– Senedd Cymru am 4:39 pm ar 20 Mawrth 2019.
Sy'n dod â ni at yr eitem nesaf a'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Gradd ar Wahân? Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach', a dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Lynne Neagle.
Diolch ichi, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Gradd ar Wahân?', sy'n trafod effaith Brexit ar addysg uwch ac addysg bellach. Bydd Aelodau'r Siambr hon yn gwbl ymwybodol o fy safbwyntiau ar Brexit, ond ar ddechrau'r ddadl hon, mae'n bwysig i mi bwysleisio fy mod yn cyfrannu y prynhawn yma fel Cadeirydd y pwyllgor. Mae'r sylwadau y byddaf yn eu gwneud yn deillio o'r adroddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gytunwyd gennym fel pwyllgor trawsbleidiol, a bydd y safbwyntiau y byddaf yn eu mynegi yn adlewyrchu'r argymhellion a wnaethom gyda'n gilydd.
Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau dadl ar effaith Brexit pan fo cymaint yn dal yn aneglur, ond nid wyf am inni ganolbwyntio ein trafodaethau ar i ba raddau rydym yn cytuno â Brexit neu ar y pleidleisiau sy'n digwydd yn Senedd y DU. Yn hytrach, ein nod wrth gyflwyno'r ddadl hon heddiw yw trafod yr effaith bosibl y gallai Brexit ei chael ar fyfyrwyr a darparwyr addysg yng Nghymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gawsom gan arbenigwyr yn y maes a'r rhai ar y rheng flaen.
Roedd hwn yn ymchwiliad heriol a ystyriwyd mewn cyd-destun a oedd, ac sydd o hyd, yn newid yn barhaus. Oherwydd y tirlun newidiol hwn a'r ansicrwydd ynghylch Brexit, ni ddaeth nifer o faterion arwyddocaol yn gliriach hyd nes i'r ymchwiliad fynd rhagddo. Mae'r ffordd y gwnaethom ein gwaith a siâp y casgliadau a'r argymhellion yn yr adroddiad yn adlewyrchu'r ansicrwydd hwn.
Daeth y pwyllgor i dri chasgliad bras. Casgliad 1: byddai Brexit gweddol ffafriol hyd yn oed o dan y cynlluniau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i'r sector addysg uwch addasu a newid yn ei feysydd gwaith pwysicaf, a bydd angen i'r sector addysg bellach hefyd, gyda'u cyrff staff a myfyrwyr rhyngwladol llawer llai, ymateb i newidiadau sy'n gysylltiedig â Brexit yn eu heconomïau lleol. Casgliad 2: er gwaethaf gwarantau ariannol y Trysorlys, byddai senario 'dim bargen' yn dal i aflonyddu'n sylweddol ar y ddau sector, ac yn aflonyddu'n ddwfn iawn ar y sector addysg uwch. Casgliad 3: gwelsom mai ychydig o gyfleoedd a fyddai'n deillio o Brexit i'r naill sector fel y llall yn y tymor byr, ac roedd y rhai a nodwyd yn codi'n unig yng nghyd-destun gwneud y gorau o Brexit.
O fewn y tri maes bras hwn a'r materion allweddol a ddaeth i'r amlwg, gwnaeth y pwyllgor 12 o argymhellion. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi gallu derbyn pob un o'r 12 argymhelliad naill ai'n llawn, yn rhannol neu mewn egwyddor. Fodd bynnag, ers cyhoeddi'r adroddiad ym mis Rhagfyr 2018, mae'r tebygolrwydd o Brexit 'dim bargen' a'r angen o ganlyniad i hynny am gynlluniau Llywodraeth Cymru clir a rhagweithiol i liniaru'r effaith ar staff, myfyrwyr a darparwyr wedi cynyddu'n sylweddol. Felly roeddem yn pryderu, mewn perthynas â nifer o'r argymhellion, na ddarparodd ymateb cychwynnol y Llywodraeth ddigon o eglurder, neu ei bod wedi methu ymateb i'r holl argymhellion penodol a wnaed.
Gyda chymaint yn dal i fod yn aneglur, rhaid inni ei wneud yn nod cyffredin i leihau cymaint â phosibl o'r ansicrwydd i staff a myfyrwyr. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yr wythnos diwethaf, sy'n rhoi eglurder pellach ar nifer o bwyntiau. Bydd y pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ychwanegol hon ochr yn ochr â'i hymateb i'r ddadl heddiw.
Nid wyf yn bwriadu mynd drwy bob un o'r 12 argymhelliad heddiw; yn hytrach, byddai'n well gennyf ganolbwyntio fy sylwadau ar dri o'r meysydd allweddol a geir yn yr adroddiad: mewnfudo myfyrwyr a staff, effaith Brexit ar raglenni UE megis Erasmus+, a bodloni galwadau diwydiant am sgiliau ar ôl Brexit.
Yn gyntaf, mewnfudo myfyrwyr a staff: roedd cyfyngiadau mewnfudo newydd ar gyfer staff a myfyrwyr o'r UE yn fater allweddol a ystyriwyd yn ystod yr ymchwiliad. Roedd y dystiolaeth a gawsom yn dangos y byddai newid o'r status quo mewnfudo presennol i system fwy cyfyngedig yn effeithio'n andwyol ar brifysgolion. I leihau ansicrwydd, mae angen cyn lleied â phosibl o newid i'r rheolau sy'n rheoli symudiad staff a myfyrwyr o'r UE.
Roeddem hefyd yn cydnabod nad yw mewnfudo myfyriwr yn gyfyngedig i fyfyrwyr yr UE. Mae'r pwyllgor yn credu felly y dylid dwyn y rheolau mewnfudo ar gyfer myfyrwyr o'r UE a myfyrwyr rhyngwladol eraill at ei gilydd yn un set o reolau ar gyfer pob myfyriwr rhyngwladol sy'n dod i Gymru. Wrth dynnu sylw at yr egwyddor y dylai fod cyn lleied o aflonyddu â phosibl ar staff a myfyrwyr, roedd y pwyllgor yn ymwybodol mai mater i eraill yw pennu manylion y rheolau. Ein barn glir, fodd bynnag, yw y dylai Cymru allu pennu ei chyfeiriad ei hun ar hyn.
