Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 26 Mawrth 2019.
A gaf i ddweud pa mor falch wyf i o fod yn y Siambr hon heddiw i weld y darn hwn o ddeddfwriaeth yn cael ei gyflwyno? Fel y dywedodd Siân Gwenllian, mae wedi bod yn hir yn dod, ond nid yw hynny'n rheswm i beidio â'i groesawu'n fawr iawn heddiw. Hoffwn ategu popeth a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am ei rhagflaenwyr, ond hefyd rwy'n teimlo bod yn rhaid imi ddweud na allaf feddwl am berson mwy addas ar ei meinciau i fod yr Aelod sy'n gyfrifol am y darn hwn o ddeddfwriaeth heddiw ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda hi wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno.
Croesawaf yn fawr iawn—fel rwy'n gwybod bod y grwpiau a'r sefydliadau y cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at rai ohonyn nhw—y ffaith y bydd hwn yn Fil syml, y bydd yn fater syml o ddiddymiad. Wrth gwrs, clywais yr hyn a ddywedodd Aelodau eraill am y ffaith bod llawer o faterion y mae angen inni ymdrin â nhw i gefnogi plant a sicrhau nad ydynt yn cael eu cam-drin, ond nid yn y darn hwn o ddeddfwriaeth mae'r lle i hynny. Diddymiad syml yw'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd, ac rwy'n falch iawn o allu cefnogi hynny heddiw a dyna, fel y dywed Siân Gwenllian, fydd pob un o'm cyd-Aelodau Plaid Cymru yn ei wneud.
Wnaf i ddim, Dirprwy Lywydd, ailadrodd y pwyntiau trafod a godwyd eisoes, ond hoffwn gyfeirio at rywbeth y mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi ei grybwyll ynghylch y ffordd y mae plant a phobl ifanc yn teimlo pan gânt eu cosbi'n gorfforol. Rydym yn gwybod bod yr ymchwil gorau yn dangos bellach bod y rhai bach yn ofidus a dryslyd, oherwydd bod mami a dadi yn dweud wrthyn nhw trwy'r amser nad yw pobl fawr i fod i daro pobl fychan— 'Paid â tharo dy frawd bach, dydi hynny ddim yn garedig'. Ac yna, ar yr un gwynt, os yw dadi'n rhoi smacen ichi ar ôl i chi daro eich brawd bach, mae hynny'n ddryslyd iawn, os ydych chi'n bedwar neu'n bump oed. Gwyddom mai ymateb y plant hŷn os cânt eu cosbi'n gorfforol, os cânt eu taro—gan mai dyna beth yr ydym yn sôn amdano—yw eu bod yn teimlo wedi eu bychanu ac yn ddi-rym, a bod cyswllt uniongyrchol wedyn rhwng hynny a'r plant hynny wedyn yn mynd ymlaen i ymddwyn yn waeth. Dyma'r cysylltiad y mae Aelodau wedi'i grybwyll—rhwng cosb gorfforol, rhwng oedolion yn taro plant, a'r plant hynny wedyn yn mynd ymlaen i ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Rwy'n gwybod ac rwy'n wirioneddol ddeall y pryderon a godwyd gan Aelodau eraill yma, ac rwy'n credu bod y pryderon hynny yn gwbl ddilys. Ac rwy'n gobeithio, yn ystod hynt y Bil, y byddwn ni i gyd yn gallu—yn enwedig aelodau'r pwyllgor, ond y byddwn i gyd yn gallu edrych eto ar y dystiolaeth orau a'r fwyaf cyfredol, a chael sicrwydd, lle bynnag y cyflwynwyd y ddeddfwriaeth hon, na chafodd cannoedd ar gannoedd o rieni da eu gwneud yn droseddwyr. Yr hyn y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei wneud wrth gwrs yw ei gwneud hi'n glir iawn i deuluoedd beth sy'n dderbyniol a beth sy'n annerbyniol. Yn sicr, o edrych ar fy mhost etholaeth, mae llawer o bobl yn croesawu hynny'n fawr iawn.
