Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:48, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, yn amlwg, fe gyfeirioch chi at ladd-dy yn Lloegr. Mae gennym rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yn y byd yng Nghymru. Mae gennym reoliadau llym iawn. Mae yna nifer o fesurau rheoli yn ein holl ladd-dai; mae milfeddyg yn bresennol ym mhob lladd-dy. Mae gan y mwyafrif—pob lladd-dy mawr yng Nghymru yn sicr—deledu cylch cyfyng. Rwy'n edrych, ac rwyf wedi darparu arian i rai o'r rhai llai sydd heb deledu cylch cyfyng ac sy'n dymuno ei gael. Ymwelais â lladd-dy bach yn etholaeth y Llywydd yr haf diwethaf i weld y safonau drosof fy hun, a hoffwn ailadrodd bod gennym rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yng Nghymru. A gallaf ddweud wrthych, gyda'r archwiliadau eraill, nad oes angen teledu cylch cyfyng arnoch i wybod nad yw hynny'n digwydd yng Nghymru.