Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 20 Mawrth 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Mae'r adroddiad sydd ger ein bron heddiw yn edrych ar y cynnydd a wnaed ar gynllun gweithredu ffonau symudol Llywodraeth Cymru, ac mae'n dilyn ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2017 i'r seilwaith digidol yng Nghymru, pan argymhellwyd gennym y dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiadau pendant i gydweithio â Llywodraeth y DU, rheoleiddwyr a'r diwydiant i wella cysylltedd digidol a chefnogi'r seilwaith sydd ei angen ar gyfer sicrhau signal ffonau symudol gwell.
Gwyddom i gyd fod cysylltedd symudol bellach yn wasanaeth hanfodol i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, fel y mae dŵr a thrydan. Gwyddom oll pa mor ddiflas yw bod heb ein ffonau am ddwy awr neu ddiwrnod, neu efallai mewn rhai achosion—mae Suzy Davies newydd sibrwd wrthyf—mae'n hyfryd; mae'n dibynnu ar sut yr edrychwch arno. Ond mae Cymru'n dal i lusgo ar ôl rhannau eraill o'r DU mewn pethynas â signal, ac felly mae hwn wedi bod yn rhan bwysig o waith craffu'r pwyllgor.
Edrychodd ein hadroddiad diweddaru ar yr hyn a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru ers ei gynllun gweithredu ffonau symudol, a lansiwyd ym mis Hydref 2017, a gwnaethom 10 o argymhellion. Nawr, hoffwn allu dweud yr hyn rwy'n mynd i'w ddweud nesaf wrth agor pob dadl ar ran Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn ein holl argymhellion a naws gadarnhaol yr ymateb yn gyffredinol.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dechrau drwy bwysleisio bod telathrebu'n fater a gadwyd yn ôl, ac nad yw'n meddu ar yr holl ddulliau o wella signal ffonau symudol. Buaswn yn ymateb i hynny mewn dwy ffordd. Er bod hynny'n wir, Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, a gyflwynodd y cynllun gweithredu ffonau symudol, felly nid yw'n afresymol i'r pwyllgor a'r rhanddeiliaid fynnu bod y camau gweithredu hynny a gynlluniwyd yn cael eu darparu ar frys. Ac yn ail, mae'n amlwg fod gan Lywodraeth Cymru nifer o ddulliau at ei defnydd. Felly, rwy'n canolbwyntio fy sylwadau agoriadol ar y meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn meddu ar y dulliau a all osod y cyflymder, yn enwedig mewn perthynas â chynllunio ac ardrethi busnes, a thrwy gydweithio â darparwyr i ddarparu atebion mewnlenwi ar gyfer cysylltedd mewn ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd.
Ar gynllunio, gwnaeth y pwyllgor ddau argymhelliad: un ar ganllawiau arferion gorau ac un ar ganiatáu i uchder mastiau fod yn uwch o dan y gyfundrefn gynllunio a ganiateir. Roedd yn amlwg yn dda iawn gweld y cyhoeddiad y mis diwethaf fod y rheolau sy'n ymwneud ag uchder mastiau yng Nghymru wedi'u llacio o'r diwedd fel nad oes rhaid i fastiau hyd at 25m fynd drwy'r broses caniatâd cynllunio lawn. Mae hyn yn golygu, o'r mis nesaf ymlaen, y bydd y rheolau yng Nghymru bellach yn cyd-fynd â'r rhai yn Lloegr a'r Alban. Mae hyn yn rhywbeth yr argymhellodd y pwyllgor gyntaf yn ei adroddiad ar y seilwaith digidol yn 2017, pan ddywedasom y dylai Llywodraeth Cymru
'ddiwygio’r drefn gynllunio i gefnogi buddsoddiadau mewn cysylltedd digidol, yn
arbennig er mwyn caniatáu i fastiau gael eu gosod sy’n sicrhau darpariaeth ar
gyfer ardal ddaearyddol ehangach.'
