Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 26 Mawrth 2019.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un o'r prosiectau, yn amlwg, a nodir yn y fargen ddinesig yw'r cysylltiad rhwng cyffordd 34 a'r A48 yn Sycamore Cross. Mae hon yn fargen sydd wedi bod ar y bwrdd ers cryn amser, y gwelliant hwn, ac, fel y gallwch ddeall, mae llawer o drigolion yn pryderu am y cynigion—yn enwedig y malltod tai a achoswyd gan rywfaint o'r diffyg penderfyniadau ynghylch rhai o'r cynigion. A allwch chi amlinellu heddiw pa ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r prosiect hwn a phryd y gallai ddod i derfyn o ran penderfyniad am unrhyw gyllid Llywodraeth a allai gael ei roi ar gael?