– Senedd Cymru am 4:01 pm ar 20 Mawrth 2019.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: diweddariad ar y cynllun gweithredu ffonau symudol, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Mae'r adroddiad sydd ger ein bron heddiw yn edrych ar y cynnydd a wnaed ar gynllun gweithredu ffonau symudol Llywodraeth Cymru, ac mae'n dilyn ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2017 i'r seilwaith digidol yng Nghymru, pan argymhellwyd gennym y dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiadau pendant i gydweithio â Llywodraeth y DU, rheoleiddwyr a'r diwydiant i wella cysylltedd digidol a chefnogi'r seilwaith sydd ei angen ar gyfer sicrhau signal ffonau symudol gwell.
Gwyddom i gyd fod cysylltedd symudol bellach yn wasanaeth hanfodol i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, fel y mae dŵr a thrydan. Gwyddom oll pa mor ddiflas yw bod heb ein ffonau am ddwy awr neu ddiwrnod, neu efallai mewn rhai achosion—mae Suzy Davies newydd sibrwd wrthyf—mae'n hyfryd; mae'n dibynnu ar sut yr edrychwch arno. Ond mae Cymru'n dal i lusgo ar ôl rhannau eraill o'r DU mewn pethynas â signal, ac felly mae hwn wedi bod yn rhan bwysig o waith craffu'r pwyllgor.
Edrychodd ein hadroddiad diweddaru ar yr hyn a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru ers ei gynllun gweithredu ffonau symudol, a lansiwyd ym mis Hydref 2017, a gwnaethom 10 o argymhellion. Nawr, hoffwn allu dweud yr hyn rwy'n mynd i'w ddweud nesaf wrth agor pob dadl ar ran Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn ein holl argymhellion a naws gadarnhaol yr ymateb yn gyffredinol.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dechrau drwy bwysleisio bod telathrebu'n fater a gadwyd yn ôl, ac nad yw'n meddu ar yr holl ddulliau o wella signal ffonau symudol. Buaswn yn ymateb i hynny mewn dwy ffordd. Er bod hynny'n wir, Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, a gyflwynodd y cynllun gweithredu ffonau symudol, felly nid yw'n afresymol i'r pwyllgor a'r rhanddeiliaid fynnu bod y camau gweithredu hynny a gynlluniwyd yn cael eu darparu ar frys. Ac yn ail, mae'n amlwg fod gan Lywodraeth Cymru nifer o ddulliau at ei defnydd. Felly, rwy'n canolbwyntio fy sylwadau agoriadol ar y meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn meddu ar y dulliau a all osod y cyflymder, yn enwedig mewn perthynas â chynllunio ac ardrethi busnes, a thrwy gydweithio â darparwyr i ddarparu atebion mewnlenwi ar gyfer cysylltedd mewn ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd.
Ar gynllunio, gwnaeth y pwyllgor ddau argymhelliad: un ar ganllawiau arferion gorau ac un ar ganiatáu i uchder mastiau fod yn uwch o dan y gyfundrefn gynllunio a ganiateir. Roedd yn amlwg yn dda iawn gweld y cyhoeddiad y mis diwethaf fod y rheolau sy'n ymwneud ag uchder mastiau yng Nghymru wedi'u llacio o'r diwedd fel nad oes rhaid i fastiau hyd at 25m fynd drwy'r broses caniatâd cynllunio lawn. Mae hyn yn golygu, o'r mis nesaf ymlaen, y bydd y rheolau yng Nghymru bellach yn cyd-fynd â'r rhai yn Lloegr a'r Alban. Mae hyn yn rhywbeth yr argymhellodd y pwyllgor gyntaf yn ei adroddiad ar y seilwaith digidol yn 2017, pan ddywedasom y dylai Llywodraeth Cymru
'ddiwygio’r drefn gynllunio i gefnogi buddsoddiadau mewn cysylltedd digidol, yn
arbennig er mwyn caniatáu i fastiau gael eu gosod sy’n sicrhau darpariaeth ar
gyfer ardal ddaearyddol ehangach.'
Dywedasom hefyd y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda gweithredwyr ac awdurdodau cynllunio i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyfleu'n glir i'r cymunedau yr effeithir arnynt, a bod manteision allweddol cysylltedd symudol yn cael eu hybu'n weithredol. Er bod signal ffonau symudol wedi cynyddu yng Nghymru ers 2017, canfu ein hadroddiad fod y rôl roedd y cynllun gweithredu wedi'i chwarae yn y gwelliant yn aneglur, a galwasom ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei dulliau datganoledig i droi'r fantol ar hyfywedd masnachol o blaid buddsoddiad pellach mewn rhai ardaloedd problemus.
Roeddem hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru'n parhau i ymgysylltu â gweithredwyr ffonau symudol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau'r arferion gorau a chynnwys hynny yn y cod diwygiedig a chyfunol o arferion gorau a nodyn cyngor technegol 19. Dywedodd y Llywodraeth y bydd yn ystyried adolygiad o TAN 19 pan fydd gwaith pellach ar y rheoliadau hawliau datblygu a ganiateir a'r fframwaith datblygu cenedlaethol wedi'i gwblhau, a dynododd fod y gwaith hwnnw'n annhebygol o ddechrau tan 2020.
