Cefnffyrdd yn Sir Fynwy

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:55, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n credu eich bod chi wedi rhagweld yr hyn yr oeddwn i'n mynd i'w ofyn am yr A466 yng Nghas-gwent. A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn mynd i wneud hynny y tro yma, am unwaith. [Chwerthin.]

Ddoe, roeddwn i'n falch iawn o gael bod yn bresennol yn y seremoni gosod carreg gopa yn ysbyty athrofaol newydd y Grange yng Nghwmbrân, ynghyd â'r Gweinidog, Lynne Neagle, Alun Davies—rwy'n credu ein bod i gyd wedi cael amser ar gyfer hunlun ar ben yr adeilad newydd gydag ACau cyfagos hefyd.

Mae'r prosiect yn edrych yn dda, ac rydym ni'n gobeithio y bydd yn darparu profiad cleifion o'r radd flaenaf pan fydd wedi'i gwblhau, ond mae sylw'n troi nawr at y cysylltiadau trafnidiaeth i'r ganolfan gofal critigol newydd honno, gan y bydd yn cwmpasu ardal lawer mwy na'r canolfannau gofal critigol presennol yng Nghasnewydd a'r Fenni, ac mae'r olaf yn cwmpasu de Powys hefyd. Rydym ni'n gwybod—ac rwyf i wedi holi'r Gweinidog trafnidiaeth am hyn yn y gorffennol—bod problemau gyda'r A4042 rhwng y Fenni a Chwmbrân, yn enwedig yn Llanelen, i'r de o'r Fenni, sy'n dueddol o gael llifogydd trwm. Nid wyf i'n credu bod gennym ni ateb i'r broblem honno hyd yn hyn. Tybed a allem ni gael ateb ynghylch yr hyn a wnaed i liniaru llifogydd yn y fan honno fel y bydd etholwyr Kirsty Williams ym Mhowys yn gallu cyrraedd y ganolfan gofal critigol newydd mewn ambiwlans, yn ogystal â'm hetholwyr fy hunan, a hefyd golwg ehangach ar gefnffyrdd o gwmpas sir Fynwy a Gwent i wneud yn siŵr y gall pob claf, ni waeth pa ran o'r ardal honno y mae'n dod ohoni, gael mynediad at y cyfleusterau newydd yn y ganolfan gofal critigol hon fel y bydden nhw'n gobeithio ei wneud.