Dywedasom hefyd y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda gweithredwyr ac awdurdodau cynllunio i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyfleu'n glir i'r cymunedau yr effeithir arnynt, a bod manteision allweddol cysylltedd symudol yn cael eu hybu'n weithredol. Er bod signal ffonau symudol wedi cynyddu yng Nghymru ers 2017, canfu ein hadroddiad fod y rôl roedd y cynllun gweithredu wedi'i chwarae yn y gwelliant yn aneglur, a galwasom ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei dulliau datganoledig i droi'r fantol ar hyfywedd masnachol o blaid buddsoddiad pellach mewn rhai ardaloedd problemus.
Roeddem hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru'n parhau i ymgysylltu â gweithredwyr ffonau symudol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau'r arferion gorau a chynnwys hynny yn y cod diwygiedig a chyfunol o arferion gorau a nodyn cyngor technegol 19. Dywedodd y Llywodraeth y bydd yn ystyried adolygiad o TAN 19 pan fydd gwaith pellach ar y rheoliadau hawliau datblygu a ganiateir a'r fframwaith datblygu cenedlaethol wedi'i gwblhau, a dynododd fod y gwaith hwnnw'n annhebygol o ddechrau tan 2020.
Er fy mod yn deall yr angen i wneud y gwaith hwn mewn trefn resymegol, mae angen inni symud cyn gynted â phosibl ar hyn. Y neges glir gennym ni ar y pwyllgor a chan y diwydiant oedd bod angen gweithredu'n gyflym i sicrhau nad yw Cymru'n llusgo ymhellach ar ei hôl hi. Dengys ffigurau diweddaraf Ofcom, ar bron bob mesur o signal ffonau symudol, fod Cymru y tu ôl i gyfartaledd y DU. Felly, ar gyfer cysylltedd 4G daearyddol gan y pedwar gweithredwr ffonau symudol fel ei gilydd, rydym ar 57 y cant, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 66 y cant. Sylwaf o ymateb y Llywodraeth ei bod yn credu bod lle i gyfuno TAN 19 a'r cod ymarfer yn un ddogfen, a mabwysiadu'r dull a ddefnyddir yn Lloegr drwy gael darparwyr ffonau symudol i arwain ar y gwaith hwn.
Yn amlwg o ran cynllunio bydd angen sicrhau cydbwysedd bob amser rhwng yr angen am orsafoedd i ddarparu signal a phryderon y gymuned leol ynglŷn â'r dirwedd, ond rhaid inni gydnabod disgwyliadau 90 y cant o bobl sy'n defnyddio ffonau symudol y dylent gael cysylltedd symudol llawn.
Ceir bylchau parhaus yn y cysylltedd nid yn unig rhwng Cymru a gwledydd eraill y DU, ond hefyd rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol iawn o hyn, wrth gwrs, yn fy etholaeth i, Sir Drefaldwyn. Bu'r pwyllgor yn ystyried sut y gallai ymrwymiad trawsrwydweithio gwledig helpu mewn ardaloedd lle mae'r signal yn wan, er ein bod yn cydnabod na fydd yn helpu os ydych mewn man gwan lle na cheir rhwydwaith i drawsrwydweithio arni, a'r rhwystredigaeth o golli signal. Serch hynny, roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i lobïo darparwyr ffonau symudol am fynediad cyfanwerthu gwledig, ac os nad ydynt yn ymateb yn gadarnhaol, dylai Llywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i wneud hyn yn orfodol drwy Ofcom, fel rhan o'r pecyn o fesurau i gynyddu cysylltedd. Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd y mater hwn, ac mae'n galonogol eu bod yn parhau i bwyso am hyn.
O ran ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â gweithredwyr ffonau symudol ar rinweddau rhyddhad ardrethi busnes, mae'n galonogol hefyd fod y Llywodraeth yn dweud ei bod yn edrych ar rôl cynllun cymorth ardrethi annomestig fel rhan o'r ymyriadau i fynd i'r afael â mannau gwan penodol.
Wrth gwrs, tra ydym yn ceisio unioni'r problemau gyda signal 4G, mae'r siarad eisoes wedi dechrau ar symud ymlaen i gyflwyno'r genhedlaeth nesaf o gysylltedd symudol, 5G, a chrybwyllwyd hynny mewn cyfraniadau a chwestiynau yn gynharach heddiw. Mae manteision 5G, i ddarparu band eang cyflymach a gwell—[Torri ar draws.] Fe'i cymeraf mewn eiliad, os caf, Suzy.