8. Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019

– Senedd Cymru am 4:51 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:51, 26 Mawrth 2019

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 8. Yr eitem honno yw'r Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019. Dwi'n galw ar y Gweinidog amgylchedd i wneud y cynnig. Lesley Griffiths. 

Cynnig NDM7008 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.  

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:51, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.

Mae'r rheoliadau hyn yn rhan o raglen waith y mae'n rhaid inni ymgymryd â hi wrth baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau bod gennym ni lyfr statud sy'n gweithio yng Nghymru pan fyddwn ni'n gadael. Bydd y rheoliadau hyn, sy'n cyflwyno diwygiadau technegol i nifer o offerynnau statudol sy'n ymwneud â safonau marchnata bwyd, ymyriadau cyhoeddus yn y sector cynhyrchion amaethyddol a llaeth ysgol, yn sicrhau bod cyfraith Cymru yn parhau i fod yn ymarferol ac yn effeithiol ar ôl inni adael yr UE. Bydd yn cywiro hen gyfeiriadau amherthnasol sy'n ymwneud â chyfraith Ewrop mewn deddfwriaeth ddomestig, er enghraifft lle mae cyfarwyddebau a rheoliadau Ewropeaidd wedi'u diwygio neu eu disodli, a bydd yn dileu cyfeiriadau at aelod-wladwriaethau. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn dileu amodau amherthnasol mewn deddfwriaeth Gymreig sy'n cyfeirio at swyddogaethau y mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn eu harfer yng Nghymru.

Oherwydd bod dyletswydd i ymgynghori ar newidiadau i gyfraith bwyd, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar 11 Ionawr 2019 am bedair wythnos, a ddaeth i ben ar 19 Chwefror 2019. Cysylltwyd â thros 90 o arbenigwyr rhanddeiliaid a sefydliadau yn uniongyrchol ac fe gyhoeddwyd y papur ymgynghori hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru. Cafwyd saith ymateb i'r ymgynghoriad, a oedd i gyd yn cefnogi'r cynigion i ddiweddaru ac i gywiro diffygion mewn deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE. Ni chrybwyllwyd unrhyw bryderon o ran y diwygiadau.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:53, 26 Mawrth 2019

Galwaf ar Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. 

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Eitem 8 yw hwn, Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019. Fe roesom ni ystyriaeth i'r rheoliadau hyn yn ein cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 18 Mawrth gan grybwyll un manylyn technegol i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2(vi). Mae paragraff olaf y rhaglith i'r rheoliadau yn cyfeirio at adran 59(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae adran 59(3) yn rhoi dewis i Weinidogion Cymru ynghylch a ddylai'r weithdrefn negyddol neu'r weithdrefn gadarnhaol fod yn berthnasol i'r rheoliadau. Rydym ni'n derbyn nad yw cyfeirio at adran 59(3) yn gwneud unrhyw wahaniaeth ynglŷn â dilysrwydd y rheoliadau hyn. Yn ein cyfarfod, buom yn trafod a ddylid nodi'r cyfryw ofynion yn y rhaglith i'r is-ddeddfwriaeth ac fe wnaethom ni gytuno y dylid arddel cysondeb yn y dyfodol, a byddwn yn trafod hyn ar wahân gyda Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr, Llywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:54, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr eraill. A yw'r Gweinidog yn dymuno ymateb? Na.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yna. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.