Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 20 Mawrth 2019.
Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau dadl ar effaith Brexit pan fo cymaint yn dal yn aneglur, ond nid wyf am inni ganolbwyntio ein trafodaethau ar i ba raddau rydym yn cytuno â Brexit neu ar y pleidleisiau sy'n digwydd yn Senedd y DU. Yn hytrach, ein nod wrth gyflwyno'r ddadl hon heddiw yw trafod yr effaith bosibl y gallai Brexit ei chael ar fyfyrwyr a darparwyr addysg yng Nghymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gawsom gan arbenigwyr yn y maes a'r rhai ar y rheng flaen.
Roedd hwn yn ymchwiliad heriol a ystyriwyd mewn cyd-destun a oedd, ac sydd o hyd, yn newid yn barhaus. Oherwydd y tirlun newidiol hwn a'r ansicrwydd ynghylch Brexit, ni ddaeth nifer o faterion arwyddocaol yn gliriach hyd nes i'r ymchwiliad fynd rhagddo. Mae'r ffordd y gwnaethom ein gwaith a siâp y casgliadau a'r argymhellion yn yr adroddiad yn adlewyrchu'r ansicrwydd hwn.
Daeth y pwyllgor i dri chasgliad bras. Casgliad 1: byddai Brexit gweddol ffafriol hyd yn oed o dan y cynlluniau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i'r sector addysg uwch addasu a newid yn ei feysydd gwaith pwysicaf, a bydd angen i'r sector addysg bellach hefyd, gyda'u cyrff staff a myfyrwyr rhyngwladol llawer llai, ymateb i newidiadau sy'n gysylltiedig â Brexit yn eu heconomïau lleol. Casgliad 2: er gwaethaf gwarantau ariannol y Trysorlys, byddai senario 'dim bargen' yn dal i aflonyddu'n sylweddol ar y ddau sector, ac yn aflonyddu'n ddwfn iawn ar y sector addysg uwch. Casgliad 3: gwelsom mai ychydig o gyfleoedd a fyddai'n deillio o Brexit i'r naill sector fel y llall yn y tymor byr, ac roedd y rhai a nodwyd yn codi'n unig yng nghyd-destun gwneud y gorau o Brexit.
O fewn y tri maes bras hwn a'r materion allweddol a ddaeth i'r amlwg, gwnaeth y pwyllgor 12 o argymhellion. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi gallu derbyn pob un o'r 12 argymhelliad naill ai'n llawn, yn rhannol neu mewn egwyddor. Fodd bynnag, ers cyhoeddi'r adroddiad ym mis Rhagfyr 2018, mae'r tebygolrwydd o Brexit 'dim bargen' a'r angen o ganlyniad i hynny am gynlluniau Llywodraeth Cymru clir a rhagweithiol i liniaru'r effaith ar staff, myfyrwyr a darparwyr wedi cynyddu'n sylweddol. Felly roeddem yn pryderu, mewn perthynas â nifer o'r argymhellion, na ddarparodd ymateb cychwynnol y Llywodraeth ddigon o eglurder, neu ei bod wedi methu ymateb i'r holl argymhellion penodol a wnaed.
Gyda chymaint yn dal i fod yn aneglur, rhaid inni ei wneud yn nod cyffredin i leihau cymaint â phosibl o'r ansicrwydd i staff a myfyrwyr. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yr wythnos diwethaf, sy'n rhoi eglurder pellach ar nifer o bwyntiau. Bydd y pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ychwanegol hon ochr yn ochr â'i hymateb i'r ddadl heddiw.
Nid wyf yn bwriadu mynd drwy bob un o'r 12 argymhelliad heddiw; yn hytrach, byddai'n well gennyf ganolbwyntio fy sylwadau ar dri o'r meysydd allweddol a geir yn yr adroddiad: mewnfudo myfyrwyr a staff, effaith Brexit ar raglenni UE megis Erasmus+, a bodloni galwadau diwydiant am sgiliau ar ôl Brexit.
Yn gyntaf, mewnfudo myfyrwyr a staff: roedd cyfyngiadau mewnfudo newydd ar gyfer staff a myfyrwyr o'r UE yn fater allweddol a ystyriwyd yn ystod yr ymchwiliad. Roedd y dystiolaeth a gawsom yn dangos y byddai newid o'r status quo mewnfudo presennol i system fwy cyfyngedig yn effeithio'n andwyol ar brifysgolion. I leihau ansicrwydd, mae angen cyn lleied â phosibl o newid i'r rheolau sy'n rheoli symudiad staff a myfyrwyr o'r UE.
Roeddem hefyd yn cydnabod nad yw mewnfudo myfyriwr yn gyfyngedig i fyfyrwyr yr UE. Mae'r pwyllgor yn credu felly y dylid dwyn y rheolau mewnfudo ar gyfer myfyrwyr o'r UE a myfyrwyr rhyngwladol eraill at ei gilydd yn un set o reolau ar gyfer pob myfyriwr rhyngwladol sy'n dod i Gymru. Wrth dynnu sylw at yr egwyddor y dylai fod cyn lleied o aflonyddu â phosibl ar staff a myfyrwyr, roedd y pwyllgor yn ymwybodol mai mater i eraill yw pennu manylion y rheolau. Ein barn glir, fodd bynnag, yw y dylai Cymru allu pennu ei chyfeiriad ei hun ar hyn.
Felly, ein hargymhelliad oedd y dylai Llywodraeth Cymru fynnu pwerau gweithredol, drwy Fil Mewnfudo y DU, sy'n caniatáu iddi wneud rheolau mewnfudo gwahanol yn benodol ar gyfer myfyrwyr a staff academaidd yng Nghymru. Mae'n bwysig nodi bod hyn yn wahanol i geisio cymhwysedd deddfwriaethol dros fewnfudo. Ers cyhoeddi'r adroddiad, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn yn ymgynghori ar system fewnfudo'r DU yn y dyfodol, ac mae wedi cyflwyno ei Bil Mewnfudo. Ymddengys bod y Bil hwn yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiddymu cyfraith rhyddid i symud yn y DU. Mae hyn yn golygu, pe bai Brexit 'dim bargen' yn digwydd, nad oes raid dod â rhyddid i symud i ben ar unwaith.