3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:53, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gareth Bennett, am eich cyfraniad. Roeddech chi'n sôn am gau'r bwlch. Nid cau'r bwlch o ran cosb gorfforol yn y cartref yn unig yw hyn; mae'n cau'r bwlch o ran cosb gorfforol yn yr ysgolion Sul, mewn cyfleusterau hamdden, mewn amrywiaeth fawr iawn o leoliadau nad ydyn nhw'n rhai addysgol. Mae unrhyw un sy'n gofalu am blentyn yn y lleoliadau hynny, ar hyn o bryd, yn gallu defnyddio'r amddiffyniad o gosb resymol, a chredaf fod hynny'n achos cryn dipyn o syndod i lawer. Felly, mae hwnnw'n fwlch sy'n cael ei gau, yn ogystal â mater rhieni yn y cartref.

O ran y gwaith sy'n ymwneud â Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol, rwyf wedi cwrdd â'r cyrff hynny i gyd. Fe wnes i gyfarfod â'r comisiynwyr heddlu a throseddu, prif gwnstabliaid yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r gwasanaethau cymdeithasol, ac maen nhw i gyd yn cefnogi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Byddwn yn sefydlu grŵp gweithredu. Byddwn yn sefydlu hwnnw'n weddol fuan ac, yn amlwg, pe caiff y ddeddfwriaeth ei phasio gan y Cynulliad, bydd hwnnw'n parhau i fod yn weithredol yn ystod y cyfnod tan y gweithredu terfynol. Ar y grŵp gweithredu hwnnw, rydym yn bwriadu bod y gwahanol grwpiau hyn yn cydweithio i edrych ar unrhyw oblygiadau mewn ffordd fanwl iawn, ac felly byddwn yn cynnwys yr holl sefydliadau hynny y soniodd ef amdanyn nhw. Wrth gwrs, mae pob un ohonyn nhw wedi dweud y gallai fod angen mwy o adnoddau i wireddu hyn.

Mae'n anodd iawn pennu mewn gwirionedd faint o adnoddau ychwanegol sydd ei angen, oherwydd, yn amlwg, nid ydym wedi diddymu'r amddiffyniad o gosb resymol o'r blaen, ac felly mae'n anodd iawn gwybod faint fydd ei angen. Rydym wedi amcangyfrif £4 miliwn dros bum mlynedd, a fyddai'n cynnwys rhaglen i godi ymwybyddiaeth—rhaglen ymwybyddiaeth gyhoeddus fawr iawn—ac yn ystyried cynyddu'r cymorth i rieni.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am yr hyn sydd wedi digwydd yn Seland Newydd. Anodd iawn yw cael gwybod rhywbeth gan y gwledydd sydd wedi gwneud hyn y gallwch chi ei gysylltu a'i ddefnyddio o ran yr hyn sy'n digwydd yma. Ond yr hyn a ganfuwyd yn Seland Newydd oedd bod nifer y rhieni a ddaeth gerbron y system cyfiawnder yn fach iawn. Gan gyfrifo yn ôl y dystiolaeth o Seland Newydd, amcangyfrifir—er mai amcangyfrif yn unig yw hyn—yng Nghymru, y byddai llai na 10 achos mewn unrhyw flwyddyn.