Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:50, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedaf, ychydig iawn o ladd-dai yng Nghymru sydd heb deledu cylch cyfyng. Fe ddarparais arian. Yn sicr rydym yn edrych i weld a ddylem ei wneud yn orfodol; mae hynny'n rhywbeth rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd. Credaf fod y diwydiant ei hun wedi arwain yn y maes hwn, ac maent yn cyhoeddi canllawiau helaeth ar arferion da, ar ddiogelu lles anifeiliaid ar adeg eu lladd. Mae'r wybodaeth honno ar gael ar-lein, felly os oes unrhyw aelod o'r cyhoedd am ei weld, mae ar gael ar-lein.