ombwdsmon ei hun, sy'n gorchymyn pobl i gadw'n dawel, sy'n gwrthod datgelu negeseuon e-bost ac sy'n gweithredu gyda diffyg tegwch a diffyg tryloywder sylfaenol.
Rwyf eisiau rhoi enghraifft o ymchwiliad cyfrinachol gan yr ombwdsmon i chi, ac fe gafodd y person a oedd yn cael ei archwilio'n gyfrinachol alwad ffôn a negeseuon testun gan Aelod sy'n gwasanaethu yn y Cynulliad hwn ar ôl trafod yr achos gyda'r ombwdsmon. Nawr, gwn fod hynny'n wir am mai fi oedd y person hwnnw. Cefais y negeseuon testun; cefais yr alwad ffon; cefais y drafodaeth ac fe'm rhybuddiwyd i beidio â herio'r ombwdsmon. Dywedwyd wrthyf na allwn ennill, ac rwy'n credu, wrth edrych yn ôl, mewn ystyr ffeithiol, fod hynny'n gywir, ond yn gwbl anghywir yn foesol. Pan gynhaliwyd tribiwnlys—ac rwy'n sôn am degwch y system yn y fan hon—ni chaniatawyd i mi gyflwyno'r negeseuon testun hynny fel tystiolaeth o ddiffyg tryloywder, diffyg tegwch yn y system. Defnyddir yr ombwdsmon llywodraeth leol yng Nghymru fel arf gwleidyddol i gael gwared ar y synnwyr, i atal pobl rhag gofyn cwestiynau, ac mae'n ffordd o geisio rheoli gwleidyddion. Byddaf yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth hon oherwydd defnyddir swydd yr ombwdsmon—ac efallai na fydd rhai pobl eisiau clywed hyn, o edrych ar yr ymatebion o amgylch yr ystafell—defnyddir swydd yr ombwdsmon mewn ffordd hynod o annemocrataidd, ac ni fyddaf yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon.
A gaf fi alw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i siarad?
Wel, hoffwn gofnodi fy niolch i'r Aelod cyfrifol, Llyr Gruffydd, a'r Pwyllgor Cyllid a'u swyddogion cynorthwyol am eu hamser a'u gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gweithio'n adeiladol iawn gyda Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, i sicrhau bod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) sydd gennym ger ein bron heddiw, yn ddeddfwriaeth effeithiol a chadarn a fydd yn helpu i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn cefnogi atebolrwydd cyhoeddus. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n gallu ei gefnogi. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am graffu'n fanwl ar y Bil yn ogystal â chofnodi fy niolch i'r Aelodau a oedd yn rhan o'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y pedwerydd Cynulliad, a oedd yn allweddol iawn yn y broses o baratoi'r gwaith sylfaenol ar gyfer y Bil hwn. Y tu hwnt i'r Siambr hon, hoffwn ddiolch i bawb ledled Cymru sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Bil hwn drwy ymchwiliadau ac ymgynghoriadau amrywiol, a gynhaliwyd yn ddiweddar ac yn ystod y pedwerydd Cynulliad.
