Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 26 Mawrth 2019.
Prif Weinidog, diolch ichi. Rhaid imi gyfaddef fy mod i braidd yn ddryslyd ynghylch brand Cymru. Twristiaeth, bwyd, cludiant, cig, busnes—bob un ohonynt yn cael eu gweld fel rhan o'r brand. Nid wyf yn ymddiheuro am ddychwelyd at fuddugoliaeth odidog Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad a'r digwyddiad gwych a gynhaliwyd yn y Senedd ddydd Llun diwethaf. Yn ystod eich araith cyfeiriwyd at dîm Cymru a sut y mae Cymru'n rhagori mewn digwyddiadau tîm. Mae hyn yn syml ac yn effeithiol. O gynhyrchwyr bwyd, menter, addysg i dwristiaid, maen nhw a ninnau'n rhan o Dîm Cymru. A oes unrhyw ffordd y gellid ymgorffori Tîm Cymru i'r broses o farchnata Cymru a'r cyfan sydd ganddi i'w gynnig?