Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Un o'r pwyntiau a roddais i chi yn y datganiad a wnaethoch yn ddiweddar oedd y gallu hwn i beidio â chael cyfnodau yn y rownd geisiadau ar gyfer Glastir a chael cyfnod agored yn unig lle gallai pobl wneud cais am gymorth i blannu coedwigoedd newydd drwy gydol y flwyddyn. A ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i hyn? Oherwydd roedd yn faes na chyffyrddwyd arno mewn ymateb gennych chi yn y datganiad hwnnw, ac mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi gwneud hyn a bu'n effeithiol iawn wrth ddatblygu'r sector coedwigaeth yn y rhannau hynny. Felly, a allech roi syniad inni heddiw: a ydych yn bwriadu cefnogi cael gwared ar y cyfnod ymgeisio yn y modd hwn a chael ceisiadau drwy gydol y flwyddyn?