Drwy gydol yr amser y bu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried y Bil hwn, mae gwerth gwasanaeth yr ombwdsmon wedi bod yn glir iawn. Mae swyddfa'r ombwdsmon yn helpu'r bobl a gafodd gam gan wasanaethau ac nad ydynt wedi derbyn y lefel o wasanaeth y mae ganddynt yr hawl i'w ddisgwyl. Bydd y Bil hwn yn cefnogi mynediad at wasanaethau’r ombwdsmon i bobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys, am y tro cyntaf, y rheini a gafodd gam gan gwmnïau gofal iechyd preifat. Mae'n rhoi pwerau newydd i'r ombwdsmon ymchwilio i broblemau systemig ar ei liwt ei hun lle ceir tystiolaeth o broblemau eang, ailadroddus a dwfn, a bydd hefyd yn caniatáu i'r ombwdsmon chwarae rôl arweiniol yn gwella safonau ymdrin â chwynion ar draws y sector cyhoeddus. Dylai hyn arwain at fwy o gwynion yn cael eu datrys ar y pwynt cyswllt cyntaf yn hytrach na bod pobl yn gorfod troi at yr ombwdsmon, a bydd y Bil hwn yn ei gwneud yn haws i bobl wneud cwynion i'r ombwdsmon pan fo angen uwchgyfeirio materion. Mae'r diwygiadau helaeth a wnaeth y Pwyllgor Cyllid i'r Bil ers ei gyflwyno yn sicrhau y bydd yn cyflawni'r nodau hyn yn effeithiol ac y bydd yn cynnal goruchafiaeth y prosesau cwynion a gytunwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Wrth wraidd y Bil hwn, mae'r egwyddor fod prosesau cwyno effeithiol ac iach yn ffynhonnell allweddol o adborth ar gyfer cyrff cyhoeddus ac yn sbardun i wella'r gwasanaethau a gynigiwn i bobl Cymru. Yn yr ysbryd hwnnw, gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n cefnogi Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) heddiw, gan sicrhau y bydd Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad mewn perthynas â deddfwriaeth ombwdsmon a chynorthwyo ein gwasanaethau cyhoeddus i fod yn ymatebol i anghenion pobl Cymru.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gyfraniad a'r ffordd y mae wedi cymryd rhan yn y broses hon? Rydych yn iawn: rwyf wedi cydnabod rhai o'r materion a godwyd gennych i raddau a gobeithio y bydd y memorandwm esboniadol diwygiedig, fel y nodoch chi, yn cadarnhau'r hyn y credaf yw'r sefyllfa ac rwy'n siŵr fod hynny'n wir. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad hefyd ac unwaith eto, am y cydweithrediad a gawsom gyda swyddogion y Llywodraeth wrth ymdrin â'r ddeddfwriaeth hon?
O ran sylwadau Neil McEvoy, rwy'n siomedig ei fod wedi defnyddio'r cyfle hwn i wneud rhai o'r pwyntiau a wnaeth, er bod ganddo berffaith hawl i wneud hynny. Nid wyf am wneud sylwadau ar unrhyw achosion unigol. Gwyddom fod yna ffyrdd i bobl ddilyn trywydd unrhyw bryderon a allai fod ganddynt. Ni allwn anghytuno mwy â'i gyhuddiad fod yr ombwdsmon yn brin o uniondeb, yn brin o atebolrwydd ac yn brin o dryloywder. Yr hyn sydd wedi fy siomi fwyaf yw'r ffaith nad oedd gan yr Aelod unrhyw ddiddordeb yng nghyfnodau blaenorol y Bil hwn, lle gallai fod wedi cyflwyno gwelliannau i newid unrhyw ddiffygion yn y gyfraith. Dewisodd beidio â gwneud hynny. Bu'n eistedd ar ei ddwylo tra oedd ganddo gyfle i gyflwyno gwelliannau i'r Bil hwn, newidiadau i'r Bil hwn, a fyddai efallai wedi dechrau mynd i'r afael â rhai o'r pryderon a gododd. Ni wnaeth hynny, felly, yn amlwg, nid oedd yn peri cymaint â hynny o bryder iddo. Felly, mae'n flin gennyf ei fod wedi dewis eistedd ar ei ddwylo a dod yma i siarad yn orchestol ger ein bron. Ac rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom yn gweld drwy hynny.
Dwi eisiau felly ategu, os caf i, y diolchiadau y gwnes i’n flaenorol i bawb—neu bron pawb—sydd wedi ymgysylltu â’r broses yma. A dwi eisiau diolch yn arbennig, os caf i, i holl staff y Comisiwn, yn enwedig y clercod, y tîm clercio a thîm cyfreithiol y Pwyllgor Cyllid, am eu cefnogaeth aruthrol nhw a’u holl waith nhw i ddod â ni i’r pwynt yma yn y broses. A gyda hynny o eiriau, a gaf i ofyn i Aelodau gefnogi’r Bil y prynhawn yma, a thrwy hynny agor pennod newydd yng ngwaith yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ac yn y gefnogaeth a’r warchodaeth sydd yna i drigolion Cymru, yn enwedig y rheini, wrth gwrs, sy'n fwyaf dibynnol ar ein gwasanaethau cyhoeddus ni?
Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly gohiriaf y pleidleisio ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.