Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 26 Mawrth 2019.
Diolch ichi, Dirprwy Weinidog. Un o'r themâu clir a ddaeth i'r amlwg i mi yn ymchwiliadau diweddar y pwyllgor oedd bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn dibynnu fwyfwy ar sefydliadau'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau ond nad ydynt yn aml yn darparu cyllid cynaliadwy ar gyfer y gwasanaethau hynny. Mae hyn wedi digwydd yn ymchwiliadau'r pwyllgor plant ar iechyd meddwl amenedigol, ar iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, ac yn ymchwiliad diweddar y pwyllgor iechyd ar atal hunanladdiad. O gofio mai ychydig iawn o gyllid a ddosberthir yn ganolog gan Lywodraeth Cymru i'r trydydd sector, beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y byrddau partneriaethau rhanbarthol a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth lawn gyda'r trydydd sector, ond yn hollbwysig, eu bod yn rhoi'r cyllid hanfodol sydd ei angen arnyn nhw?