Felly, ein hargymhelliad oedd y dylai Llywodraeth Cymru fynnu pwerau gweithredol, drwy Fil Mewnfudo y DU, sy'n caniatáu iddi wneud rheolau mewnfudo gwahanol yn benodol ar gyfer myfyrwyr a staff academaidd yng Nghymru. Mae'n bwysig nodi bod hyn yn wahanol i geisio cymhwysedd deddfwriaethol dros fewnfudo. Ers cyhoeddi'r adroddiad, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn yn ymgynghori ar system fewnfudo'r DU yn y dyfodol, ac mae wedi cyflwyno ei Bil Mewnfudo. Ymddengys bod y Bil hwn yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiddymu cyfraith rhyddid i symud yn y DU. Mae hyn yn golygu, pe bai Brexit 'dim bargen' yn digwydd, nad oes raid dod â rhyddid i symud i ben ar unwaith.
Oherwydd y camau hyn ar lefel y DU, efallai na fydd angen yr argymhelliad penodol a wnaed gan y pwyllgor mwyach, ond mae'r egwyddorion sy'n sail iddo yn parhau'n bwysig. Yn ei hymateb diweddar, amlinellodd y Gweinidog y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud yn ceisio cyfrannu at, a llywio datblygiad polisi mewnfudo yn y DU. Mae'n destun pryder, fodd bynnag, fod safbwynt y Llywodraeth ar hyn yn dal i'w weld yn un o 'aros a gweld' cyn penderfynu ar reolau gwahaniaethol, yn hytrach na mabwysiadu ymagwedd ragweithiol, fel yr argymhellwyd gennym. Nodwn fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgysylltu â'r Swyddfa Gartref i dynnu sylw at ei phrif amcanion ar gyfer y sector addysg uwch. Er ein bod yn croesawu'r dull hwn o weithredu, fel pwyllgor, byddwn yn monitro hyn yn ofalus ac yn gofyn am ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd.
Yn olaf ar y pwynt hwn, nodwn gyhoeddiad yr adroddiad ar fewnfudo yng Nghymru gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddydd Llun. Nid yw'r pwyllgor wedi cael cyfle i ystyried hwn, ond nodwn nad yw'n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Byddwn yn ystyried ei gynnwys wrth inni fonitro gwaith parhaus Llywodraeth Cymru.
Trof yn awr at effaith Brexit ar raglenni fel Erasmus+ a Horizon. Mewn tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig a gafodd y pwyllgor, cafwyd consensws llwyr ynglŷn â gwerth a phwysigrwydd lleoliadau symudedd rhyngwladol i fyfyrwyr a staff. Er mai un yn unig o sawl cynllun symudedd yw Erasmus+, clywsom yn eglur y byddai parhau i gymryd rhan ynddo ar ôl Brexit 'yn dal i fod yn fuddiol iawn'.
Ac fel yr amlinellodd yr adroddiad, mae'r pwyllgor yn credu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gadw cyfranogiad Erasmus+. Fodd bynnag, mae myfyrwyr angen sicrwydd, yn enwedig er mwyn cadarnhau na fyddant yn wynebu unrhyw darfu ariannol i'w symudedd yn y tymor byr ac os oes Brexit 'dim bargen' yn digwydd. Mae argymhelliad 7 yn adroddiad y pwyllgor yn nodi sut y credwn y gall Llywodraeth Cymru helpu i sicrhau hyn. Felly roeddem yn pryderu nad oedd ymateb Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw sicrwydd yn hyn o beth i fyfyrwyr sy'n disgwyl mynd ar leoliad, neu y gofynnir iddynt ymgymryd â lleoliad symudedd rhyngwladol yn 2019-20. Fel rydym wedi amlinellu eisoes, rhaid cael ffocws eglur ar leihau ansicrwydd i fyfyrwyr a darparwyr ac rydym yn annog y Llywodraeth i wneud hynny.
Y trydydd maes i ganolbwyntio arno heddiw yn bodloni gofynion sgiliau ar ôl Brexit. Roedd y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod yr ymchwiliad yn paentio darlun clir iawn fod colegau addysg bellach, drwy eu ffocws mwy lleol a'u cwricwla seiliedig ar sgiliau, yn arbennig o sensitif i gryfder eu heconomïau lleol a'u cyflogwyr. Mae ganddynt rôl allweddol hefyd yn bodloni'r galw am sgiliau. Mae bron yn anochel, felly, y bydd unrhyw effeithiau economaidd negyddol sy'n deillio o Brexit hefyd yn effeithio'n negyddol ar y sector addysg bellach, a bydd angen i golegau addysg bellach ymateb i unrhyw newidiadau yn y galw am sgiliau sy'n deillio o Brexit.
Mae'r pwyllgor yn credu'n gryf fod rôl sylfaenol gan golegau i'w chwarae mewn unrhyw gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella sgiliau gweithwyr mewn sectorau economaidd a allai fod yn agored i risg yn sgil Brexit. Mae argymhelliad 11 yn yr adroddiad yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i weithio ar y cyd gyda'r sector addysg bellach ar ddatblygu a chyhoeddi cynllun i nodi ac ymateb i unrhyw newid yn y gofynion sgiliau. Rydym yn croesawu ymateb y Gweinidog sy'n nodi bod cynigion ar gyfer prosiectau sgiliau a ariennir drwy arian pontio yr UE yn cael eu paratoi ac y bydd y system sgiliau yng Nghymru yn y dyfodol yn seiliedig ar alw. Mae'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Gweinidog yr wythnos diwethaf hefyd yn rhoi manylion pellach am y gwaith sy'n cael ei gyflawni a'r cynigion sy'n cael eu datblygu. Mae'r ymateb ychwanegol hwn yn awgrymu bod nodau Llywodraeth Cymru a'r pwyllgor yr un fath yn y bôn yn y cyswllt hwn, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr.
