4., 5. & 6. Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2019 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:42, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i ddechrau gyda nodyn personol cyn imi siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rwy'n falch o glywed y bu cydnabyddiaeth bod angen diffiniad manylach o'r gair 'gofal'. Mae hynny'n sylw sydd wedi ei wneud yn y Siambr hon yng nghyd-destun gofal plant, ac rwy'n pendroni, os yw hynny o fewn eich cylch gwaith, a oes angen efallai rhoi ychydig o sylw i hynny ar ryw adeg yn y dyfodol.

Ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a gaf i ddweud y gwnaethom ni ystyried y rheoliadau o dan eitemau 4 a 5 yn ein cyfarfod ar 11 Mawrth, a'r rhai o dan eitem 6 ar 18 Mawrth. Fe wnaethom ni gyhoeddi sylw clir ar y rheoliadau o dan eitem 5, gan dynnu sylw at y sylwadau a wnaethom ni yn ein hadroddiad ar gyfer y rheoliadau o dan eitemau 4 a 6.

Yn ein hadroddiad ar eitem 4, sef Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, fe wnaethom ni dynnu sylw at ddau bwynt technegol o dan Reol Sefydlog 21.2(v). Yn gyntaf, o ran yr ymadrodd yn rheoliad 2, roedd angen esboniad pellach ar 'a gymeradwywyd gan y gwasanaeth', yn ein barn ni, yn enwedig oherwydd bod y geiriau hynny yn berthnasol yng nghyd-destun trosedd, y credaf ichi sôn amdano, Gweinidog.

Yn ail, fe wnaethom ni gwestiynu pam, o dan reoliadau 7 ac 8, os na all yr unigolyn cyfrifol gyflawni ei ddyletswyddau, nad oes rhaid i'r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau ar waith i'r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion Rhannau 11 i 15 y rheoliadau, gan ei fod yn gwneud hynny ar gyfer Rhannau 3 i 10.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i'r pwyntiau hyn ac yn dweud bod ystyr y rheoliadau a'r ffordd y cawsant eu drafftio yn ddigon clir. Yn amlwg, nid oedd hynny'n sylw yr oeddem ni'n cytuno ag ef. Dyna pam inni ei grybwyll. O ran y sylw ynghylch rhinweddau y gwnaethom ni ei grybwyll o dan Reol Sefydlog 21.3(ii), yn unol â'i hymateb i ni, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ei chrynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, fel sy'n ofynnol gan adran 27 o Ddeddf rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol 2016, ac rydym ni'n ddiolchgar am hynny.

O ran Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019, roedd ein prif sylw ynglŷn â rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) hefyd yn gysylltiedig â'r angen i gyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n ofynnol o gan adran 27 o Ddeddf 2016, ac felly mae'r mater hwnnw wedi cael sylw hefyd.

I gloi, hoffwn dynnu sylw at y manylyn canlynol, sef y byddem ni wedi disgwyl i'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad gael ei gyflwyno ar yr un pryd ag y cafodd y rheoliadau drafft eu cyflwyno. Rydym ni'n credu mai dyna oedd bwriad y Cynulliad pan gymeradwyodd Deddf 2016, gan gynnwys yr adran benodol honno—adran 27(5). Diolch.