Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:49, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn gwneud cyhuddiadau yn erbyn unrhyw weithredwyr lladd-dai yng Nghymru, ond rwy'n dweud, fel mesur rhagofalus, y byddai'n ddoeth symud tuag at sefyllfa lle mae gennym systemau teledu cylch cyfyng ac felly, fod tystiolaeth ddiymwad os yw anifeiliaid yn cael eu cam-drin, a dyna fesur rhagofal elfennol. Dywed y Gweinidog wrthyf yn aml pan fyddaf yn gofyn iddi ynglŷn â materion yn ymwneud â chynhesu byd-eang ei bod am i Gymru arwain y byd, er nad oes neb, mewn gwirionedd, yn dilyn. Ac er y gallem fabwysiadu'r safbwynt nad oes gennym broblem cam-drin anifeiliaid mewn lladd-dai ar hyn o bryd yng Nghymru, byddai'n ddoeth inni orfodi a darparu'r modd i gydymffurfio â gorfodaeth o'r fath i ladd-dai ddarparu cofnod o'r hyn sy'n digwydd yn y lleoedd hynny, fel y gall y cyhoedd yn gyffredinol, sy'n bryderus iawn ynghylch materion lles anifeiliaid mewn perthynas â lladd heb stynio, gael tawelwch meddwl ar gyfer y dyfodol y gellir ei ragweld—am byth, yn wir—na fyddwn ac na allwn ddatblygu problem o'r fath yng Nghymru.