Hoffwn wneud un pwynt i gloi mewn perthynas ag argymhelliad 12 y pwyllgor sy'n ymwneud ag ariannu argymhellion adolygiad Reid. Croesawn yn fawr iawn gyhoeddiad y Gweinidog yr wythnos diwethaf o £6.6 miliwn ychwanegol i gefnogi ymchwil addysg uwch. Rydym yn credu bod ymchwil ac arloesedd yn hanfodol bwysig i ffyniant Cymru a bod rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i ariannu gweddill argymhellion adolygiad Reid.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn dynnu sylw at un o'r negeseuon allweddol o'r ymchwiliad: yn ddi-os bydd effaith Brexit yn hynod o aflonyddgar ar y sector addysg uwch a'r sector addysg bellach. Er ein bod yn cydnabod y ceir themâu cyffredin ar draws y ddau sector, rydym yn ymwybodol iawn y bydd effaith Brexit ar y ddau yn wahanol iawn. Wrth geisio gwneud popeth a allwn i helpu i liniaru unrhyw amharu, mae'n hanfodol nad ydym yn cyfuno'r effeithiau amlwg iawn ar ein prifysgolion â'r effeithiau ar ein colegau, sydd ar y cyfan, yn fwy lleol. Rwyf am wneud ymrwymiad clir iawn i'r ddau sector heddiw y byddwn, fel pwyllgor, yn parhau i fonitro'n agos y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu addysg yng Nghymru rhag effeithiau Brexit ym mha ffurf bynnag y bydd. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Lynne Neagle a fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor yn ogystal â staff y pwyllgor, a'r Gweinidog wrth gwrs, am eu rhan yn yr ymchwiliad hwn? Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau'n teimlo bod yr adroddiad yn ddiddorol. Ni chawsom gyfle i glywed gan y Gweinidog addysg ynglŷn â pharodrwydd yr adran ar gyfer Brexit yn y sesiwn faith a gawsom yn weddol ddiweddar, felly mae hwn yn gyfle i edrych ar hyn yn fanylach.
Er nad oes amheuaeth y bydd Brexit yn aflonyddu ar ein sector addysg uwch ac yn ergyd ariannol iddo, rwy'n meddwl mai'r hyn a'm trawodd fwyaf yn yr ymchwiliad yw ei fod wedi cydnabod yr heriau ac am fwrw ati i'w goresgyn, hyd yn oed yn cyfnod hwn o ansicrwydd. Roedd yna ymdeimlad gwirioneddol y byddai enw da ein sefydliadau addysg uwch yn ddigon cryf i wrthsefyll rhyferthwy'r storm sydd o'n blaenau, ond eu bod yn debyg o fod angen rhywfaint o gymorth gwleidyddol i hyrwyddo gwerth yr ased craidd hwnnw.
Nid oes gennyf broblem gydag ymrwymo i'r adroddiad hwn oherwydd y modd y fframiodd ei argymhellion. Un o'r cwestiynau sydd wedi dod yn fwyfwy anodd i'w hateb—neu a fydd yn anos i'w hateb ar ôl Brexit—yw pam y dylid trin staff a myfyrwyr sydd wedi dod o'r UE yn wahanol i staff a myfyrwyr o wledydd eraill o hyn ymlaen. Rhagoriaeth ein hymchwil a'n cynnig academaidd ddylai fod yn brif bwynt gwerthu i ni, ochr yn ochr â hygyrchedd i'r rheini a fyddai'n cael budd o brofiad prifysgol ni waeth beth fo'u cefndir—fel rwy'n dweud, dylai fod yn bwynt gwerthu, nid y gall unigolion o rai gwledydd gael mantais ariannol dros unigolion o wledydd eraill drwy'r grant ffioedd dysgu blaenorol, a dyna pam rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at y chwe argymhelliad cyntaf yn arbennig, lle rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru archwilio pam fod myfyrwyr o'r UE yn dewis dod i Gymru, ac adrodd yn awr ar waddol Cymru Fyd-eang a bod yn glir ynghylch ei disgwyliadau ar gyfer Cymru Fyd-eang II hefyd, oherwydd credaf fod yn rhaid iddynt fod wedi'u cysylltu.
Byddwn yn colli myfyrwyr o'r UE. Rwy'n sicr o hynny. Felly, mae angen i'n prifysgolion archwilio eu pwyntiau gwerthu unigryw a defnyddio beth bynnag y gall Cymru Fyd-eang II ei gynnig i gyd-fynd â'u strategaethau twf a chynnal a chadw eu hunain, a bydd hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru'n siarad unwaith eto â sefydliadau addysg uwch i wneud yn siŵr fod Cymru Fyd-eang II yn gydnaws â blaenoriaethau strategol y prifysgolion yn yr amgylchedd newydd heriol hwn—oherwydd mae'n fwy heriol. Rydym eisoes wedi gweld gostyngiad o 10 y cant yn nifer y myfyrwyr o'r UE sy'n astudio yma pan fu cynnydd o 2 y cant mewn rhannau eraill o'r DU, a chlywsom hefyd, er gwaethaf hynny—er gwaethaf hynny—fod dibyniaeth tymor byr i dymor canolig y sector ar ffrydiau ariannu'r UE ar gyfer rhaglenni yn gymharol uchel, a dyna pam roeddwn yn credu bod argymhelliad 1 yn ddiddorol iawn, ac rwy'n derbyn, fel y soniodd Lynne yn gynharach, efallai na fydd angen hwnnw yn awr, ond rwy'n dal i gredu ei fod yn rhywbeth i ofyn i ni'n hunain: a ellid archwilio ein pwerau sy'n gysylltiedig â'r maes addysg datganoledig er mwyn dyfeisio ffordd o ddefnyddio rheolau gwahanol ar gyfer caniatáu i fyfyrwyr a staff tramor ddod yma.
Yn ogystal â Cymru Fyd-eang, clywsom dystiolaeth hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru fwrw ati yn awr i gyflawni argymhellion adolygiad Reid, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad o £6 miliwn. Nid yw'n arbennig o glir pam y bu'r polisi yn llyffethair yn hyn o beth. Os oes angen i'n prifysgolion werthu rhagoriaeth, arloesedd ac arbenigedd er mwyn denu'r cyllid, y staff a'r myfyrwyr y bydd eu hangen arnynt, ni all polisi Llywodraeth eu rhoi o dan anfantais. Roedd yr Athro Reid—wel, roedd yn datgan yr amlwg, mewn gwirionedd, pan ddywedodd fod angen i'n prifysgolion symud oddi wrth ddibyniaeth ar arian yr UE a dod yn fwy cystadleuol er mwyn ennill cyllid yn y DU, a dylai fod yn achos pryder o hyd fod gennym fwlch ymchwil ac arloesedd eisoes, na all fynd yn fwy. Beth bynnag fo'r gŵyn gyfiawn ynglŷn â diffyg eglurder y DU ynghylch pethau fel y gronfa ffyniant, nid yw'n esbonio'r bwlch cyllido na'r arafwch ar Reid, ond rwy'n falch fod pethau wedi symud ymlaen yno.
Rwy'n falch hefyd ynglŷn ag ymrwymiad y Prif Weinidog na fydd unrhyw gyllid rhanbarthol yn y dyfodol yn diflannu i mewn i'r pot cyffredinol ac y bydd yn parhau'n amlflwydd o ran ei natur. Awgryma hynny y gall ei wneud ar gyfer gwasanaethau eraill hefyd, ond efallai mai rhywbeth at ddiwrnod arall yw hynny. Mae'n drueni er hynny nad oedd dim yn gynharach yn y gyllideb ar gyfer 2019-20 er gwaethaf y swm canlyniadol Barnett. Fe'm trawodd ei fod yn rhoi ychydig bach o fantais i'r Alban drosom drwy eu bod yn cael cyhoeddiadau cynnar.
