Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 26 Mawrth 2019.
Diolch i'r Aelod am hynny. Ymhlith y camau gweithredu a nodir yn ein cynllun cyflawni canser mae gwella diagnosis cynnar, gwasanaethau estynedig mewn gofal sylfaenol, system technoleg gwybodaeth canser newydd ar gyfer Cymru, a llwybr canser sengl. Cafodd pob un o'r mentrau hynny eu llunio i barhau i wella gwasanaethau canser yng Nghymru.