Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 27 Mawrth 2019.
Mae'r holl arian yn y ffordd a awgrymwch yn hollol dryloyw, a gwn eich bod wedi ysgrifennu ataf ynglŷn â Chymdeithas Pysgotwyr Cymru yn arbennig. Gallaf yn bendant eich sicrhau fod yr holl arian yn dryloyw. Mae Cymdeithas Pysgotwyr Cymru yn cydymffurfio'n llwyr â'r holl faterion monitro. Rwy'n gwrthwynebu'n llwyr yr hyn a roddwyd ar Twitter heb fod yn hir yn ôl ac rwy'n gweithredu mewn perthynas â'r honiadau hynny. Mae monitro trwyadl tu hwnt yn digwydd, ac nid oes ond angen i chi fynd i Dŷ'r Cwmnïau i weld bod yr holl wybodaeth yno.