4., 5. & 6. Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2019 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019

– Senedd Cymru am 4:36 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:36, 26 Mawrth 2019

Does yna ddim gwrthwynebiad i hynny, ac felly dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog, unwaith eto, i wneud y cynigion yma—Julie Morgan.

Cynnig NDM7005 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.

Cynnig NDM7004 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  15 Chwefror 2019.

Cynnig NDM7006 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.  

Cynigiwyd y cynigion.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:36, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynigion. Cafodd Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei basio'n unfrydol dair blynedd yn ôl. Drwy weithredu'r Ddeddf fesul cam, rydym ni'n sefydlu system newydd o reoleiddio ac arolygu darparwyr gofal cymdeithasol sy'n gadarn, yn symlach ac yn canolbwyntio ar y dinesydd. Mae'r rheoliadau ger ein bron heddiw yn cyfrannu at yr ymdrech hon ac yn cwblhau cyfnod 3 y gweithrediad i raddau helaeth iawn.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn gosod gofynion clir, priodol a chymesur ar wasanaethau mabwysiadu rheoledig ac unigolion cyfrifol y gall Arolygiaeth Gofal Cymru eu defnyddio wrth arolygu. Fel gyda'r rheoliadau ynglŷn â lleoli oedolion, eiriolaeth a gwasanaeth maethu a gafodd eu pasio gan y Cynulliad hwn ym mis Ionawr, mae'r gofynion craidd yn ymwneud â llywodraethu'r gwasanaeth, y ffordd y caiff ei weithredu, ei staffio a sut y mae'n diogelu ac yn cefnogi pobl. Maen nhw hefyd yn canolbwyntio ar ansawdd, atebolrwydd a gwella darpariaeth gwasanaethau. Pan nad yw darparwyr neu unigolion cyfrifol yn cyrraedd y safon, mae'r rheoliadau yn pennu pa elfennau o ddiffyg cydymffurfio a gaiff eu trin fel trosedd yn ogystal â dewisiadau gorfodi sifil yr Arolygiaeth.

Oherwydd bod mabwysiadu yn faes cyfreithiol arbennig o gymhleth a heriol i'w ddiwygio, hoffwn ddiolch i'r rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a'r Gymdeithas ar gyfer Maethu a Mabwysiadu Cymru, sydd wedi gweithio gyda ni i sicrhau bod y rheoliadau yn cyd-fynd â'r rhai ar gyfer gwasanaethau eraill sy'n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2016 lle bynnag y bo'n ymarferol ac yn briodol, ond eu bod hefyd yn addas at y diben o ran mabwysiadu.

Drwy'r ymgysylltu hwn, rydym ni wedi gwneud nifer fach o newidiadau sylweddol mewn terminoleg i adlewyrchu natur gwasanaethau mabwysiadu rheoledig yn well. Er mwyn mynd i'r afael â'r dryswch yn y sector o ran y diben sydd ynghlwm â defnyddio'r gair 'gofal' yn y rheoliadau hyn, rydym ni wedi disodli'r cyfeiriad at 'gofal a chymorth' fel ffordd o ddiffinio'r hyn y mae'r gwasanaeth yn ei wneud gyda chymorth. Hefyd rydym ni wedi disodli'r term 'canlyniadau personol' gydag 'angen am gymorth', a fydd yn osgoi gwrthdaro rhwng y canlyniadau personol i blant â'r rhai ar gyfer oedolion sydd hefyd yn cael cymorth gan y gwasanaeth. Mae'r newidiadau hyn yn cynnal y safonau a ddisgwylir o dan Ddeddf 2016 gan sicrhau eu bod yn gweddu'n well i natur y gwasanaethau mabwysiadu. Mae hyn yn parchu eu sail statudol unigol ac yn cael eu rheoli'n bennaf gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Fodd bynnag, ceir dau faes yn benodol lle rwyf wedi penderfynu peidio â gwneud newidiadau. Rwyf o'r farn na fyddai hi'n briodol dyblygu gofynion cyfreithiol presennol gan nodi gofynion diogelu manwl yn y rheoliadau hyn. Yn lle hynny, mae'r rheoliadau yn ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaeth gael polisïau cynhwysfawr a gweithdrefnau cyfoes ar waith i adlewyrchu'r gofynion presennol hynny.

