Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 20 Mawrth 2019.
Rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru wedi gallu sicrhau'r ddadl hon heddiw. Mae dinesydd Cymreig sydd wedi dod yn gyfaill ar streic newyn yng Nghasnewydd, ac fe'm hatgoffwyd o ymrwymiad Imam Sis i adeiladu cymunedau cryf ac amrywiol pan welais ffotograff cof Facebook yr wythnos hon o ddwy flynedd yn ôl, pan orymdeithiodd Imam a minnau gyda'n gilydd yng Nghaerdydd yn erbyn hiliaeth. Roedd yn barod i sefyll dros ein cymunedau bryd hynny, ac mae wedi gwneud hynny ar lawer o achlysuron eraill. Nawr, dyma ein tro ni i sefyll gydag ef a gyda'i gyd-Gwrdiaid a'u brwydr.
Deuthum i mewn i fyd gwleidyddiaeth oherwydd fy mod am herio annhegwch, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder, ac mae hynny'n dal i fod yn ysgogiad i mi fwy na dau ddegawd yn ddiweddarach, ac er bod gennym gymaint o broblemau i fynd i'r afael â hwy yma yng Nghymru—problemau a materion rydym yn rhoi sylw iddynt yn y sefydliad hwn bob dydd—mae gennym ddyletswydd hefyd i godi llais pan fo mater rhyngwladol yn galw am ein sylw, yn enwedig pan fo'n effeithio ar ddinesydd Cymreig.
Mae triniaeth y Cwrdiaid dan law gwladwriaeth Twrci sy'n fwyfwy gormesol yn fater o'r fath. Mae'r artaith tuag at y bobl Gwrdaidd yn mynnu ein bod yn codi llais ac yn condemnio gweithredoedd o'r fath. Mae Imam Sis ar ddiwrnod 94 o streic newyn. Mae'n un o fwy na 300 o bobl sydd wedi ymuno â'r gwleidydd Cwrdaidd Leyla Güven ar streic newyn. Nod y streic newyn yw rhoi pwysau ar y Pwyllgor Ewropeaidd er Atal Arteithio a Thriniaeth neu Gosb Annynol neu Ddiraddiol i gyflawni ei ddyletswyddau a mynd ar ymweliad i wirio sefyllfa'r arweinydd Cwrdaidd.
Gwelais Imam Sis yr wythnos diwethaf, ac mae'n anodd gweld faint y mae wedi dirywio ers y llun a dynnwyd ddwy flynedd yn ôl. Mae'n amhosibl peidio â chael eich ysbrydoli gan y dewrder diymhongar a diysgog y mae'n ei arddangos. Rwy'n gobeithio y bydd Twrci, gwlad sy'n un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, yn cyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol cyn y bydd pobl dda fel Imam Sis yn marw.
Os yw'r sefydliad cenedlaethol hwn yn anfon neges glir heddiw fod yn rhaid i Dwrci roi'r gorau i'w thriniaeth farbaraidd o'r bobl Gwrdaidd, byddwn yn cyfrannu at gynyddu pwysau rhyngwladol i ddatrys y sefyllfa hon. Heddiw, cefais ymateb i lythyr a anfonais at Leyla Güven, yr AS Cwrdaidd, sydd hefyd ar streic newyn yn Nhwrci. Yn y llythyr hwnnw, mae'n dweud bod eu galwad yn gwbl gyfreithlon a dyngarol. Mae'n dweud, 'Rydym ni, y Cwrdiaid, yn bobl y mae ein hiaith, ein hunaniaeth, ein diwylliant yn dal i gael eu hystyried yn droseddau. Ar hyn o bryd, mae miloedd o'n gwleidyddion yn y carchar oherwydd yr hyn y maent yn ei feddwl. Mae ein hadeiladau trefol wedi'u meddiannu drwy rym ac yn cael eu rhedeg gan ymddiriedolwyr a benodwyd gan y Llywodraeth. Pobl ydym sy'n dioddef dan bob math o bolisi gwahardd, difodi a chymhathu. Mae ein brwydr yn parhau er mwyn rhoi diwedd ar yr anghyfraith.' A oes unrhyw un yn gweld tebygrwydd yma? Dylem ni'r Cymry ddeall hyn. Mae amser yn prysur ddod i ben i bobl fel Leyla Güven ac Imam Sis, felly rwy'n eich annog i'n cefnogi yn y ddadl hon.