3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:50, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi bod hon wedi bod yn ymgyrch hir i lawer o Aelodau yn y Siambr, ac i sawl cyn Aelod y cyfeiriwyd atynt. Mae hwn yn fater emosiynol, felly rwy'n ofalus yn yr hyn a ddywedaf i, ond credaf fod angen inni edrych yn ofalus ar unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig yn y maes hwn.

Gweinidog, rydych chi'n dweud nad yw'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn gwneud dim yn fwy na chau bwlch ac nad yw'n creu trosedd newydd. Rwy'n cytuno bod hynny'n wir, yn dechnegol, ond mae canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron yn glir iawn o ran y sefyllfa gyfreithiol ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, nid yw'r amddiffyniad dros daro plentyn ond yn cwmpasu cosbedigaeth resymol. Felly, yn rhesymegol, mae pobl sy'n cosbi plant mewn modd corfforol yn afresymol yn agored i erlyniad fel y mae pethau'n sefyll. Ceir dadl nad oes angen y ddeddfwriaeth hon arnom mewn gwirionedd, a gallai hyn ddrysu'r mater, ac felly, yn rhesymegol, bydd pobl yn agored i erlyniad am gosbi rhesymol, sy'n ymddangos i mi yn ddefnydd afresymol o gyfraith. Felly, sut y gallwn ni sicrhau nad yw rhieni yn cael eu cosbi am ddisgyblu'n gyfreithlon eu plant sydd o bosib yn camymddwyn? Pa gamau diogelu fydd ar gael i atal erlyniadau diangen yn yr achosion hyn?

Ceir problemau posibl o ran yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r gwasanaethau cymdeithasol yn ymdrin â chynnydd mawr yn nifer y cwynion. Nawr, rwy'n deall yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, a chredaf ei fod yn synhwyrol iawn, pan oeddech chi'n dweud eich bod yn edrych ar ddwy flynedd i ymsefydlu unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth, ac y byddai ymgyrch ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd. Rwyf i o'r farn, o ddilyn y trywydd hwn, y byddai honno'n elfen bwysig iawn. Roedd Siân Gwenllian yn codi'r mater hefyd, i fynd gyda'ch deddfwriaeth, efallai y bydd angen cael mwy o gymorth i rieni. Roeddech chi'n sôn y gellid defnyddio ymwelwyr iechyd a bydwragedd, rwy'n credu, mewn ffordd addysgol, gan annog rhianta heb ddefnyddio cosbi corfforol ac, wrth gwrs, mae angen inni osgoi hynny gymaint ag y gallwn ni. Felly, rwy'n cytuno â hynny i gyd. Y cwestiwn bach a ofynnodd Siân chi nad ydych chi wedi ei ateb efallai oedd ynghylch unrhyw gynnydd mewn adnoddau i ariannu ymgyrch o'r fath a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, a hefyd a fydd yna unrhyw oblygiadau o ran adnoddau o ran yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r gwasanaethau cymdeithasol, yn enwedig pan fydd y ddeddfwriaeth yn dechrau.

Yn olaf, rydych chi wedi sôn am Seland Newydd. Rydych chi'n mynd i edrych ar—neu, yn hytrach, rydych chi yn edrych ar—enghraifft Seland Newydd ac, yn wir, 53 o wledydd eraill sydd wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Rwy'n sylweddoli eich bod chi'n gwneud hynny. A oes modd inni gael ymatebion mwy manwl a ran sut y maen nhw wedi ymdrin â hyn, naill ai heddiw neu yn nes ymlaen yn y trafodion. Diolch.