8. Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:53, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Eitem 8 yw hwn, Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019. Fe roesom ni ystyriaeth i'r rheoliadau hyn yn ein cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 18 Mawrth gan grybwyll un manylyn technegol i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2(vi). Mae paragraff olaf y rhaglith i'r rheoliadau yn cyfeirio at adran 59(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae adran 59(3) yn rhoi dewis i Weinidogion Cymru ynghylch a ddylai'r weithdrefn negyddol neu'r weithdrefn gadarnhaol fod yn berthnasol i'r rheoliadau. Rydym ni'n derbyn nad yw cyfeirio at adran 59(3) yn gwneud unrhyw wahaniaeth ynglŷn â dilysrwydd y rheoliadau hyn. Yn ein cyfarfod, buom yn trafod a ddylid nodi'r cyfryw ofynion yn y rhaglith i'r is-ddeddfwriaeth ac fe wnaethom ni gytuno y dylid arddel cysondeb yn y dyfodol, a byddwn yn trafod hyn ar wahân gyda Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr, Llywydd.