Er fy mod yn deall yr angen i wneud y gwaith hwn mewn trefn resymegol, mae angen inni symud cyn gynted â phosibl ar hyn. Y neges glir gennym ni ar y pwyllgor a chan y diwydiant oedd bod angen gweithredu'n gyflym i sicrhau nad yw Cymru'n llusgo ymhellach ar ei hôl hi. Dengys ffigurau diweddaraf Ofcom, ar bron bob mesur o signal ffonau symudol, fod Cymru y tu ôl i gyfartaledd y DU. Felly, ar gyfer cysylltedd 4G daearyddol gan y pedwar gweithredwr ffonau symudol fel ei gilydd, rydym ar 57 y cant, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 66 y cant. Sylwaf o ymateb y Llywodraeth ei bod yn credu bod lle i gyfuno TAN 19 a'r cod ymarfer yn un ddogfen, a mabwysiadu'r dull a ddefnyddir yn Lloegr drwy gael darparwyr ffonau symudol i arwain ar y gwaith hwn.
Yn amlwg o ran cynllunio bydd angen sicrhau cydbwysedd bob amser rhwng yr angen am orsafoedd i ddarparu signal a phryderon y gymuned leol ynglŷn â'r dirwedd, ond rhaid inni gydnabod disgwyliadau 90 y cant o bobl sy'n defnyddio ffonau symudol y dylent gael cysylltedd symudol llawn.
Ceir bylchau parhaus yn y cysylltedd nid yn unig rhwng Cymru a gwledydd eraill y DU, ond hefyd rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol iawn o hyn, wrth gwrs, yn fy etholaeth i, Sir Drefaldwyn. Bu'r pwyllgor yn ystyried sut y gallai ymrwymiad trawsrwydweithio gwledig helpu mewn ardaloedd lle mae'r signal yn wan, er ein bod yn cydnabod na fydd yn helpu os ydych mewn man gwan lle na cheir rhwydwaith i drawsrwydweithio arni, a'r rhwystredigaeth o golli signal. Serch hynny, roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i lobïo darparwyr ffonau symudol am fynediad cyfanwerthu gwledig, ac os nad ydynt yn ymateb yn gadarnhaol, dylai Llywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i wneud hyn yn orfodol drwy Ofcom, fel rhan o'r pecyn o fesurau i gynyddu cysylltedd. Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd y mater hwn, ac mae'n galonogol eu bod yn parhau i bwyso am hyn.
O ran ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â gweithredwyr ffonau symudol ar rinweddau rhyddhad ardrethi busnes, mae'n galonogol hefyd fod y Llywodraeth yn dweud ei bod yn edrych ar rôl cynllun cymorth ardrethi annomestig fel rhan o'r ymyriadau i fynd i'r afael â mannau gwan penodol.
Wrth gwrs, tra ydym yn ceisio unioni'r problemau gyda signal 4G, mae'r siarad eisoes wedi dechrau ar symud ymlaen i gyflwyno'r genhedlaeth nesaf o gysylltedd symudol, 5G, a chrybwyllwyd hynny mewn cyfraniadau a chwestiynau yn gynharach heddiw. Mae manteision 5G, i ddarparu band eang cyflymach a gwell—[Torri ar draws.] Fe'i cymeraf mewn eiliad, os caf, Suzy.
Iawn, o'r gorau.
—a'r potensial i chwyldroi'r sectorau gweithgynhyrchu, trafnidiaeth a gofal iechyd, mae edrych ymlaen mawr at hynny. Ond mae 5G yn annhebygol o ymestyn signal rhwydweithiau symudol, gan ei fod yn ymwneud mwy â chynyddu capasiti'r rhwydwaith nag ymestyn ei gyrhaeddiad. Ac nid yw'r dechnoleg ar gyfer 5G yn elwa'n uniongyrchol o'r newid yn y rheolau datblygu a ganiateir, gan fod rhwydweithiau 5G yn debygol o weld mwy o ddefnydd o orsafoedd bach, gan wneud uchder mastiau'n llai o broblem. Ond mae'n dal yn bwysig, er hynny, inni ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi Cymru ar gyfer 5G. Mae angen inni sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn barod ar gyfer 5G. Felly, yn amlwg byddai gennym ddiddordeb mewn clywed barn y Gweinidog ar yr hyn y gellid ei wneud i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd technoleg 5G ar gyfer Cymru. Fe gymeraf ymyriad gan Suzy Davies.
Diolch yn fawr iawn, Russell. Soniasoch am 5G yno. Wrth gwrs, dyna dechnoleg arall sy'n cynnwys lefel o faes electromagnetig. Yn amlwg, ceir canllawiau sy'n bodoli eisoes ar bobl sy'n sensitif i hyn, i gyfyngu ar eu cysylltiad ag ef, ond wrth i'r Llywodraeth edrych ar gyflwyno 5G—a chytunaf yn llwyr â manteision hyn—tybed a roddir ystyriaeth i gwestiynau iechyd posibl yn rhan o'r broses honno.
Diolch i Suzy Davies am yr ymyriad. Mae'n dechnoleg eithaf newydd sydd eto i gael ei chyflwyno. Yn sicr, mae aelodau o'r pwyllgor wedi cael aelodau o'r cyhoedd yn cysylltu â ni ynglŷn â'r cwestiwn hwnnw, ond mae'r canllawiau swyddogol yn dweud nad oes unrhyw risg i iechyd pobl nac anifeiliaid. Dyna'r canllawiau swyddogol a ddarperir. Ond yn amlwg, byddai gennyf ddiddordeb yn ymateb y Gweinidog i'r pwynt hwnnw yn ogystal.
