3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:03, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Rwy'n gwybod fod ganddi farn ddiffuant iawn ynghylch yr angen am y gwaharddiad penodol hwn, a bydd hi'n deall fy mod wedi gwrthwynebu'r gwaharddiad ar smacio plant y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig. Rwy'n bryderus iawn, yn amlwg, ynghylch y posibilrwydd o drin degau o filoedd o rieni cariadus, parchus ledled Cymru sy'n defnyddio smacen yn achlysurol i ddisgyblu eu plant, fel troseddwyr, ac rwy'n credu bod y mwyafrif llethol o rieni yn gwybod ble i dynnu'r llinell rhwng cosb resymol a cham-drin plant. Mae gennym ni ddeddfwriaeth gynhwysfawr sydd eisoes wedi ei sefydlu ar gyfer ymdrin â cham-drin plant, a chaiff pobl eu herlyn yn hollol briodol gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth bresennol, ac fe ddylen nhw wynebu'r canlyniadau cyfreithiol o ran hynny. Ond rwy'n bryderus ynghylch effaith bosib hyn ar rieni, yn arbennig o ystyried bod eich memorandwm esboniadol yn nodi rhai o'r effeithiau posib hynny, o ran cael cofnod troseddol, a hwn yn ymddangos ar ddogfen y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a'r effaith wedyn a gaiff ar eu cyflogaeth—eu gwahardd rhag rhai swyddi a swyddogaethau, a'r cyfyngiadau ar eu gallu i deithio i wledydd tramor penodol. Ac rwy'n gwybod eich bod wedi dweud nad yw'n fwriad gennych i wneud rhieni'n droseddwyr—rwy'n deall nad dyna eich bwriad—eich bwriad yw hyrwyddo rhianta cadarnhaol. Ond y gwir amdani yw mai dyna fydd yn digwydd mewn gwirionedd—bydd unrhyw un sy'n smacio plentyn ar ôl i'r gyfraith newid yn cael ei ystyried yn droseddwr. Felly, rwy'n bryderus iawn ynghylch hynny ac yn meddwl tybed beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau y bydd gweithredu'r gyfraith hon, petai'n dod yn gyfraith, yn gwbl gymesur ac yn gefnogol o rieni, ac nid yn rhywbeth sy'n mynd i fod yn faleisus o ran eu herlid, fel petai.

Rwy'n pryderu ychydig hefyd ynglŷn â sut y caiff hyn ei orfodi. Rydych chi eisoes wedi cyfeirio, yn rhai o'r cwestiynau eraill, at sut y bydd y gyfraith yn gweithredu ledled Cymru. Yn amlwg, mae'n bwysig bod gennym ni ymgyrch hyrwyddo ynghylch unrhyw newid yn y gyfraith, petai newid yn dod, yng Nghymru, ond mae'n amlwg bod gennym ni lawer o ymwelwyr, o Loegr yn benodol—ymwelwyr dydd ac ati—a tybed sut y byddwn ni'n eu hysbysu nhw am y newid yn y gyfraith fel nad ydyn nhw, yn ddiarwybod yn torri'r gyfraith ar ôl croesi'r ffin a dod i Gymru petaen nhw'n smacio plentyn fel math o ddisgyblaeth.

Clywais yr hyn a ddywedoch chi am y gweithgarwch hyrwyddo y byddwch yn ei gynnal, ac mae'n datgan yn glir eich bod wedi gosod cyllideb o'r neilltu ar gyfer y gweithgarwch hyrwyddo hwnnw, o ran addysgu pobl ynglŷn â'r newid yn y gyfraith, yn y memorandwm esboniadol a gyhoeddwyd ddoe. Ond nid oes cyllid ychwanegol ar gael yn unol â'r memorandwm hwnnw ar gyfer cyrsiau rhianta mwy cadarnhaol er mwyn cynyddu capasiti'r cyrsiau hynny. Mae hynny'n peri pryder imi, oherwydd byddwn yn disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn y galw gan rieni a fyddai efallai eisiau'r cyfle i ddysgu technegau rhianta eraill. Ond oni bai eich bod mewn gwirionedd yn barod i gynnig rhywfaint o arian i ehangu'r ddarpariaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd yng Nghymru, nad yw'r mwyafrif llethol o rieni yn cymryd rhan ynddi ar hyn o bryd, rwy'n credu na fyddwn ni byth yn cyflawni'r math o newid yr ydych chi a fi eisiau ei weld o ran gwneud yn sicr y bydd hyrwyddo rhianta cadarnhaol ar gael. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch yr angen i hyrwyddo dulliau rhianta gwahanol, ond oni fyddwch yn cynyddu'r adnoddau, oni fyddwch yn cynyddu capasiti'r bobl hynny sydd eisoes yn cynnig y mathau hyn o wasanaethau, ni fyddwn ni byth mewn gwirionedd yn cyflawni'r math o uchelgais yr ydych chi eisiau ei weld o ran newid ymddygiad ledled Cymru.

Rwyf yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith mapio ar hyn o bryd, fel y deallaf, yn edrych ar y gwahanol leoedd lle mae rhianta cadarnhaol yn cael ei weithredu, a meddwl wyf i, tybed a wnewch chi roi rhywfaint o wybodaeth ynghylch pryd rydych chi'n disgwyl i'r gwaith mapio gael ei gwblhau. Rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith bod cyrsiau rhianta cadarnhaol ar hyn o bryd yn gyffredinol o ran yr hyn sy'n cael ei gynnig, ond nid wyf yn credu eu bod yn cael eu hyrwyddo'n gyffredinol ymhlith rhieni. Mae pobl yn disgwyl mynd i ddosbarth cyn-geni, er enghraifft, os ydyn nhw'n cael eu plentyn cyntaf, ond nid ydyn nhw'n cael cynnig cwrs rhianta cadarnhaol yn yr un modd. Ac rwy'n credu y dylem ni fod yn graff a chynnig y mathau hyn o bethau yn y dyfodol er mwyn rhoi i bobl y pethau y maen nhw eu hangen.