Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 26 Mawrth 2019.
Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei lle pan ddywed fod y pethau sy'n tynnu sylw'r byd at Gymru yn aml yn bethau fel digwyddiadau chwaraeon. Ein nod ni, fel y gŵyr, yn y cyfnod wedi Brexit, yw gwneud yn siŵr bod Cymru yn parhau i gael polisi drws agored i'r byd, a bod brand Cymru yn cael ei adnabod gan bobl fel rhywle sy'n parhau i fod yn agored ac yn ymrwymedig i groesawu'r byd i Gymru. Mae digwyddiadau chwaraeon yn aml yn ffordd ragorol o arddangos hynny ac rydym wedi manteisio ar lawer o gyfleoedd dros y blynyddoedd diwethaf i hybu cyfleoedd o'r fath yma, ac rwyf yn siŵr y byddwn yn dymuno parhau i wneud hynny yn y dyfodol.