Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:47, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Gweinidog newydd ei wneud, ond yn ddiweddar cefais brofiad annifyr o wylio ffilm o ladd-dy nad oedd yn stynio cyn lladd yn Lloegr, gyda lluniau erchyll o anifeiliaid yn cael eu cam-drin—eu cicio, eu trywanu, eu bygwth—cyn cael eu lladd yn y pen draw yn y ffordd fwyaf barbaraidd heb eu stynio. Nawr, cafodd hynny ei ddal ar deledu cylch cyfyng, felly roeddem yn gallu dod i wybod amdano. Ac er bod pobl yn dweud wrthym nad oes lladd-dai sy'n lladd heb stynio yng Nghymru, nid oes gennym deledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy ac mae'n bosibl fod golygfeydd o'r fath yn digwydd yng Nghymru. A wnaiff y Gweinidog roi camau ar waith yn awr i sicrhau bod teledu cylch cyfyng yn cael ei osod ym mhob lladd-dy yng Nghymru?