2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:02, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater yna. Rwyf yn gobeithio, yr wythnos diwethaf, fy mod i wedi gallu rhoi golwg cyffredinol da o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â sgrinio serfigol yng Nghymru, sy’n ddull gwahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin. Fodd bynnag, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu atoch ar y mater penodol a godwyd gennych chi ynghylch pecynnau profion cartref, ac fe fyddwn ni’n sicr yn edrych ar y prosiect arbrofol hwnnw sy’n cael ei gynnal yn Lloegr yn ofalus iawn i weld beth sydd arnom angen ei ddysgu yn y fan yma, oherwydd, fel yr ydych yn dweud, menywod ifanc yn arbennig sydd bellach ddim yn dod ymlaen i gael profion sgrinio ceg y groth. Cyfeiriais yr wythnos diwethaf at yr ymgyrch #loveyourcervix sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac mae hwnnw’n ceisio ymgysylltu â menywod ifanc yn benodol er mwyn eu hannog i fynd i gael y profion hynny. Rwyf wedi gweld tystiolaethau pwerus iawn gan bobl ifanc ar y teledu hefyd, felly rwyf yn credu bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd weithio'n galed arno gyda'n gilydd er mwyn codi ymwybyddiaeth ohono.

Rwy'n gobeithio, unwaith eto, bod y datganiad a gyhoeddwyd gan fy nghyd-Aelod y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip yn dilyn yr ymosodiad terfysgol erchyll yn Seland Newydd wedi tawelu meddwl cymunedau ac unigolion i ryw raddau o ran lefel y gwaith sy’n parhau i gael ei wneud drwy gydol y flwyddyn rhwng Llywodraeth Cymru a phob un o'n partneriaid er mwyn sicrhau ein bod ni’n diogelu cymaint ag sy'n bosibl ar gymunedau, a sicrhau, fel yr ydych yn ei ddweud, bod Cymru’n agored ac yn oddefgar ac, fel yr ydych yn ei ddweud, yn lle cariadlon i bawb yn ein gwlad.