Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 26 Mawrth 2019.
Wel, fel y dywedais, Llywydd, ceir rhaglen metro a mwy gwerth £50 miliwn y mae'r fargen ddinesig wedi ei chymeradwyo eisoes. Mae honno'n cynnwys gwelliannau i drafnidiaeth o ogledd-orllewin Caerdydd allan i Rondda Cynon Taf. Mae sgyrsiau eraill yn cael eu cynnal sy'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, yr Aelod lleol dros Bontypridd a'r ddau awdurdod lleol yn ogystal â Llywodraeth Cymru, a'u nod yw llunio ymateb cydlynol i anghenion trafnidiaeth y rhan honno o'r brifddinas a rhan Llantrisant o awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf.