Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 20 Mawrth 2019.
—ac am y derfysgaeth y mae Twrci yn ei orfodi ar y gymuned Gwrdaidd. Credaf fod cynnig Plaid Cymru yn cwmpasu'r pwyntiau allweddol sy'n berthnasol i'r ddadl. Rwy'n ddryslyd braidd ynghylch rhai o welliannau'r Ceidwadwyr, sy'n ymddangos fel pe baent ond yn cyfeirio at y PKK yn rhyfedd ddigon, er bod y ddadl hon yn canolbwyntio ar sefyllfa gyffredinol y Cwrdiaid yn Anatolia a gogledd Syria: ymgais sinigaidd—sinigaidd—i geisio gwanhau'r ddadl hon yma heddiw. Rwyf wedi cyfarfod â phreswylwyr Cwrdaidd yng Nghymru a'u grŵp ymgyrchu, ac nid oes ganddynt unrhyw gysylltiad o gwbl â'r PKK. Wrth ddarllen y gwelliannau Torïaidd hyn, gellid maddau ichi am feddwl eu bod yn ymgais fwriadol i gymylu'r dyfroedd ac esgusodi'r driniaeth y mae'r Cwrdiaid yn ei chael yn Nhwrci, bob amser drwy lens y PKK, sefydliad sydd â chyrhaeddiad a gweithrediad cyfyngedig yn ymarferol.
Gadewch inni fod yn glir hefyd fod Llywodraeth Twrci yn gyson yn defnyddio bygythiad y PKK fel cyfiawnhad ehangach dros yr amodau hawliau dynol gwael yn gyffredinol sydd ganddynt yn ne a de-ddwyrain Twrci. Ac nid wyf am gymryd unrhyw wersi gan blaid a ddywedodd mai terfysgwr oedd Nelson Mandela. Gadewch inni edrych yn ôl mewn hanes i weld beth y mae'r Ceidwadwyr wedi'i wneud i drin pobl â diffyg parch yn ein hymwneud rhyngwladol. Ceir gwleidyddion sydd wedi cael eu rhoi dan glo—gwleidyddion fel Leyla Güven, a etholwyd yn ddemocrataidd—eu bygwth, eu herlid ar eu strydoedd, cymunedau sydd wedi dioddef bygythiadau a chyfyngiadau ar eu hawliau democrataidd. Mae'r Tyrciaid ac eraill erbyn hyn yn defnyddio gweithgaredd milwrol uniongyrchol yng ngogledd Syria o dan yr esgus eu bod yn ymladd yn erbyn terfysgaeth, drwy ymosod ar grwpiau sy'n gwrthryfela a oedd, tan yn gymharol ddiweddar, yn cael cefnogaeth yr Unol Daleithiau ac eraill fel partneriaid yn y rhyfel yn erbyn Isis. Felly, rwy'n gwrthod y gwelliannau hyn gan y Torïaid, fel y mae fy nghyd-Aelodau'n ei wneud, ac nid wyf yn meddwl eu bod yn dangos gwerthfawrogiad digonol o'r cyd-destun ehangach.
Ar lefel bersonol, rwy'n gweld hon fel brwydr sylfaenol dros gyfiawnder i bobl sydd wedi bod heb wladwriaeth eu hunain drwy ran fawr o'u hanes. Sefydlwyd rhai gwladwriaethau Cwrdaidd gwreiddiol, ond cawsant eu goresgyn gan wladwriaethau Twrcaidd a chydffederasiynau pan symudasant tua'r dwyrain canol yn ystod yr oesoedd canol. Bu'r Cwrdiaid heb wladwriaeth ffurfiol gydnabyddedig ers yr adeg honno. Felly, buaswn yn gobeithio bod yr Aelodau'n cydnabod eu brwydr yn y cyd-destun penodol hwnnw, yn cydnabod y frwydr a'r angerdd y mae hyn yn ei gynnau, ymhlith pobl sy'n gwneud dim mwy na chwilio am famwlad, pobl sy'n chwilio am rywle i'w alw'n gartref, fel y gall y bobl sydd wedi dod i wrando ar y ddadl hon, gyda llawer ohonynt yn dod o'r gymuned honno, ffynnu ac arfer eu crefydd a'u hiaith a'u diwylliant eu hunain, ac ystyried o ddifrif beth mae'n ei gymryd i wneud i bobl fynd ar streic newyn am amser mor hir. Mae pobl yn mynd i ddioddef, fel a ddigwyddodd yng ngogledd Iwerddon. Pan oedd pobl yn credu na allai'r broses wleidyddol eu helpu, fe droesant at streic newyn am eu bod am i rywun wrando arnynt, ac roeddent eisiau sicrhau y gallent ddod o hyd i ateb.
Mae fy nghalon yn gwaedu dros Imam Sis a phawb sydd ar streic newyn. Yn amlwg, mae'n sefyllfa anodd iawn i ni fod ynddi, oherwydd nid ydym am i bobl fod mewn sefyllfa o'r fath, ond rydym yn eu canmol am wneud hynny fel gweithred o brotest wleidyddol ac yn eu cefnogi yn eu hadfyd. Buaswn yn gobeithio y caem ddatganiad cadarnhaol o gefnogaeth gan y Gweinidog rhyngwladol yma heddiw, a chydnabyddiaeth y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i frwydro dros gyfiawnder i'r gymuned Gwrdaidd, nid yn unig y rhai sydd yn Nhwrci, ond i bobl yng Nghymru sy'n ymladd o'r cyrion, sy'n ymladd yma am nad yw'n ddiogel iddynt ddychwelyd i'w mamwlad. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch oll yn cymryd rhan yn y ddadl hon ac yn cefnogi cynnig Plaid Cymru.