Hoffwn ofyn un neu ddau o gwestiynau penodol. Mae Vikki Howells eisoes wedi codi pwynt am blant a phobl ifanc yn rhan o'r broses ymgynghori. Hoffwn ddweud wrth y Dirprwy Weinidog ei bod hi'n bwysig iawn bod hynny'n cynnwys plant iau, ac nid pobl yn eu harddegau'n unig. Ceir rhai prosiectau rhagorol y gwn i fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol ohonyn nhw, megis y prosiect Lleisiau Bach ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae plant bach iawn, chwech a saith oed, wedi gallu cael llais o ran y polisi, ac o ran beth yw eu barn am yr hyn fyddai'n gweithio iddyn nhw—nid yn gymaint o ran y ddeddfwriaeth, gan nad ydyn nhw'n mynd i boeni am hynny, ond ynghylch sut y maen nhw'n teimlo y maen nhw'n dysgu orau, gall fod yn ddefnyddiol inni wrando arnyn nhw.
Unwaith eto, o ran pwy fydd yn gallu defnyddio gwasanaethau rhianta, clywaf yr hyn a ddywedwyd am yr angen am adnoddau ychwanegol, ac wrth gwrs byddwn yn ategu'r hyn a ddywedodd Vikki Howells am bwysigrwydd estyn allan at yr hyn a alwn ni'n gymunedau anodd eu cyrraedd. Credaf weithiau ei fod yn ymwneud â chymunedau lle nad ydym ni wedi ymdrechu'n ddigon caled, i fod yn onest. Ond byddwn i hefyd eisiau inni fod yn ofalus iawn rhag rhoi'r argraff bod rhianta problemus yn rhywbeth sy'n digwydd ymhlith pobl sy'n dlawd yn economaidd yn unig. A minnau'n fam sengl ddosbarth canol fy hun, roedd adegau pan fyddwn i wedi hoffi'n fawr iawn cael fy mam drws nesaf, a doedd hi ddim yno. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud yn siŵr yn y ddadl hon, nad ydym ni'n creu unrhyw argraff ein bod yn credu bod y bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny yn fwy tebygol o ymddwyn yn amhriodol tuag at eu plant na rhieni dosbarth canol. Rwy'n credu hefyd na ddylem ni fod o dan unrhyw argraff nad yw rhieni dosbarth canol angen help ychwaith.
Felly, hoffwn i'r Dirprwy Weinidog ystyried sut y gallwn ni—. Byddwn i'n dadlau mai'r rhieni dosbarth canol hynny sy'n cael trafferthion tu ôl i ddrysau caeedig o bosib yw un o'r grwpiau sydd fwyaf anodd eu cyrraedd yn y drafodaeth hon, oherwydd gall mater o gywilydd godi o ddweud, 'ni allaf ddod i ben â hi'. Felly, efallai cydnabod hynny—a chlywaf yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am wasanaethau ymwelwyr iechyd, gwasanaethau mamolaeth ar gyfer rhieni ifanc iawn, ond hefyd a oes pethau y gallwn ni eu gwneud drwy ysgolion i godi ymwybyddiaeth a rhoi mynediad i fwy o deuluoedd dosbarth canol, a allai ei chael hi'n fwy anodd defnyddio llwybrau mwy traddodiadol efallai.
Ac, yn olaf, o ran amserlenni, rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am yr angen i bethau ymsefydlu. Byddwn i'n dadlau bod y ffaith ein bod wedi cael y dadleuon hyn yn y lle hwn dros nifer o flynyddoedd wedi cyfrannu at y newid y mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato yn y farn gyhoeddus. Mae pobl yn gwybod am yr hyn yr ydym ni wedi bod yn siarad amdano. Gwyddom bellach fod 80 y cant o rieni plant ifanc yng Nghymru yn credu bod cosbi corfforol yn annerbyniol, ac nad ydyn nhw eisiau ei ddefnyddio.
Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi trafod hyn ers tro. Mae'n dda gweld Christine Chapman yma heddiw. Tybed a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog gadw'r cyfnod gweithredu o ddwy flynedd o dan adolygiad. Rwy'n credu bod plant yng Nghymru wedi bod yn aros am amser hir iawn i gael yr un amddiffyniad y mae'r rhan fwyaf ohonom yma yn teimlo eu bod yn ei haeddu. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddweud am yr angen i fod yn glir bod pawb yn deall y newid yn y gyfraith, ond rwy'n credu bod dwy flynedd, ar ôl i'r ddeddf gael ei phasio, yn ymddangos yn amser hir iawn, iawn i mi. Felly, byddwn i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog adolygu hynny, os byddai hi mor garedig.