Os ydym i sicrhau cysylltedd yng Nghymru sy'n cymharu â'r DU yn ei chyfanrwydd, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy gyda'r dulliau sydd ar gael iddi yn fy marn i, felly galwaf ar y Gweinidog i nodi unrhyw feysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd. Gadewch inni ddarganfod lle mae Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd i holl wledydd y DU. Edrychaf ymlaen at glywed barn cyd-Aelodau a'r Gweinidog, ac wrth gwrs rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Cynulliad.
Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd am ei sylwadau agoriadol. O'r hyn a gofiaf, ni chymerais ran yn yr ymchwiliad llawn, ond roeddwn yno ar gyfer diwedd y gwaith, ac mae'n amlwg yn fater pwysig sy'n effeithio ar bawb ohonom. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn edrych tua'r dyfodol ac yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu seilwaith. Fodd bynnag, ceir bylchau enfawr yn y cysylltedd ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac nid yw hynny'n syndod i neb. Ceir ardaloedd yn fy rhanbarth, yn enwedig yn y Cymoedd gogleddol a Gŵyr, lle nad yw'r signal yn ddigon da, ac ymddengys bod rhai ardaloedd wedi taro wal o ran y modd y gellir eu cysylltu. Mae angen cofio, wrth symud ymlaen, nad ydym yn anghofio cymunedau nad ydynt wedi'u lleoli'n berffaith wrth sefydlu rhwydweithiau 5G. Dylai fod dosbarthiad teg ledled Cymru er mwyn caniatáu cyfle i ardaloedd sydd heb eu datblygu'n ddigonol ddal i fyny.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi nad oes gan rannau helaeth o Gymru signal 4G digonol hyd yn oed ar draws pedwar rhwydwaith neu fwy, felly gellid ystyried bod unrhyw sôn am 5G yn gynamserol iawn mewn rhai ardaloedd o'r wlad. Nid na ddylid datblygu 5G, ond mae angen inni sefydlu datblygiad 4G cyn inni symud ymlaen o bosibl.
O ran cysylltedd gwell ar lefel ehangach, ymddengys bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd wedi taro wal o ran band eang cyflym a chyflym iawn. Rwyf innau hefyd wedi gofyn cwestiynau yn y lle hwn o'r blaen ar faterion capasiti. Mewn rhannau o Gymru, yn enwedig ardaloedd lle ceir lefelau uchel o hunangyflogaeth, gwyddom y gall diogelwch economaidd pobl ddibynnu ar eu cysylltedd. Mae'n golygu a yw busnes yn llwyddiannus ai peidio, felly mae gwir angen inni fynd i'r afael â sut y gall busnesau oresgyn y rhwystr penodol hwn.
Rhaid i ni sicrhau bod cyfres lawn o opsiynau cysylltedd ar gael, gan wneud yn siŵr fod y dechnoleg bresennol yn cael ei chyflwyno'n deg ledled Cymru. O ran 5G, rwy'n bryderus o hyd fod perygl y gallem gael ein gadael ar ôl, felly credaf y byddai'n ddefnyddiol cael rhywfaint o eglurder gan y Llywodraeth yma heddiw ynglŷn â sut y maent yn integreiddio cynlluniau cyflawni 5G gyda'r gwaith presennol o wella 4G ar draws rhwydweithiau lluosog.
Roedd hyn yn ddiddorol iawn, mater cysylltedd yn yr oes fodern, a daeth rhai pethau'n amlwg ac rwyf am ganolbwyntio arnynt. Un ohonynt oedd yr elfen rhannu mastiau, lle nad oes rhaid ichi ddal ati, dro ar ôl tro, i osod mastiau gwahanol i gael yr un canlyniad os rhennir un mast gan gwmnïau. Dywedodd y Gweinidog wrthym yn y trafodaethau a gawsom ei bod wedi cael trafodaethau gyda phobl yn y Swyddfa Gartref fel y byddent yn gwneud peth gwaith diogelu ar gyfer y dyfodol ar y mastiau hynny. Clywsom gan EE eu bod yn datblygu 40 o safleoedd newydd, ac roedd eraill yn datblygu eu safleoedd, a'u bod yn barod i rannu mastiau yn y safleoedd hynny. Felly, credaf ei bod yn bwysig inni wneud hynny, oherwydd clywsom, ac fe gododd Suzy Davies hyn yn awr, fod pobl yn pryderu am y goblygiadau i iechyd o godi mastiau lluosog ar safleoedd lluosog. Felly, efallai y byddai hynny'n mynd beth o'r ffordd i helpu gyda hynny.
Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw sicrhau bod yr holl gymunedau'n symud ymlaen gyda'i gilydd yma. Ni allwn gael pobl wedi'u gadael ar ôl yn yr hyn sydd bellach yn oes ddigidol. Rwyf wedi cael negeseuon e-bost gan bobl sydd mewn gwirionedd yn mynd i rywle i ffwrdd o'u cartref er mwyn gallu cael rhywfaint o gysylltedd, er mwyn gallu gwneud hynny. Rwyf wedi clywed am bobl yn eistedd yn eu ceir gyda'u plant fel y gallant gwblhau eu gwaith cartref. Yn bendant, nid yw hynny'n foddhaol. Ac rydym yn gwybod bod pobl yn symud mwy a mwy i wneud popeth ar eu ffonau, a llawer llai ar eu cyfrifiaduron, ac mae'n debyg ein bod i gyd yn euog o wneud hynny.