Yn olaf, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £6.2 miliwn i CCAUC a £3.5 miliwn i Cymru Fyd-eang i'w helpu i ymateb i heriau Brexit, ac er ei bod yn hollol gywir mai mater iddynt hwy yw sut y byddant yn ei wario ac ar beth, buaswn i, yn sicr, yn hoffi cael ychydig bach mwy o fanylion ynglŷn â beth yn union y maent wedi'i wario arno, oherwydd yn achos CCAUC, ymddengys ei fod yn ymwneud â phrifysgolion yn cael arian ychydig bach yn gynharach nag y byddent yn ei gael. Wel, sut y maent yn mynd i'w ddefnyddio? A gyda Cymru Fyd-eang, mae'n amodol ar drafodaethau sy'n parhau â Prifysgolion Cymru, sy'n golygu efallai na fydd wedi'i wario hyd yn oed, ac eto, gallem fod yn gadael ymhen 10 diwrnod. Felly, dyna'r rhan orau o £10 miliwn y mae ei effeithiolrwydd yn parhau i fod yn dipyn o ddirgelwch, ar adeg pan ydym yn wynebu ansicrwydd, a hoffwn i o leiaf gael rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â sut y gwariwyd hwnnw. Diolch.
Wel, nid wyf yn siŵr os gallwn ddweud ein bod yn croesawu dadl arall am Brexit, ond credaf ei bod yn bwysig inni ei drafod mewn perthynas ag addysg. Ond dyma ni unwaith eto, yn sôn am y mater pwysig hwn. Nid wyf am fynd i'r afael â llawer o fanylion yr adroddiad pwyllgor hwn. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom wedi darllen yr adroddiad ac wedi gwrando ar gyflwyniad Lynne Neagle fel Cadeirydd, ond ceir llawer o faterion yno i ni i fynd ar eu trywydd, beth bynnag yw ein plaid.
Mae'n nodi llwybrau clir iawn i gynnig rhywfaint o sicrwydd ac adeiladu gwytnwch yn y sector, wrth i ni wynebu'r hyn a allai fod yn gyfnod ansicr ac aflonyddgar iawn yn ein bywydau mewn perthynas ag addysg uwch yn arbennig. Rwy'n credu bod y sector prifysgolion wedi bod yn glir, felly rhaid inni ymateb yn yr un ffordd. Mae sefyllfa bresennol Brexit yn mynd i fod yn rhwystr difrifol i ddenu pobl i'r DU i astudio a gweithio yn ein sectorau addysg uwch. Mae hyn yn mynd i fod yn wir mewn agweddau eraill ar yr economi, a drafodwyd gennym yn fanwl yma, ond yn enwedig mewn addysg uwch, ac yn bersonol, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r effeithiau tymor byr a mwy hirdymor y gallai hyn eu cael ar ein heconomi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu newidiadau ysgubol i gymorth i fyfyrwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd peth dryswch y credaf fod Suzy Davies wedi cyfeirio ato'n gynharach, ac nid wyf yn meddwl bod hynny wedi'i gyfleu i'n partneriaid Ewropeaidd yn arbennig o dda mewn perthynas â newidiadau i'r cymorth hwnnw ac yn benodol, cael gwared ar y grant ffioedd dysgu. Ond ym mhroses bresennol Brexit, mae Prydain wedi troi'n gyff gwawd rhyngwladol. Roeddwn yn y Pwyllgor Rhanbarthau a dyna'r agwedd a wynebwn yn ddyddiol; pwysleisio mai Cymraes oeddwn i ac roedd ceisio datgysylltu fy hun oddi wrth rai o'r penderfyniadau a wnaed yn arbennig o anodd. Ond mae The Washington Post wedi dweud bod llanastr Brexit, o'r Unol Daleithiau, fel gwylio gwlad yn dadlau gyda'i hun mewn ystafell wag tra'n ceisio saethu ei hun yn ei throed. Nawr, dychmygwch beth mae ein partneriaid Ewropeaidd yn teimlo, y rhai sy'n dod yma'n rheolaidd i astudio ac i gymryd rhan yn ein sefydliadau addysg uwch bywiog.
Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn argymhelliad 1 sy'n ymwneud â'r modd yr ymdrinnir â rhyddid i symud a statws mewnfudo dinasyddion 27 gwlad yr UE sy'n gweithio ac yn astudio mewn addysg uwch. Buaswn yn cefnogi hyn, gan fod yr ansicrwydd, gyda'r modd y mae rhai gwleidyddion wedi bod yn chwarae gyda'r mater hwn—yn chwarae gyda bywydau pobl fel pêl-droed wleidyddol rad—yn gwbl warthus. Ac yn rhyfedd ddigon, nid oes yr un ohonynt wedi trafferthu dod i'r Siambr i drafod yr adroddiad hwn heddiw. Mae yna bobl sydd wedi ymrwymo i'r wlad hon ac sy'n cyfrannu ati a dylai eu statws fod yn sefydlog, ac ni ddylid cwestiynu hynny.
Rwyf hefyd yn bryderus ynghylch colli partneriaethau UE posibl, megis Erasmus+ a Horizon 2020, ac nid mewn addysg uwch yn unig; rwyf wedi siarad llawer ag arweinwyr yn y sector addysg bellach na fyddai eu pobl ifanc wedi gallu mynd i lawer o'n prifddinasoedd Ewropeaidd fel arall ac sydd wedi defnyddio'r potensial hwnnw oherwydd Erasmus+—a dim ond oherwydd Erasmus+. Ni fyddent wedi cael y cyfle hwnnw fel arall, ac ni allwn danbrisio'r dylanwad hwnnw ar fywyd person ifanc, ar sut y byddant yn ffurfio cysylltiadau yn y dyfodol, sut y byddant yn meddwl am weithio dramor am y tro cyntaf. Os nad ydynt yn cael cyfle o'r fath drwy Erasmus+, efallai ein bod yn cyfyngu ar ddyheadau rhai mannau yng Nghymru lle mae dyheadau eisoes ar bwynt isel.
