6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:28, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, credaf fod y ffaith bod yr adroddiad wedi'i dderbyn yn llawn yn awgrymu fy mod wedi fy argyhoeddi gan y dadansoddiad a'r dystiolaeth a glywais gan y pwyllgor, ac i fod yn deg, nid wyf yn meddwl bod unrhyw beth a ddywedodd y Gweinidog ar y pryd—Julie James—pan roddodd dystiolaeth i ni, yn wahanol i'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddweud yn awr. Rwy'n fwy na pharod i gyfaddef pan wyf wedi newid fy meddwl neu newid fy marn, ond yn yr achos hwn, credaf ei fod yn fwy o esblygiad di-dor.

Mae'r darlun wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i gyflwyniadau masnachol parhaus y gweithredwyr rhwydwaith symudol, ond ceir meysydd sylweddol o hyd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle nad oes signal ffonau symudol dibynadwy. Ac rwy'n bryderus iawn fod Ofcom, yn eu hymgynghoriad ar ddyfarnu sbectrwm newydd i baratoi'r ffordd ar gyfer 5G, yn argymell targedau is o lawer i Gymru na rhannau eraill o'r DU. Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, maent yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i 90 y cant o'r boblogaeth gael eu cynnwys, ac yng Nghymru maent yn pennu targed o 83 y cant. Ac fel y dywedodd David Rowlands yn gywir, mae hynny'n amlwg anghyfiawn, a bydd yn parhau'r heriau presennol a'r anfanteision sydd gan Gymru o ran darparu data a gwasanaethau digidol. Gofynnodd David Rowlands i'r Llywodraeth fod yn rymus, ac rydym wedi cyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad i Ofcom, ac rydym wedi anfon at y pwyllgor er mwyn iddynt allu gweld hwnnw ar y cam hwn, er mwyn iddynt allu trefnu eu dicter cyfiawn yn ogystal, i geisio cael hyn wedi'i newid.

Mae gan Ofcom a Llywodraeth y DU rôl ganolog o ran mynd i'r afael â llawer o'r pwyntiau a godwyd yn adroddiad y pwyllgor, ac mae'r opsiwn sbectrwm yn gyfle prin i wneud gwahaniaeth go iawn i wella cysylltedd symudol yng Nghymru. Dyna pam rydym yn eu hannog i ailystyried, ac rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor yn ymuno â'r Llywodraeth i ategu'r alwad honno.

Wedi dweud hynny, ceir meysydd lle gall Llywodraeth Cymru weithredu i wneud gwahaniaeth ac rydym yn ymrwymedig i wneud popeth a allwn. Rydym yn croesawu'r her a gwaith craffu'r pwyllgor i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn, pan allwn wneud hynny, ac i chi roi proc adeiladol i ni o bryd i'w gilydd pan fyddwch yn credu y gallem wneud rhagor. Credaf fod hynny'n rhan ddefnyddiol o'r gwaith craffu y mae'r lle hwn yn bodoli ar gyfer ei wneud.

Mae'r cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar naw maes allweddol lle gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei dulliau. Yn rhai o'r meysydd hyn, ein rôl yw hwyluso, ac mewn eraill gallwn ymyrryd yn fwy uniongyrchol. Rydym wedi gwneud cynnydd mewn nifer o feysydd allweddol. Rydym wedi cyflwyno dogfen newydd 'Polisi Cynllunio Cymru', sy'n annog awdurdodau cynllunio a gweithredwyr ffonau symudol i weithio ar y cyd. O 1 Ebrill, bydd uchder y mastiau o dan hawl datblygu a ganiateir yn codi o 15m i 25m, neu 20m mewn tirweddau a ddiogelir. Mae hwnnw'n gynnydd ychwanegol sylweddol, heb fod angen caniatâd cynllunio. Os yw darparwyr ffonau symudol eisiau ac yn gallu cyfiawnhau mastiau uwch, gallant fynd drwy'r broses gynllunio i roi hawl i gymunedau ddweud eu dweud, a chredwn fod hynny'n iawn.

Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol sydd ar y ffordd yn debygol o ddarparu polisïau mwy rhagweithiol ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol a'r diwydiant er mwyn iddynt allu gweithredu mewn ardaloedd lle mae'r signal yn gyfyngedig neu lle nad oes signal o gwbl. Clywais yr hyn a ddywedodd Russell George am TAN 19, a gallaf adrodd i'r Siambr fod ein swyddogion wedi cyfarfod â'r diwydiant ddoe ac wedi cael sgwrs adeiladol iawn. Pan gwblheir y fframwaith datblygu cenedlaethol yn yr haf, byddwn yn gofyn i'r diwydiant gydgynhyrchu canllaw arferion gorau. Ond fel y dywedwn, mae'n dal yn agored iddynt wneud fel y maent wedi'i wneud yn Lloegr a chymryd yr awenau. Ond byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i weithio gyda hwy ar hynny.

Ar 5G, rydym wedi comisiynu Innovation Point i nodi a datblygu hyd at dri phrosiect strategol, a disgwyliwn i'r gwaith hwn gael ei gwblhau cyn hir. I'r Aelodau a dynnodd sylw at y pryderon iechyd, rwyf innau hefyd fel Aelod etholaeth wedi cael yr ohebiaeth honno, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod yn wyliadwrus ynghylch y dechnoleg newydd hon wrth iddi ymddangos. Ar hyn o bryd rydym yn cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England ar hyn ac rydym yn cadw llygad ar hynny. Mae 5G yn dal i fod yn dechnoleg sydd ar gam cynnar iawn, ac fe wnawn yn siŵr, wrth iddi gael ei chyflwyno, y bydd yn parhau i gydymffurfio â'r canllawiau a'r safonau y byddem yn disgwyl iddi gydymffurfio â hwy. Mae'n bwysig ein bod yn cadw hyder y cyhoedd wrth ei wneud.

Gan symud ymlaen, mae Trafnidiaeth Cymru drwy eu contract rheilffyrdd wedi comisiynu Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru i sicrhau gwell cysylltedd symudol ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Drwy fod yn berchen ar y rhwydwaith rheilffyrdd bellach, mae gennym gyfle i ddefnyddio'r tir ar gyfer mastiau ac ar gyfer gwella cysylltedd. Bydd mastiau a ariennir o bwrs y wlad a adeiladir o dan y contract cyfathrebu newydd ar gyfer y gwasanaethau brys yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol drwy ddefnyddio sylfeini mastiau mwy o faint a thyrau cadarn sy'n gallu cynnal gweithredwyr lluosog, fel y nododd Joyce Watson. Rydym yn datblygu dull mwy lleol o wella cysylltedd symudol mewn parthau gweithredu symudol penodol. Yno, gallwn dargedu ymyriadau megis rhyddhad ardrethi busnes lle credwn fod achos dros weithredu lle na fyddai'r farchnad yn gweithredu fel arall.

Rydym yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a'r gweithredwyr i ddatblygu achos busnes ar gyfer buddsoddiad gan y sector cyhoeddus mewn seilwaith symudol ac rydym ar hyn o bryd yn datblygu cynigion ar gyfer cynllun cymorth ardrethi annomestig lle gellir ei gyfuno ag ymyriadau eraill megis seilwaith a ariennir o bwrs y wlad yn y parthau a gweithio gydag awdurdodau lleol ar sut y gellid defnyddio'r system gynllunio i annog defnydd o seilwaith i mewn i barthau gweithredu symudol. Felly mae yna gamau ymarferol y gallwn eu rhoi ar waith ac sydd eisoes ar y gweill.

Droeon dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi mynegi ein cred y dylai trawsrwydweithio symudol sy'n canolbwyntio ar ardaloedd gwledig chwarae rôl ganolog yn gwella cysylltedd symudol mewn mannau sy'n rhannol wan. Mae Ofcom wedi nodi parodrwydd i edrych ar hynny, fel y mae Llywodraeth y DU. Yn amlwg, nid yw'n ddelfrydol, oherwydd, mewn ardal wledig, os ydych yn trawsrwydweithio, bydd eich galwad yn cael ei cholli a byddai'n rhaid ichi ailgysylltu â gweithredwr arall, ond ar hyn o bryd mae eich galwad yn cael ei cholli ac nid yw'n cysylltu ag unrhyw un, felly, yn amlwg, fe fyddai'n welliant.

Felly, Lywydd, yn gyffredinol, rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd da. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth. Nid yw'r prif ddulliau yn ein dwylo ni ond nid ydym wedi defnyddio hynny fel esgus i beidio â gwneud unrhyw beth. Ond rwy'n siŵr fod rhagor y gallwn ei wneud ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelod i nodi hynny, fel y gallwn fynd ati gyda'n gilydd i wella'r gwasanaeth ar gyfer pobl Cymru.