Gwn o brofiad, wrth gynrychioli fy ardal i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, fod yna ddigon o fannau gwan, ac mae gennyf ddau ffôn, ac maent ar ddau rwydwaith gwahanol, ond nid yw hynny'n sicrhau bod gennyf signal llawn lle bynnag rwy'n mynd. A hyd yn oed pe bai gennyf yr holl rwydweithiau a'r holl ffonau i fynd gyda hwy, buaswn yn dal i gael mannau gwan. Felly, mae gwir angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny.
Rydym wedi clywed gan y darparwyr, ac maent wedi gofyn i'r Gweinidog ostwng ardrethi busnes, a dywedodd y Gweinidog yn hollol gywir fod yn rhaid i hynny wneud synnwyr masnachol, na allwn ostwng ardrethi busnes oni bai fod rhywbeth i'w adennill o'r cymhorthdal hwnnw—oherwydd bydd yn gymhorthdal i fusnes preifat—i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned honno. Ac o ran mentrau bach a chanolig—a dyna yw'r rhan fwyaf o'r busnesau sydd yn fy ardal i—rhaid iddynt gael cysylltedd i ddim ond dechrau hyd yn oed. Ond os ydym yn gofyn iddynt dyfu a datblygu, nid oes unrhyw ffordd y gellir gwneud hynny mewn oes ddigidol heb y cysylltedd cyflym sy'n rhaid iddynt ei gael er mwyn i hynny ddigwydd.
Mae pwysigrwydd cysylltedd symudol wedi tyfu fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf, gyda perchnogaeth ar ffonau symudol yng Nghymru dros 90 y cant ymhlith oedolion—ac yn fy mhrofiad i, gallai fod hyd yn oed yn uwch ymhlith plant. O'r defnyddwyr ffonau symudol hyn yng Nghymru, mae 57 y cant yn dweud eu bod yn defnyddio ffôn symudol i fynd ar-lein. Felly, mae pwysigrwydd cysylltedd o'r fath wedi cynyddu'n aruthrol dros gyfnod cymharol fyr o amser. Y cwestiwn wedyn yw: a yw'r diwydiant wedi cadw i fyny gyda'r datblygiadau hyn? Ar gyfer Cymru, yn anffodus, rhaid ateb nad yw wedi gwneud hynny. Dengys ystadegau mai gennym ni y mae'r cysylltedd gwaethaf yn y DU. Mae'n peri pryder, felly, i ddarllen yn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 4 o adroddiad pwyllgor yr economi a'r seilwaith fod Ofcom yn ymgynghori ar eu rhwymedigaethau. Mae eu cynnig presennol yn gosod rhwymedigaethau cysylltedd ar gyfer Cymru ar 83 y cant, er bod rhwymedigaethau cysylltedd ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi'u gosod ar 90 y cant. Yn sicr mae hyn yn sarhad ar Gymru. A allwn fod yn sicr y bydd Llywodraeth Cymru yn ddigon grymus yn ei thrafodaethau ag Ofcom, ac nad yw'n mynnu dim sy'n llai na chydraddoldeb â rhannau eraill o'r DU?
Rydym i gyd yn gwybod bod gan y drefn gynllunio ran allweddol i'w chwarae o ran y signal ffonau symudol ledled Cymru. Mae'n hanfodol felly fod y drefn gynllunio mor hyblyg a chydnaws ag y bo modd, gan adlewyrchu topograffeg a dosbarthiad y boblogaeth yng Nghymru. Roedd yr holl weithredwyr ffonau symudol o'r farn y gallai codi'r uchder a ganiateir ar gyfer mastiau o 15 i 30m gael effaith ddramatig ar signal, ac mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno bellach i ganiatáu mastiau 25m, er nad rhai 30m. Ac fel y nododd Joyce Watson, mae'n hollbwysig fod y mastiau hyn yn cael eu rhannu. Deallwn gan y gweithredwyr y bydd mastiau uwch yn caniatáu mwy o rannu. Felly, bydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr eu bod yn gweithredu'r hyn y dywedant eu bod yn ei weithredu.
Mae pawb ohonom yn gwybod bod gan y drefn gynllunio ran allweddol i'w chwarae yn y signal ffonau symudol ledled Cymru. Mae'n hanfodol felly fod y cynlluniau—. Mae'n ddrwg gennyf.
Os yw Cymru i gael rhwydwaith ffonau symudol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae'n bosibl y bydd yn rhaid iddi bwyso ar ddulliau arloesol o ymdrin â llawer o'r mannau gwan sy'n bodoli yn awr. Dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i annog arloesi o'r fath. Mae pwysigrwydd ein gwasanaethau brys a'u gallu i achub bywydau yn dibynnu ar raglen cyfathrebu symudol y gwasanaethau brys—ESMCP. Mae wedi cael cymorth gan y Swyddfa Gartref i ddarparu cyllid ar gyfer mastiau mewn ardaloedd lle nad yw'n ymarferol i ddarparwyr gwasanaethau wneud hynny. O ystyried y sylw gan EE eu bod yn cyrraedd terfynau hyfywedd masnachol o ran buddsoddiad uniongyrchol, dylai Llywodraeth Cymru edrych ar bob cyfle posibl i rannu rhai o gyfleusterau'r ESMCP. Gan fod sylwadau EE yn amlwg yn ymwneud â thopograffi Cymru, a ddylem edrych ar sut y mae rhannau o'r Alban yn ymdopi â chyfyngiadau topograffaidd tebyg?