Mae'r Gweinidog wedi dweud yn y gorffennol fod sefydliadau addysg uwch yn ymreolaethol, ond ni chredaf y bydd hynny'n wir mewn perthynas â Brexit, a buaswn yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn ymrwymo i gychwyn strategaeth liniaru a chyfarfod bwrdd crwn gydag is-gangellorion i sicrhau bod sefydliadau addysg uwch yn gweithredu ar y cyd. Credaf fod arweinyddiaeth yn hyn o beth yn gwbl hanfodol. Ac os nad yw'r Gweinidog am ei wneud o bosibl, pam na all y pwyllgor ei wneud? Pam na wnewch chi wynebu'r cyfrifoldeb a ddaw yn sgil arddel y safbwyntiau hyn a chreu strategaeth yn hyn o beth?
Mewn perthynas ag argymhelliad 2, rwy'n credu bod diffyg eglurder yn perthyn i'r ymateb hwn ac ymddengys ei fod yn rhoi'r cyfrifoldeb ar y prifysgolion gyda dim ond ymrwymiad i ofyn i CCAUC ymgysylltu. Nid yw'n ymddangos mai dyma gonglfaen yr argymhelliad fel y gofynnai'r ddogfen hon amdani.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion eraill i raddau helaeth, ac edrychaf ymlaen at gael rhagor o fanylion am rai o'r rhain. Gwn y bydd pwyllgor yr economi rwy'n aelod ohono yn dyfeisio argymhellion tebyg o bosibl mewn perthynas ag adolygiad Graeme, ond hefyd amlygrwydd Cymru a'i chyfranogiad mewn cyfleoedd ariannu ymchwil ledled y DU. Rhaid inni wneud i hynny weithio.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i warantu symudedd myfyrwyr y DU yn yr UE ac i ymrwymo i weld pa gymorth y gellid ei wneud i barhau i ehangu cyfranogiad myfyrwyr rhyngwladol o blith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen; rwyf am ddatgan buddiant yn hynny o beth. Mae fy ngŵr o India, a phe na bai wedi dod yma, ni fuaswn wedi ei gyfarfod. Felly, wyddoch chi, rhaid inni annog mwy o fyfyrwyr rhyngwladol i ddod i Gymru, hyd yn oed os mai er mwyn hwyluso cysylltiadau rhyngddiwylliannol ar lefel bersonol yn unig y gwnawn hynny. [Chwerthin.] Gallwch weld bod y dadleuon hyn ar Brexit yn rhywbeth rwy'n eu mwynhau'n fawr yma heddiw.
Rwy'n cellwair, ond credaf fod hwn yn fater gwirioneddol bwysig, oherwydd po fwyaf o integreiddio rydym yn ei ganiatáu rhwng gwahanol ddiwylliannau, rhwng gwahanol wledydd, y mwyaf cyfoethog fyddwn ni fel cenedl, fel pobl, a chredaf fod hynny'n rhan annatod o'r broblem gyda Brexit. Os gwnawn elynion o'n gilydd, sut y gallwn weithio gyda'n gilydd er budd ein cenedl yn y dyfodol? Gwelsom beth a ddigwyddodd yn Seland Newydd yn ddiweddar, ond rydym wedi gweld ymateb rhyfeddol pobl Seland Newydd i ymosodiad o'r fath. Credaf mai'r broblem sydd gennym yw bod addysg uwch yn feicrocosm o gymdeithas, a rhaid inni ei drin fel ffordd inni allu cefnogi'r sector, ond hefyd sut y bydd hynny wedyn yn treiddio drwy ein bywydau mewn amryw o ffyrdd gwahanol.
Roeddwn am ddweud, 'Wel, roeddwn i'n arfer dysgu myfyrwyr rhyngwladol addysg uwch, yn hanu o'r UE ac o'r tu allan i'r UE,' ac roeddwn yn mynd i ddweud am y berthynas wych oedd gennyf gyda'r myfyrwyr hynny, ond nid oeddwn am fynd gam ymhellach wedyn, yn sgil beth oedd Bethan Sayed yn ei ddweud. [Chwerthin.]
Roedd y myfyrwyr a gyfrannai at fy nghyrsiau yn dod ag amrywiaeth eang o wahanol brofiadau a chefndiroedd, a gallwch weld mewn un ystafell ddosbarth, boed yn hanu o'r Undeb Ewropeaidd neu o'r tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, y gwerth y mae'r myfyrwyr hyn yn ei gyfrannu i'n heconomi, ac wrth gwrs, hefyd—mae Prifysgolion Cymru wedi comisiynu ymchwil—maent yn dod ac yn gwario arian yma, ac mae iddynt werth uniongyrchol i'r economi rydym yn dibynnu arni.
Roeddwn am ganolbwyntio ar argymhellion 1, 2 a 7. O ran argymhelliad 1, yn yr ymateb mae'r Gweinidog wedi dweud 'derbyn mewn egwyddor' i'r hyn y cydnabu Suzy Davies ei fod yn ddull go arloesol o weithredu, a dylem weld a allwn fynd â hyn ymhellach beth bynnag—mynd ati'n rhagweithiol i fynnu pwerau gweithredol i Weinidogion Cymru dros reolau mewnfudo gofodol wahanol ar gyfer myfyrwyr a staff academaidd. Rwy'n meddwl bod honno'n ymagwedd arloesol, ac mae'n cydnabod y math o setliad datganoli yr hoffem ei weld ar y cyd yn y dyfodol, ar wahân i Michelle Brown, wrth gwrs, nad yw'n cefnogi argymhelliad 1 yn ôl ei habsenoldeb heddiw. Credaf y gallwn fod yn eithaf arloesol ynglŷn â hyn. Byddai Suzy Davies yn dweud—nid wyf yn bod yn wleidyddol er mwyn bod yn wleidyddol, ond rhaid imi nodi beth y mae'r Gweinidog yn ei ddweud yn ei hymateb i argymhelliad 1:
'Ein nod yw sicrhau nad yw economi Cymru yn cael ei heffeithio’n andwyol
gan system mudo gyfyngol a bod Prifysgolion Cymru yn gallu bodloni eu hanghenion at y dyfodol'
Wel, ie. Bellach mae gan Lywodraeth y DU y Papur Gwyn hwn a'r Bil sy'n mynd rhagddo ar fewnfudo, ond nid wyf yn rhannu optimistiaeth ein Cadeirydd y bydd yn arwain at unrhyw bolisi gwell, oherwydd rhaid imi ddweud, cyflwynodd Theresa May, fel Ysgrifennydd Cartref, arferion mewnfudo anhygoel o gyfyngol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol y tu allan i'r UE, a'r oll y gallaf feddwl yw y bydd yr arferion anhygoel o gyfyngol hynny'n cael eu gosod ar gyfer myfyrwyr yr UE yn awr. Felly, ni fyddwn yn gallu cynnig yr un cydraddoldeb i fyfyrwyr rhyngwladol o'r tu allan i'r UE ag y mae myfyrwyr o'r UE yn ei fwynhau yn awr; i'r gwrthwyneb yn llwyr. Bydd myfyrwyr o'r UE yn cael eu cyfyngu o ganlyniad i bolisi Llywodraeth y DU, a chredaf felly y dylai argymhelliad 1 ddal i sefyll, ac mae llawer o rinwedd ynddo.