Rwyf hefyd yn teimlo'n gryf y dylai gwasanaethau mabwysiadu, fel  gwasanaethau eraill a reoleiddir dan Ddeddf 2016, adolygu ansawdd eu gwasanaethau bob chwe mis. Gallant wneud hyn mewn ffordd gymesur, gan wneud y defnydd gorau o ffynonellau data presennol fel rhan o gylch parhaus o sicrhau ansawdd. Mae'r canllawiau statudol cysylltiedig yn canolbwyntio ar y pwyslais hwn. Caiff canllawiau statudol sy'n nodi mewn mwy o fanylder sut y gall darparwyr a'r unigolyn cyfrifol gydymffurfio â'r gofynion yn y rheoliadau eu cyhoeddi yn gynnar ym mis Ebrill.

Gan droi yn awr at Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2019, mae'r rhain yn gwneud newidiadau technegol i'r ddeddfwriaeth sylfaenol o ran y gofynion yn Rhan 1 o'r Ddeddf, sy'n ymwneud â rheoleiddio, lleoli oedolion gwasanaethau mabwysiadu a maethu, a fydd yn dod i rym ar 29 Ebrill. Yn y bôn, maen nhw'n diweddaru'r derminoleg a ddefnyddir mewn deddfwriaeth sylfaenol sydd eisoes yn bodoli, yn unol â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016, gan gynnig eglurder a sicrhau cysondeb o ran y gyfraith.

Yn olaf, mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn gwneud nifer fach o newidiadau ar wahân i'r rheoliadau y gweithredodd y Cynulliad hwn yng nghyfnod 2 y gweithredu mewn cysylltiad â rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal preswyl a gofal cartref. Mae'r diwygiadau yn cynnwys newidiadau i'r eithriadau ar gyfer gwasanaethau cymorth cartref i sicrhau bod eglurder ynghylch sut y bydd gwasanaethau sy'n darparu gofal nyrsio yng nghartrefi pobl yn cael eu rheoleiddio, a newidiadau i eithriadau ar gyfer gwasanaethau gofal cartref, a fydd yn eithrio cynlluniau preswyl yn y gwyliau ar gyfer plant anabl o gwmpas y rheoliad, tra caiff fframwaith rheoleiddio mwy cymesur ei roi ar waith ar eu cyfer. Maen nhw hefyd yn ychwanegu gofynion ynglŷn â goruchwyliaeth a monitro digonol o ran yr arbedion y mae cartrefi gofal a llety diogel ar gyfer plant yn eu gwneud, ac yn newid y gofynion hysbysu er mwyn bod yn gyson â'r rheoliadau a gafodd eu rhoi ar waith yn ystod cyfnod 3. Cyhoeddir canllawiau statudol wedi'u diweddaru yn unol â'r newidiadau hyn yn gynnar ym mis Ebrill.

Rwy'n credu bod y newidiadau hyn yn y rheoliadau hyn yn ffurfio rhan angenrheidiol o ddarparu system ddiwygiedig o reoleiddio ac arolygu yng Nghymru, yr oedd y Cynulliad hwn yn eu hewyllysio pan basiodd y Bil yn 2016, ac rwy'n gofyn am eich cefnogaeth.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:42, 26 Mawrth 2019

Galwaf ar Suzy Davies i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—Suzy Davies.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i ddechrau gyda nodyn personol cyn imi siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rwy'n falch o glywed y bu cydnabyddiaeth bod angen diffiniad manylach o'r gair 'gofal'. Mae hynny'n sylw sydd wedi ei wneud yn y Siambr hon yng nghyd-destun gofal plant, ac rwy'n pendroni, os yw hynny o fewn eich cylch gwaith, a oes angen efallai rhoi ychydig o sylw i hynny ar ryw adeg yn y dyfodol.

Ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a gaf i ddweud y gwnaethom ni ystyried y rheoliadau o dan eitemau 4 a 5 yn ein cyfarfod ar 11 Mawrth, a'r rhai o dan eitem 6 ar 18 Mawrth. Fe wnaethom ni gyhoeddi sylw clir ar y rheoliadau o dan eitem 5, gan dynnu sylw at y sylwadau a wnaethom ni yn ein hadroddiad ar gyfer y rheoliadau o dan eitemau 4 a 6.

Yn ein hadroddiad ar eitem 4, sef Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, fe wnaethom ni dynnu sylw at ddau bwynt technegol o dan Reol Sefydlog 21.2(v). Yn gyntaf, o ran yr ymadrodd yn rheoliad 2, roedd angen esboniad pellach ar 'a gymeradwywyd gan y gwasanaeth', yn ein barn ni, yn enwedig oherwydd bod y geiriau hynny yn berthnasol yng nghyd-destun trosedd, y credaf ichi sôn amdano, Gweinidog.

Yn ail, fe wnaethom ni gwestiynu pam, o dan reoliadau 7 ac 8, os na all yr unigolyn cyfrifol gyflawni ei ddyletswyddau, nad oes rhaid i'r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau ar waith i'r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion Rhannau 11 i 15 y rheoliadau, gan ei fod yn gwneud hynny ar gyfer Rhannau 3 i 10.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i'r pwyntiau hyn ac yn dweud bod ystyr y rheoliadau a'r ffordd y cawsant eu drafftio yn ddigon clir. Yn amlwg, nid oedd hynny'n sylw yr oeddem ni'n cytuno ag ef. Dyna pam inni ei grybwyll. O ran y sylw ynghylch rhinweddau y gwnaethom ni ei grybwyll o dan Reol Sefydlog 21.3(ii), yn unol â'i hymateb i ni, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ei chrynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, fel sy'n ofynnol gan adran 27 o Ddeddf rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol 2016, ac rydym ni'n ddiolchgar am hynny.

O ran Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019, roedd ein prif sylw ynglŷn â rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) hefyd yn gysylltiedig â'r angen i gyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n ofynnol o gan adran 27 o Ddeddf 2016, ac felly mae'r mater hwnnw wedi cael sylw hefyd.

I gloi, hoffwn dynnu sylw at y manylyn canlynol, sef y byddem ni wedi disgwyl i'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad gael ei gyflwyno ar yr un pryd ag y cafodd y rheoliadau drafft eu cyflwyno. Rydym ni'n credu mai dyna oedd bwriad y Cynulliad pan gymeradwyodd Deddf 2016, gan gynnwys yr adran benodol honno—adran 27(5). Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:44, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr eraill. Y Dirprwy Weinidog i ymateb.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i Suzy Davies am ei chyfraniad i'r ddadl hon, ac rwy'n nodi'r sylwadau a wnaeth. Rwy'n gwybod bod gan y Llywodraeth—rydym ni wedi ymateb i'r pwyntiau hynny. Ac rwyf hefyd yn nodi'r sylw am yr ymgynghoriad, sydd, fel y gwyddoch chi erbyn hyn, wedi ei gyhoeddi. Felly, diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad.

Dros y tair blynedd diwethaf, rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'r rheolyddion a'r sectorau sy'n ymwneud â datblygu a gweithredu'r fframwaith statudol newydd o dan Ddeddf 2016, y mae'r rheoliadau hyn yn rhan ohonynt. Byddant yn helpu i sicrhau y bydd unigolion sydd angen gofal a/neu gefnogaeth yn derbyn gwasanaeth o ansawdd y maen nhw'n ei haeddu. Rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau ichi ac yn gofyn am eich sêl bendith. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:45, 26 Mawrth 2019

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 4.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:45, 26 Mawrth 2019

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 5.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:46, 26 Mawrth 2019

Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 6 hefyd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.