Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 26 Mawrth 2019.
Diolch i chi am eich ateb, Dirprwy Weinidog. Mae Llais i Chi wedi darparu eiriolaeth dinasyddion ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn fy etholaeth i ers dros 30 mlynedd, ac maent yn sicr yn pryderu am effaith y gostyngiad posibl o gyllid craidd a gânt gan yr awdurdod lleol. Rwy'n rhannu llawer o sylwadau Lynne Neagle yn ei chwestiwn i chi ychydig eiliadau yn ôl. Mae'r sefydliad hwn yn yr un sefyllfa â llawer o rai eraill. Os byddant yn colli eu cyllid craidd, yna mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn iddynt sicrhau arian cyfatebol o ffynonellau eraill hefyd. Tybed sut yr ydych yn credu y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r mater penodol hwn. Yn amlwg, os gallwn ysgogi cyllid sector trydydd parti, mae hyn yn hynod ddefnyddiol i gefnogi ein cyrff gwirfoddol, ond ni allant wneud hynny os ydynt yn colli'r cyllid hwnnw o ffynonellau awdurdod lleol.