O ran argymhelliad 2, roedd y Gweinidog yn derbyn mewn egwyddor ac yn dweud bod prifysgolion yn gyrff 'annibynnol ac ymreolaethol'—ac mae hynny'n wir—ac felly y byddai'n amhriodol comisiynu'r astudiaeth hon. Ond yn y maes tai, dyweder, ni fyddai hynny'n ein hatal rhag comisiynu astudiaeth. Mae cwmnïau tai yn gyrff annibynnol ac ymreolaethol, ond nid yw hynny yn ein hatal rhag comisiynu astudiaeth ynglŷn â pham nad oes tai'n cael eu hadeiladu. Nid wyf yn gweld pam na allwn gefnogi'r sector prifysgolion—byddai rhai'n dweud y sector prifysgolion mwy teilwng—fel y mae wedi'i strwythuro ar hyn o bryd, drwy gomisiynu astudiaethau ar sut y bydd canlyniadau Brexit yn effeithio ar fyfyrwyr. Buaswn yn annog y Gweinidog i ailystyried ar y sail honno, yn enwedig o ran y paramedrau a osodir arni mewn perthynas â pharhau i gymryd rhan yn Erasmus+ ar ôl Brexit.
Sy'n dod â mi at argymhelliad 7, sy'n ymwneud ag Erasmus+. Mae is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, wedi galw ar Lywodraeth y DU i greu cynllun wrth gefn amgen, ond gyda Brexit 'dim bargen' ar y gorwel, ac yn nesu fwyfwy bob dydd, mae'n ymddangos mai ofer fyddai gwneud hynny.
Gadewch inni ganolbwyntio ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Mae'r adroddiad yn rhoi'r bai yn amlwg am amharodrwydd i gymryd rhan ar y Comisiwn Ewropeaidd a'r ymateb gan y Llywodraeth ar y Comisiwn Ewropeaidd ac yn galw ar Lywodraeth y DU i neilltuo cronfeydd ar frys ar gyfer rhywbeth amgen yn lle Erasmus+. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet? Dywedodd ei bod yn aros am ymatebion gan y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi. Mae hyn yn newid bob dydd; efallai ei bod wedi cael diweddariad ers hynny. Ond a all ddweud wrthym hefyd, yn ogystal â beth sydd wedi digwydd ers iddi ysgrifennu ei llythyr atom ar 15 Mawrth, pa gysylltiad a gafodd gyda'r Comisiwn Ewropeaidd? Efallai y dylem basio heibio i Lywodraeth y DU a mynd at y Comisiwn Ewropeaidd yn uniongyrchol ar yr egwyddor o sybsidiaredd—penderfyniadau a wneir sy'n berthnasol i'r ardaloedd y maent yn effeithio fwyaf arnynt. A yw wedi ystyried honno fel proses a phenderfyniad?
Credaf fod yr adroddiad, fel y'i cyflwynir, yn un da, ac mae'n rhoi cipolwg clir iawn inni ar y problemau sy'n wynebu addysg uwch o ganlyniad i Brexit.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch i Lynne Neagle ac aelodau'r pwyllgor am eu gwaith yn y maes hwn.
O ystyried yr ansicrwydd enfawr ynglŷn â Brexit a'r amser cyfyngedig sydd ar gael imi y prynhawn yma, nid wyf am drafod effaith y modd y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â Brexit ar y sector addysg uwch a'r sector addysg bellach yma.
Rwy'n deall yn iawn beth yw'r heriau y mae Brexit yn eu creu i'r sectorau hynny, eu myfyrwyr a sefydliadau unigol. Dyna pam, ers mis Mehefin 2016, fy mod i a chydweithwyr wedi bod wrthi'n rhagweithiol yn gwneud popeth a allwn i helpu i liniaru'r heriau hynny, darparu arweinyddiaeth, a nodi cyfleoedd a phartneriaethau newydd. Darparwyd gwarantau gennym yn 2017-18, yn 2018-19, ac ar gyfer 2019-20 y bydd myfyrwyr yr UE mewn prifysgolion yng Nghymru yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol. Rydym yn cyflwyno cynllun treialu symudedd allanol sy'n mynd y tu hwnt i Ewrop i roi cyfle i fyfyrwyr Cymru astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor. A gwyddom mai myfyrwyr o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig sy'n rhy aml yn colli'r cyfleoedd hynny, a bydd ein cynllun yn estyn allan at y myfyrwyr hynny.
Drwy raglen Cymru Fyd-eang, rydym yn cefnogi'r sector i gyrraedd marchnadoedd newydd ac i adeiladu partneriaethau newydd. Yn ddiweddar llofnodais femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Fietnam, ac rydym wrthi'n cytuno ar bartneriaethau newydd cyffrous yng Ngogledd America.
Yr wythnos diwethaf, fel y nododd nifer o siaradwyr, cyhoeddais £6.6 miliwn o gyllid newydd i alluogi prifysgolion Cymru ac ymchwilwyr i gystadlu am gyfran fwy o gyllid y DU, fel yr awgrymodd adolygiad yr Athro Graeme Reid.
Er gwybodaeth i Bethan Sayed, o fewn wythnos i ganlyniad refferendwm Brexit, cynullais weithgor addysg uwch i roi cyngor imi ar yr heriau a oedd yn wynebu'r sector, gweithgor a oedd yn cynnwys yr is-gangellorion. Mae'r grŵp hwnnw wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol. Wrth gwrs, mae'r is-gangellorion wedi'u cynrychioli yng ngrŵp Brexit y Prif Weinidog. Mae Colin Riordan o Brifysgol Caerdydd hefyd yn cynrychioli sector Cymru ar drefniadau ymgynghorol yn y DU. Y Llywodraeth hon a ddechreuodd y cyfarfodydd rheolaidd rhwng Gweinidogion prifysgol y pedair gwlad fel y gallem weithio ar draws y DU ar y materion hyn, gan ddal i fynnu bod Llywodraeth y DU yn cadw at yr addewidion a wnaethant.
Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn faes ansicr sy'n newid yn gyflym, ac wrth gwrs, nid yw hynny'n cael ei helpu, mae'n ddrwg gennyf ddweud, gan gyfathrebiadau prin ar adegau ac aneglur yn aml iawn gan Lywodraeth y DU. Er imi fod yn y swydd ers llai na thair blynedd, rwyf ar fy nhrydydd Ysgrifennydd addysg ar gyfer Lloegr, a fy nhrydydd gwahanol Weinidog prifysgolion. Wrth gwrs, mae pawb ohonom yn gwybod pam nad yw Jo Johnson a Sam Gyimah yn aelodau o'r Llywodraeth mwyach.
Ond gallaf droi yn awr at argymhellion y pwyllgor. Ar argymhelliad 1, rwy'n cytuno ei bod yn hanfodol nad yw polisi mewnfudo Llywodraeth y DU yn creu rhwystrau diangen a di-fudd i allu prifysgolion i ddenu myfyrwyr a doniau o'r UE i ddod i Gymru, ac yn benodol, nad oes iddo effaith wahaniaethol ar Gymru sy'n rhoi ein sefydliadau o dan anfantais benodol. Rhaid imi gytuno â'r sylwadau a wnaed gan Hefin David—mae'r pwynt hwn wedi ei ddeall yn dda. Roedd Jo Johnson yn ei ddeall yn dda, roedd Sam Gyimah yn ei ddeall yn dda, mae Chris Skidmore yn ei ddeall yn dda yn awr, ond wrth gwrs mae'n rhaid iddynt fynd drwy felin y Swyddfa Gartref a'r Prif Weinidog, ac amlinellodd Hefin record y Prif Weinidog ar hyn. Felly, er eu bod yn deall yr heriau, mae arnaf ofn fy mod weithiau'n teimlo drostynt a'r brwydrau y maent yn ceisio'u hennill yn San Steffan. Yr hyn a wyddom yn ogystal yw bod rhai penderfyniadau a wnaed wedi bod yn arbennig o annefnyddiol, ac nid ydynt yn cydnabod realiti'r ddarpariaeth addysg uwch. Felly, er enghraifft, cyrsiau rhan-amser, cyrsiau pedair blynedd, a pheidiwch â dechrau sôn am y senario fisa ôl-gwaith lle cafodd anghenion Cymru eu hanwybyddu'n llwyr ar y dechrau gan San Steffan.
Ar argymhelliad 2, rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig i brifysgolion ddeall beth sy'n denu neu'n atal myfyrwyr rhag astudio yng Nghymru, ond rwy'n teimlo bod recriwtio'n fater iddynt hwy, ond byddwn yn parhau i weithio gyda CCAUC a'r sector ar y materion hyn, a byddwn yn helpu lle gallwn.
Ar argymhellion 4, 5 a 6 ar Cymru Fyd-eang II, gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion ar weithrediad manwl, monitro a gwerthuso Cymru Fyd-eang II, a gofynnodd am ragor o wybodaeth fanwl, a gynhwyswyd yn fy ymateb ysgrifenedig yr wythnos diwethaf i lythyr dilynol y pwyllgor. Mae fy swyddogion yn mynd ar drywydd y materion a godwyd gan y pwyllgor mewn trafodaethau gyda CCAUC, sy'n rheoli ein cyfraniad ariannol i Cymru Fyd-eang II ar ran Llywodraeth Cymru, ac rwy'n gobeithio bod rhai o'r manylion ychwanegol ynglŷn â pha bryd y gwneir taliadau a'r dystiolaeth y bydd ei hangen er mwyn gwneud taliadau wedi darparu rhywfaint o sicrwydd i'r Gweinidog.
Ar argymhelliad 7, mewn perthynas â'r rhai sy'n cymryd rhan mewn prosiectau Erasmus arfaethedig yn y dyfodol wedi 2019, mae ein pryder ynghylch y modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'i gwarant tanysgrifennu arfaethedig, fel y crybwyllwyd eto gan Hefin David, wedi'i rannu â Thŷ'r Arglwyddi, a argymhellodd fis diwethaf y dylid defnyddio'r arian a fyddai wedi mynd tuag at y gwarant tanysgrifennu i roi trefniant newydd ar waith yn y DU, ac rydym yn parhau i bwyso ar Weinidogion y DU i gyflawni hyn.
Mae'n ymddangos y byddai argymhellion yr UE mewn perthynas â chyfranogiad y DU yng nghyllideb yr UE ar gyfer 2019 yn cynnig cyfle i ddatrys hyn a rhoi sicrwydd ynghylch mynediad at arian Erasmus i fyfyrwyr sy'n mynd dramor yn hydref 2019. Ond mae'n siomedig, unwaith eto, fod Llywodraeth y DU yn dal heb ddweud beth yw ei safbwynt ar yr ateb arfaethedig hwn. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi nad myfyrwyr prifysgol yn unig, na myfyrwyr addysg bellach yn wir, sy'n elwa o brosiectau Erasmus+; mae ysgolion Cymru wedi bod yn arbennig o lwyddiannus yn cael gafael ar yr arian hwn a darparu cyfleoedd ar gyfer eu myfyrwyr. Fel y dywedais, nid wyf am achub croen Llywodraeth San Steffan yma mewn unrhyw fodd, ond gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod yn parhau i weithio ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer ateb Cymreig os byddant yn wirioneddol angenrheidiol. Ond Llywodraeth San Steffan a ddylai dalu'r gost ariannol. Rhaid imi ddweud: rydym wedi bod wrthi'n rhagweithiol yn darparu gwybodaeth i Lywodraeth y DU ynglŷn â phwysigrwydd y cynllun hwn, ond unwaith eto, mae'r wybodaeth honno'n diflannu i mewn i'r Trysorlys ac nid ydym yn cael unrhyw adborth ganddynt. Ond o ran gwerth am arian, weithiau mae'n ymwneud â gwybod cost popeth a gwerth dim. Credaf na fyddai cynllun newydd gan y DU yn rhoi'r manteision a fwynhawn ar hyn o bryd fel cyfranogwyr yn rhaglen Erasmus+.