Yn gryno, mae'n rhaid cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol ar gyflwyno cysylltedd rhyngrwyd dros gyfnod byr o amser, ond rhaid inni weld yr un cadernid mewn perthynas â'r rhwydwaith symudol, a fydd yn chwarae rhan gynyddol mewn cysylltedd dros y blynyddoedd nesaf. Rhaid inni gydnabod bod 5G, yr arloesedd newydd nesaf i'r rhwydwaith ffonau symudol, yn ehangu'n gyflym. Rhaid i Gymru fod yn barod i gofleidio'r arloesedd diweddaraf hwn. Ni allwn gael ein gweld yn llusgo ar ei hôl hi o ran mabwysiadu'r dechnoleg newydd hon. Yn wir, os ydym yn mynd i ddenu diwydiannau uwch-dechnoleg i Gymru, mae'n hanfodol ein bod ar flaen y gad yn darparu technolegau o'r fath.
Fel aelod o bwyllgor yr economi, rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon heddiw ar y cynllun gweithredu ffonau symudol wrth gwrs. Ddirprwy Weinidog, mae'n rhywbeth y gwn ei fod yn effeithio ar fusnesau yn fy etholaeth, a rhywbeth rwy'n teimlo'n wirioneddol angerddol yn ei gylch mewn gwirionedd. Felly, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor, ac mae rhai o'r Aelodau eisoes wedi cyfeirio atynt. Rwy'n credu ei fod yn dangos pa mor ddifrifol yw Llywodraeth Cymru ynglŷn â gweithio gyda'i gilydd i sicrhau nad ydym yn syrthio'n fyr o'n huchelgais i ddod yn arweinydd 5G byd-eang, ond gyda hynny mewn golwg, rydym yn gwybod bod y gystadleuaeth yn ffyrnig ar y llwyfan byd-eang, a bod y DU gyfan ar ei hôl hi, yn anffodus, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef.
Lywydd, mae chwe gwlad eisoes wedi mabwysiadu technoleg 5G, ac maent yn cynnwys yr Unol Daleithiau, Japan a Tsieina, i enwi ond rhai ohonynt. Nawr, siaradais am awtomatiaeth a 5G mewn datganiad y llynedd, ond rwyf am ddilyn llwybr ychydig yn wahanol heddiw, ac rwyf am ganolbwyntio ar yr effaith y gall 5G ei chael a dau beth yn benodol: cerbydau awtonomaidd a gofal iechyd o bell. Nawr gall rhwydweithiau 5G ymateb yn ddigon cyflym i gydlynu ceir hunan-yrru, naill ai gyda cheir yn siarad â rheolwr canolog ar groesffordd, neu geir sy'n cyfathrebu'n uniongyrchol â'i gilydd. Rydym yn meddwl weithiau fod y math hwn o dechnoleg flynyddoedd i ffwrdd, a milltiroedd i ffwrdd o fod yn realiti, ond mewn gwirionedd, rydym eisoes yn gweld cwmnïau sy'n gwneud Tesla yn gwneud camau enfawr yn y farchnad hon. Mae cwmnïau ac arbenigwyr eraill eisoes yn trafod sut y gallai technoleg 5G arwain at beidio â chael goleuadau traffig ar y strydoedd—mae ceir yn croesi, ond nid ydynt yn taro yn erbyn ei gilydd. Pan fydd gan bob car synwyryddion a chamerâu, gallent gynnwys deunydd fideo parhaus hefyd. Nawr, os ceir damwain anffodus fe fyddwch yn gallu gweld fideo o bob ongl, nid yn unig o'r ceir sy'n rhan ohoni, ond o'r holl geir yn yr un ardal ar yr un pryd.
Gan symud at ofal iechyd o bell, gwyddom y gallai cael 5G yn iawn ganiatáu i feddygon gyflawni triniaethau o bell. Mae'r oedi amser mor eithriadol o fach fel y gallai meddygon ddefnyddio robotiaid i'ch trin o 1,000 o filltiroedd i ffwrdd. Gellir trin pobl mewn mannau pell ar draws y byd gan arbenigwyr o lle bynnag y bônt, rhywbeth sy'n eithaf rhyfeddol yn fy marn i.
Felly, Lywydd, sut rydym yn gwneud yr hyn sydd i'w weld yn perthyn i'r dyfodol yn realiti heddiw? Nawr, mae'n bosibl, oherwydd gwyddom fod gwledydd eraill eisoes yn arwain y ffordd, fel y dywedais eisoes. Mae'n golygu bod yn rhaid inni ofyn cwestiynau anodd ac ailystyried sut y buom yn cyflwyno datblygiadau technoleg yn y gorffennol yma yng Nghymru ac yn y DU. A ddylem aros mewn gwirionedd tan fod pawb ar 4G, a wynebu'r risg y bydd rhai ardaloedd penodol yn colli cyfle i fod yn arloeswyr 5G? Nawr, i fod yn glir, rwyf am i bob rhan o'r wlad hon gael y cysylltedd gorau, ond rwyf hefyd am inni neidio ar y cyfleoedd sydd ar gael yn y presennol.
Nid yw fy nghenhedlaeth i'n gyfarwydd â byd heb dechnoleg, felly nid oes unrhyw reswm pam na ddylai fod gennym 5G yn ein bywydau. Fel Llywodraeth, fel gwlad, dylem fod yn gwneud prosiectau 4G a 5G ar yr un pryd, ochr yn ochr â sicrhau bod gennym ddinasoedd a chanolfannau gigabit fel yr awgrymais yn y gorffennol. Lywydd, cafwyd llawer o drafod yn y Siambr, ac mae'n aml yn ymwneud ag edrych tua'r dyfodol. Ond rydym allan o gysylltiad os credwn mai felly y mae gyda 5G, oherwydd mae 5G gyda ni, mae'r dyfodol yma nawr. Diolch.
