Cwestiynau i Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

QNR – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynllun twf y gogledd o safbwynt parciau busnes?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

Mae safleoedd ac eiddo yn un o’r pedwar galluogwr sy’n sail i’r tri maes thematig sy’n cael eu nodi yng nghynllun twf gogledd Cymru. Cafodd fy swyddogion sawl cyfarfod gyda thîm y cais twf i drafod y meysydd thematig hyn, sy’n cynnwys darparu safleoedd ac eiddo fel blaenoriaethau ac ymyraethau.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael â'r Gweinidog Cyllid am bwysigrwydd polisi caffael fel arf economaidd?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

Mae caffael cyhoeddus yn hanfodol i lesiant economaidd yng Nghymru. Mae dulliau newydd yn cael eu datblygu, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu rhagor ar effaith caffael ar yr economi a llesiant cyffredinol yng Nghymru. Mae cyfarfod yn cael ei drefnu gyda’r Gweinidog Cyllid, a chaffael yw un o’r pynciau.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau'r A465 yn ddiweddar rhwng y Rhigos a Glyn-nedd?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

The A465 was closed on 3 and 6 March due to the recent heavy rainfall from both storm Freya and a further wet weather event that was the subject of a yellow weather warning. The build-up of water was compounded by a defective culvert, on the A465 at Rhigos roundabout.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar godi lefelau cyflogau yng Nghymru?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

Rydym yn cefnogi busnesau i wella cynhyrchiant ac i fuddsoddi yn sgiliau ein pobl, gan gydnabod y cysylltiad rhwng cynhyrchiant, sgiliau a chyflogau. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi sefydlu'r Comisiwn Gwaith Teg i gynnig argymhellion er mwyn gwneud Cymru yn genedl gwaith teg.