Ar argymhelliad 8, ynghylch y gwerthusiad o'r cynllun treialu symudedd tramor, caiff hwn ei dderbyn gan y Llywodraeth yn ystod haf 2021 pan fyddwn yn gallu rhannu'r canlyniadau gyda'r pwyllgor. Mewn perthynas ag argymhellion 9 a 10, mae'n destun pryder nad yw Llywodraeth y DU wedi rhannu ei syniadau hyd yma am ddyfodol cyllid datblygu rhanbarthol. Byddwn yn parhau i bwysleisio ein blaenoriaethau wrthynt fel y'u nodir ym mhapur polisi Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ac rwy'n falch iawn fod y safbwynt hwnnw'n cael ei gefnogi'n llwyr gan Prifysgolion Cymru a'n his-gangellorion Cymreig.
Ar argymhelliad 11, ar anghenion sgiliau sy'n newid, mae swyddogion yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau y datblygir y cynlluniau presennol i ganolbwyntio ar anghenion sy'n newid yng Nghymru o ganlyniad i aflonyddu'n ymwneud â Brexit, ac yn datblygu opsiynau ar gyfer camau gweithredu y gellid eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â phroblemau cydnerthedd yn deillio o Brexit 'dim bargen'. Bydd angen ystyried goblygiadau ariannol cynigion sy'n deillio o'r broses hon fel rhan o waith ehangach Llywodraeth Cymru ar gydnerthedd yn sgil Brexit.
A chredaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i mi, wrth i mi ystyried pam rydym yn y sefyllfa hon yn y lle cyntaf—efallai mai anallu Llywodraethau blaenorol i ymateb i newid diwydiannol sydd wedi arwain at wneud i ni a llawer o bobl yn cymunedau hynny efallai i deimlo bod Brexit yn opsiwn iddynt hwy, ac ni allwn fethu mynd i'r afael â'r newidiadau diwydiannol ac economaidd hynny eto, neu fel arall byddwn yn creu mwy o broblemau ar gyfer y dyfodol.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, os caf, ar argymhelliad 12—gweithredu adolygiad Reid—rwyf wedi darparu £6.6. miliwn ac mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu'r swyddfa yn Llundain. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru hefyd yn lleoli aelod o staff rhan-amser yno fel y gallwn ddefnyddio ein cyfran deg o arian UKRI. A byddaf yn rhoi ymrwymiad i'r Siambr y byddaf yn gweithio gyda hwy, gyda'r sector, i sicrhau bod y risgiau gwirioneddol a phresennol y mae Brexit, a Brexit 'dim bargen' yn enwedig, yn eu creu i'r sector—byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i gynorthwyo'r sector i'w lliniaru.
Diolch. A gaf fi alw ar Lynne Neagle, fel Cadeirydd, i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi siarad yn y ddadl heddiw. Gwerthfawrogir eich cyfraniadau'n fawr, gan gynnwys cyfraniad y Gweinidog. A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r holl sefydliadau a fu'n ymwneud â'n hymchwiliad ac sydd wedi darparu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig mor graff, a hoffwn fachu ar y cyfle hefyd i ddiolch i'n tîm clercio ac ymchwil rhagorol? Roedd hwn yn ymchwiliad anodd a heriol oherwydd bod y sefyllfa'n newid yn gyflym, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eu harbenigedd a'u mewnbwn. Ni fyddaf yn gallu ymateb i bob pwynt a wnaeth yr Aelodau heddiw, ond os caf fynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau a wnaed.
Diolch i Suzy am ei chyfraniad a'i chefnogaeth barhaus i argymhelliad 1, a hefyd y pwyntiau a wnaeth Suzy Davies, a adleisiwyd gan Bethan Sayed, am yr angen i fynd at wraidd y rheswm pam y mae myfyrwyr o'r UE yn dod i astudio yma yng Nghymru. Fel rydych wedi amlygu, rydym eisoes wedi gweld gostyngiad sylweddol, ac mae angen i ni fynd i'r afael â hynny fel mater o frys er mwyn inni allu sicrhau bod ein prifysgolion mor gadarn â phosibl. Diolch i chi hefyd am eich croeso i gyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ynghylch ariannu amlflwydd a'r cronfeydd rhanbarthol—mae hynny'n mynd i fod yn hollbwysig wrth symud ymlaen.
Hoffwn ddiolch i Bethan am ei chyfraniad a'i chefnogaeth i'r argymhellion ar fewnfudo ac unwaith eto, ar sefydlu pam y mae myfyrwyr yn dod yma. Hefyd, soniodd Bethan am bwysigrwydd Erasmus+, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'ch sylwadau ar hynny, ac rwy'n ddiolchgar i chi am dynnu sylw at gyfranogiad addysg bellach yn Erasmus+, oherwydd mae'n aml yn cael ei weld fel menter addysg uwch. Mae gennyf chwilen yn fy mhen am Erasmus+, am fy mod yn fyfyriwr Erasmus ar un adeg, felly rwy'n gweld gwerth hwnnw'n fawr iawn, yn enwedig i bobl ifanc o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Roeddwn i yn y sefyllfa honno, nid oedd neb o fy nheulu wedi bod mewn prifysgol, ac eto cefais gyfle gwych i fynd i astudio mewn prifysgol ym Mharis, a chredaf ei bod yn hanfodol ein bod yn dal ati i weld, yn enwedig ein pobl ifanc o deuluoedd incwm isel, yn parhau i gael y cyfle hwnnw. Felly, mae'n rhaid i bawb ohonom barhau i bwyso am hynny.
Soniodd Hefin David hefyd am bwysigrwydd Erasmus+, y gwn ei fod wedi gallu ei weld o bersbectif rheng flaen defnyddiol iawn, a thynnodd sylw at bwysigrwydd argymhelliad 1 a 2 hefyd. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywedoch—nid oes gennyf fawr o hyder yn agwedd Prif Weinidog y DU tuag at fewnfudo fy hun. Credaf fod y Bil mewnfudo yn rhoi cyfle inni wneud y dadleuon hynny, ac i sicrhau ein bod yn eu gwneud bod mor gryf ag y gallwn. A gobeithio fel pwyllgor y gallwn weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn parhau i bwysleisio wrth Lywodraeth y DU pa mor bwysig yw sicrwydd yn y maes hwn, nid yn unig ar gyfer ein myfyrwyr, ond ar gyfer ein staff yn ein prifysgolion—mae'n gwbl hanfodol.
Felly, a gaf fi orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch eto i bawb sydd wedi siarad heddiw, a phawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn? Bydd gan y pwyllgor ddiddordeb brwd iawn mewn datblygiadau yn y dyfodol a pharhau i fonitro gweithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, ac rwy'n siŵr y bydd, ynghyd â'r holl Aelodau eraill, yn gobeithio am rywfaint o sicrwydd cyn gynted â phosibl. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.