Y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl—Lee Waters.
Diolch yn fawr. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan am natur adeiladol y cyfraniadau a diolch yn arbennig i'r pwyllgor am y gwaith ystyriol a diwyd a wnaethant ar eu hymchwiliad ac am eu hadroddiad. Gwn y cafwyd cyfraniadau nodedig i waith y pwyllgor gan bobl nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor mwyach, felly credaf fod angen inni ddiolch iddynt hwy hefyd. [Torri ar draws.] Rwy'n sôn amdanaf fy hun, ydw. [Chwerthin.]
Mae gallu defnyddio eich dyfeisiau symudol i gael mynediad at y rhyngrwyd, fel y dywedodd llawer o'r Aelodau, yn rhan hanfodol o fywyd modern, ac mae hynny'n mynd i fod yn fwy felly wrth i ryngrwyd pethau a 5G ddatblygu'n gyflym, a dyna pam y credwn fod angen i Lywodraeth y DU reoleiddio hyn fel cyfleustod allweddol. Ond nid yw'n digwydd. Nid yw'r polisi telathrebu wedi'i ddatganoli, ac Ofcom, fel y rheoleiddiwr, a Llywodraeth y DU sydd â'r prif ddulliau at eu defnydd ar gyfer gwella signal ffonau symudol a chapasiti. Ac rwy'n credu bod mwy y gallai Ofcom a Llywodraeth y DU ei wneud i wella cysylltedd symudol yng Nghymru. A soniodd Bethan Sayed am fand eang—cafodd ei dynnu i mewn i'r ddadl hon yn daclus—lle mae Llywodraeth Cymru wedi dangos yr hyn y gall ei wneud, er nad yw wedi'i ddatganoli. Ond er mwyn cyrraedd y rhan sy'n weddill o'r boblogaeth lle rydym yn cael trafferth, mae gofyn i'r DU weithio ar y cyd—mae'r un peth yn wir am ffonau symudol. Yn amlwg, mae ein topograffi a dwysedd poblogaeth yn creu heriau. Mae darparu'r cysylltedd angenrheidiol yn galw am fwy o seilwaith symudol nag y byddai mewn rhannau eraill o'r DU, ac adlewyrchir hynny yn y lefelau cysylltedd presennol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Gwn ei fod yn gwneud pwynt smala ynglŷn â bod yn aelod blaenorol o'r pwyllgor, ond a all nodi unrhyw faterion yn yr adroddiad hwn ac unrhyw safbwyntiau sydd ganddo sydd wedi newid o ganlyniad i ddod yn Weinidog yn y Llywodraeth? A yw ei safbwynt wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i'r profiad hwnnw?
Wel, credaf fod y ffaith bod yr adroddiad wedi'i dderbyn yn llawn yn awgrymu fy mod wedi fy argyhoeddi gan y dadansoddiad a'r dystiolaeth a glywais gan y pwyllgor, ac i fod yn deg, nid wyf yn meddwl bod unrhyw beth a ddywedodd y Gweinidog ar y pryd—Julie James—pan roddodd dystiolaeth i ni, yn wahanol i'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddweud yn awr. Rwy'n fwy na pharod i gyfaddef pan wyf wedi newid fy meddwl neu newid fy marn, ond yn yr achos hwn, credaf ei fod yn fwy o esblygiad di-dor.
Mae'r darlun wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i gyflwyniadau masnachol parhaus y gweithredwyr rhwydwaith symudol, ond ceir meysydd sylweddol o hyd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle nad oes signal ffonau symudol dibynadwy. Ac rwy'n bryderus iawn fod Ofcom, yn eu hymgynghoriad ar ddyfarnu sbectrwm newydd i baratoi'r ffordd ar gyfer 5G, yn argymell targedau is o lawer i Gymru na rhannau eraill o'r DU. Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, maent yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i 90 y cant o'r boblogaeth gael eu cynnwys, ac yng Nghymru maent yn pennu targed o 83 y cant. Ac fel y dywedodd David Rowlands yn gywir, mae hynny'n amlwg anghyfiawn, a bydd yn parhau'r heriau presennol a'r anfanteision sydd gan Gymru o ran darparu data a gwasanaethau digidol. Gofynnodd David Rowlands i'r Llywodraeth fod yn rymus, ac rydym wedi cyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad i Ofcom, ac rydym wedi anfon at y pwyllgor er mwyn iddynt allu gweld hwnnw ar y cam hwn, er mwyn iddynt allu trefnu eu dicter cyfiawn yn ogystal, i geisio cael hyn wedi'i newid.
Mae gan Ofcom a Llywodraeth y DU rôl ganolog o ran mynd i'r afael â llawer o'r pwyntiau a godwyd yn adroddiad y pwyllgor, ac mae'r opsiwn sbectrwm yn gyfle prin i wneud gwahaniaeth go iawn i wella cysylltedd symudol yng Nghymru. Dyna pam rydym yn eu hannog i ailystyried, ac rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor yn ymuno â'r Llywodraeth i ategu'r alwad honno.
