Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch. Roedd fy natganiad ar 12 Mawrth yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r sector coedwigaeth. Yn ddiweddar, rydym wedi ymrwymo £2 filiwn ar gyfer cylch arall o'r cynllun buddsoddi mewn busnesau pren. Mae'r cynllun yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer gwelliannau sy'n ychwanegu gwerth i goedwigoedd ar gyfer gweithgareddau rheoli coetiroedd, cynaeafu a phrosesu pren.