1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Mawrth 2019.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau canser yng Nghymru? OAQ53659
Diolch i'r Aelod am hynny. Ymhlith y camau gweithredu a nodir yn ein cynllun cyflawni canser mae gwella diagnosis cynnar, gwasanaethau estynedig mewn gofal sylfaenol, system technoleg gwybodaeth canser newydd ar gyfer Cymru, a llwybr canser sengl. Cafodd pob un o'r mentrau hynny eu llunio i barhau i wella gwasanaethau canser yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Gweinidog. Mae tri chwarter y bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn marw o fewn blwyddyn; caiff 80 y cant o'r rhai sy'n dioddef o'r clefyd eu diagnosis ar gam datblygedig ac erbyn hynny nid yw llawdriniaeth yn opsiwn. Bob blwyddyn, mae tua 500 o achosion newydd o ganser y pancreas yng Nghymru. Mae'r elusen Canser Pancreatig y DU yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed o drin pob claf o fewn 20 diwrnod erbyn 2024. Prif Weinidog, beth mae eich Llywodraeth chi'n ei wneud i ddileu'r oedi diangen i driniaeth, er mwyn cynyddu'r siawns o oroesi ar gyfer pobl â diagnosis o ganser y pancreas yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw, ac wrth gwrs rwyf yn ymwybodol o'r galwadau i gyflwyno targed triniaeth o 20 diwrnod ar gyfer canser y pancreas. Er fy mod i'n gwerthfawrogi'n llwyr y pwyntiau a wnaeth yr Aelod am natur canser y pancreas—yr anhawster i gael diagnosis cynnar, ei natur ymosodol unwaith y caiff ei ddarganfod—yn y pen draw, nid wyf yn credu y byddai'n deg cyflwyno targed yn benodol ar gyfer un math o diwmor.
Ein dull ni o weithredu bob amser fu cynnig y cyfle i bobl sydd ag unrhyw fath o ganser gael eu trin mor gyflym â phosibl. Dyna pam yr ydym yn cyflwyno llwybr canser sengl newydd, oherwydd rydym yn hyderus y bydd yn cefnogi'r gallu i gael triniaeth yn gyflymach. Ac mae hynny'n bwysig iawn, Llywydd, ar adeg pan mae mwy a mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio am driniaeth—ac mae hynny'n brawf o lwyddiant: mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio'n gynnar, mwy o bobl yn cael eu hasesu'n gynnar. Roedd 32 y cant yn fwy o bobl yn dechrau triniaeth ddiffiniol o fewn yr amser targed yn y mis yn dod i ben ddiwedd Ionawr eleni na phum mlynedd yn ôl. Ac mae hynny'n deyrnged hynod i'r gwasanaeth a ddarperir yma yng Nghymru, y clinigwyr, ac eraill, sy'n gweithio ynddo, ac mae eu hymdrechion yn sicr ddigon yn cynnwys canser y pancreas. Bydd ein hymdrechion o ran canser yn ei gyfanrwydd yn helpu i wella gwasanaethau ar eu cyfer nhw hefyd.
Rwyf yn ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb i Mohammad Asghar. Hoffwn dynnu sylw'r Prif Weinidog at ymchwil a gyflwynwyd i ni fel Aelodau'r Cynulliad gan yr elusen Gweithredu Canser yr Ofari, sy'n dangos bod dros 40 y cant o feddygon teulu yng Nghymru yn credu'n anghywir nad yw symptomau canser yr ofari ond yn dod i'r amlwg yn ystod camau diweddarach y clefyd, ac mae 40 y cant o fenywod yn gorfod ymweld â'u meddyg teulu deirgwaith gyda rhai symptomau cyn iddynt gael eu hatgyfeirio. Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog heddiw a fydd yn cynnal rhai trafodaethau gyda'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i weld a oes ffyrdd y gallwn wella ymwybyddiaeth meddygon teulu o'r ffaith bod symptomau cynharach canser yr ofari y gellid eu hadnabod, i sicrhau bod menywod yn cael eu hatgyfeirio'n gyflymach, lle mae'n briodol iddynt wneud hynny, at wasanaethau arbenigol.
Yn sicr, Llywydd, rwyf yn hapus iawn i gynnal y sgyrsiau hynny. Mae llawer iawn o ymdrech yn cael ei gwneud gyda chymuned meddygon teulu yng Nghymru i wneud yn siŵr bod gan feddygon teulu'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i helpu i adnabod symptomau'n gynnar ac atgyfeirio'n gynnar i mewn i'r system. Credaf, o bosib, fod yr Aelod yn ymwybodol o'r ffaith ein bod wedi ariannu dwy fenter beilot newydd yn ddiweddar. Golyga hyn fod meddyg teulu, os oes ganddo glaf sydd â symptomau na fyddent yn caniatáu iddynt gael eu hatgyfeirio at y prif lwybr diagnostig, yn gallu eu hatgyfeirio at y ddwy ganolfan hyn ar gyfer diagnosis cyflym. Nawr, byddwn yn dysgu gwersi o'r ddwy ganolfan yr ydym wedi eu cyllido hyd yma. Mae ganddynt rai agweddau addawol—yn sicr, mae'r cleifion yn eu hoffi'n fawr. A gallant roi cyfle i feddygon teulu, pe gallem eu hymestyn ymhellach, ddarparu cipolwg cynnar ar gyfer y cleifion hynny y mae eu symptomau'n ansicr, ond lle mae'r meddygon teulu yn pryderu bod angen edrych arnyn nhw ymhellach.