Wedi dweud hynny, ceir meysydd lle gall Llywodraeth Cymru weithredu i wneud gwahaniaeth ac rydym yn ymrwymedig i wneud popeth a allwn. Rydym yn croesawu'r her a gwaith craffu'r pwyllgor i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn, pan allwn wneud hynny, ac i chi roi proc adeiladol i ni o bryd i'w gilydd pan fyddwch yn credu y gallem wneud rhagor. Credaf fod hynny'n rhan ddefnyddiol o'r gwaith craffu y mae'r lle hwn yn bodoli ar gyfer ei wneud.
Mae'r cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar naw maes allweddol lle gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei dulliau. Yn rhai o'r meysydd hyn, ein rôl yw hwyluso, ac mewn eraill gallwn ymyrryd yn fwy uniongyrchol. Rydym wedi gwneud cynnydd mewn nifer o feysydd allweddol. Rydym wedi cyflwyno dogfen newydd 'Polisi Cynllunio Cymru', sy'n annog awdurdodau cynllunio a gweithredwyr ffonau symudol i weithio ar y cyd. O 1 Ebrill, bydd uchder y mastiau o dan hawl datblygu a ganiateir yn codi o 15m i 25m, neu 20m mewn tirweddau a ddiogelir. Mae hwnnw'n gynnydd ychwanegol sylweddol, heb fod angen caniatâd cynllunio. Os yw darparwyr ffonau symudol eisiau ac yn gallu cyfiawnhau mastiau uwch, gallant fynd drwy'r broses gynllunio i roi hawl i gymunedau ddweud eu dweud, a chredwn fod hynny'n iawn.
Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol sydd ar y ffordd yn debygol o ddarparu polisïau mwy rhagweithiol ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol a'r diwydiant er mwyn iddynt allu gweithredu mewn ardaloedd lle mae'r signal yn gyfyngedig neu lle nad oes signal o gwbl. Clywais yr hyn a ddywedodd Russell George am TAN 19, a gallaf adrodd i'r Siambr fod ein swyddogion wedi cyfarfod â'r diwydiant ddoe ac wedi cael sgwrs adeiladol iawn. Pan gwblheir y fframwaith datblygu cenedlaethol yn yr haf, byddwn yn gofyn i'r diwydiant gydgynhyrchu canllaw arferion gorau. Ond fel y dywedwn, mae'n dal yn agored iddynt wneud fel y maent wedi'i wneud yn Lloegr a chymryd yr awenau. Ond byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i weithio gyda hwy ar hynny.
Ar 5G, rydym wedi comisiynu Innovation Point i nodi a datblygu hyd at dri phrosiect strategol, a disgwyliwn i'r gwaith hwn gael ei gwblhau cyn hir. I'r Aelodau a dynnodd sylw at y pryderon iechyd, rwyf innau hefyd fel Aelod etholaeth wedi cael yr ohebiaeth honno, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod yn wyliadwrus ynghylch y dechnoleg newydd hon wrth iddi ymddangos. Ar hyn o bryd rydym yn cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England ar hyn ac rydym yn cadw llygad ar hynny. Mae 5G yn dal i fod yn dechnoleg sydd ar gam cynnar iawn, ac fe wnawn yn siŵr, wrth iddi gael ei chyflwyno, y bydd yn parhau i gydymffurfio â'r canllawiau a'r safonau y byddem yn disgwyl iddi gydymffurfio â hwy. Mae'n bwysig ein bod yn cadw hyder y cyhoedd wrth ei wneud.
Gan symud ymlaen, mae Trafnidiaeth Cymru drwy eu contract rheilffyrdd wedi comisiynu Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru i sicrhau gwell cysylltedd symudol ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Drwy fod yn berchen ar y rhwydwaith rheilffyrdd bellach, mae gennym gyfle i ddefnyddio'r tir ar gyfer mastiau ac ar gyfer gwella cysylltedd. Bydd mastiau a ariennir o bwrs y wlad a adeiladir o dan y contract cyfathrebu newydd ar gyfer y gwasanaethau brys yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol drwy ddefnyddio sylfeini mastiau mwy o faint a thyrau cadarn sy'n gallu cynnal gweithredwyr lluosog, fel y nododd Joyce Watson. Rydym yn datblygu dull mwy lleol o wella cysylltedd symudol mewn parthau gweithredu symudol penodol. Yno, gallwn dargedu ymyriadau megis rhyddhad ardrethi busnes lle credwn fod achos dros weithredu lle na fyddai'r farchnad yn gweithredu fel arall.
Rydym yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a'r gweithredwyr i ddatblygu achos busnes ar gyfer buddsoddiad gan y sector cyhoeddus mewn seilwaith symudol ac rydym ar hyn o bryd yn datblygu cynigion ar gyfer cynllun cymorth ardrethi annomestig lle gellir ei gyfuno ag ymyriadau eraill megis seilwaith a ariennir o bwrs y wlad yn y parthau a gweithio gydag awdurdodau lleol ar sut y gellid defnyddio'r system gynllunio i annog defnydd o seilwaith i mewn i barthau gweithredu symudol. Felly mae yna gamau ymarferol y gallwn eu rhoi ar waith ac sydd eisoes ar y gweill.
Droeon dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi mynegi ein cred y dylai trawsrwydweithio symudol sy'n canolbwyntio ar ardaloedd gwledig chwarae rôl ganolog yn gwella cysylltedd symudol mewn mannau sy'n rhannol wan. Mae Ofcom wedi nodi parodrwydd i edrych ar hynny, fel y mae Llywodraeth y DU. Yn amlwg, nid yw'n ddelfrydol, oherwydd, mewn ardal wledig, os ydych yn trawsrwydweithio, bydd eich galwad yn cael ei cholli a byddai'n rhaid ichi ailgysylltu â gweithredwr arall, ond ar hyn o bryd mae eich galwad yn cael ei cholli ac nid yw'n cysylltu ag unrhyw un, felly, yn amlwg, fe fyddai'n welliant.
Felly, Lywydd, yn gyffredinol, rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd da. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth. Nid yw'r prif ddulliau yn ein dwylo ni ond nid ydym wedi defnyddio hynny fel esgus i beidio â gwneud unrhyw beth. Ond rwy'n siŵr fod rhagor y gallwn ei wneud ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelod i nodi hynny, fel y gallwn fynd ati gyda'n gilydd i wella'r gwasanaeth ar gyfer pobl Cymru.
Cadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl—Russell George.
Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma? Ar ddechrau'r ddadl, nododd Bethan Sayed y bobl yn y mannau gwan hynny wrth gwrs. Ac er y bydd rhai pobl a allai fod yn gwylio'r ddadl hon yn sgrechian ar y sgrin, ac yn dweud, 'Arhoswch funud, ni allwn gael unrhyw signal o gwbl, pam eich bod yn sôn am 5G?', wrth gwrs, gall un dechnoleg ategu'r llall. Nid yw'n gystadleuaeth rhwng y ddwy, ac wrth gwrs, doedd Bethan ddim yn awgrymu hynny hyd yn oed. Rwy'n falch iawn fod Bethan wedi nodi hynny. A'r hyn y gallaf ei ddweud wrth y bobl yn y mannau gwan hynny yw bod y pwyllgor yn sicr yn gwrando arnynt, ac yn bendant, fy marn i yw y dylai'r ardaloedd hynny fynd yn syth o fod yn fannau gwan i'r dechnoleg ddiweddaraf. Dyna ddylai ddigwydd.
Tynnodd Joyce Watson sylw at nifer o feysydd. Un maes y cyfeiriodd ato, wrth gwrs, yw ei bod yn bwysig i fusnesau gael cysylltedd. Mae hynny'n bwysig tu hwnt—nad ydym yn cael ein gadael ar ôl a bod gan fusnesau gysylltedd da. Ac rwy'n cael fy atgoffa o enghraifft y cyngor a roddir i ffermwyr, o safbwynt iechyd a diogelwch, i gadw eu ffonau symudol yn eu pocedi bob amser—peidiwch â'i adael yn y tractor, oherwydd, os byddwch yn cael damwain, efallai na fyddwch yn gallu cael gafael arno. Ond pa ddefnydd yw'r cyngor hwnnw os nad oes gennych signal, sydd mor aml yn wir mewn ardaloedd gwledig iawn lle mae ffermwyr yn gweithio ar eu pen eu hunain?
Credaf fod Joyce Watson a David Rowlands hefyd wedi crybwyll mastiau uwch a'r angen i weithredwyr rannu seilwaith yn ogystal. Mae gweithredwyr yn gwneud hynny, sydd i'w groesawu, a'r hyn y maent yn ei ddweud wrthym yw eu bod yn fwy tebygol o rannu os yw'n haws iddynt gael mastiau uwch. Wel, nawr ein bod yn gweld y newid hwnnw yn y drefn gynllunio, byddwn yn cadw llygad agos ar y gweithredwyr ffonau symudol i weld eu bod yn gwneud hynny.
Soniodd David Rowlands hefyd—fel y gwnaeth y Dirprwy Weinidog—am arwerthiant sbectrwm 700 MHz Ofcom, ac rwy'n meddwl bod y Dirprwy Weinidog wedi gosod her i'r pwyllgor lobïo Ofcom hefyd i godi'r bar yn y maes hwn o ran gwneud yn siŵr ein bod yn cael chwarae teg gyda gweddill y DU. Ac rydym wedi gwneud hynny. Gallaf ddweud hynny. Ddirprwy Weinidog, rydym wedi ysgrifennu llythyr tebyg iawn at ymgynghoriad Ofcom, ar hyd yr un llinellau â'ch llythyr chi at Ofcom.
Siaradodd Jack Sargeant a David Rowlands am 5G a bod yn barod ar gyfer 5G. Mae'r dechnoleg hon yn dal i fod heb ei chyflwyno eto, ond mae'n bwysig ein bod yn barod ar gyfer 5G. Nid yw'n rhy bell yn y dyfodol. Ac rwy'n meddwl, yn amlwg, fod angen 5G ar gyfer awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial, meysydd y mae'r Dirprwy Weinidog yn frwd yn eu cylch, yn ogystal ag aelodau'r pwyllgor. Felly, mae hwn yn faes pwysig. Nid ydym am fod y genedl olaf yn y DU i fabwysiadu'r dechnoleg hon a'r olaf i fod yn barod ar gyfer 5G. Hoffwn osod yr her: pam na allwn fod ar y blaen i unrhyw genedl arall yn y DU? Pam na allwn arwain y ffordd y tro hwn yn hytrach na bod ar ei hôl hi fel rydym wedi bod mewn agweddau eraill o gysylltedd symudol?
Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid a roddodd dystiolaeth, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig. Diolch i aelodau'r pwyllgor. Diolch i'r tîm clercio a'r tîm integredig am eu cymorth hefyd, a'r rhai a gymerodd ran yn y ddadl heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ddiolch i'w hun. [Chwerthin.] Ond rwy'n cymeradwyo ein hadroddiad heddiw i'r Cynulliad.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yna.