Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 27 Mawrth 2019.
Wel, credaf y byddem oll yn awyddus i glywed am unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â morlyn llanw bae Abertawe—roedd hi'n wirioneddol ddiddorol clywed beth oedd gan Dai Lloyd i'w ddweud yno. Ond un o'r pethau sy'n parhau i fod yn anodd, wrth gwrs, yw cost yr ynni a gynhyrchir gan y morlyn—y darpar forlyn—sy'n ystyriaeth berthnasol ar adeg pan fo Tata Steel, er enghraifft, yn cystadlu mewn amgylchedd byd-eang, lle mae cost ynni yn Ffrainc a'r Almaen, er enghraifft, yn rhan fechan iawn o'r hyn sy'n rhaid iddynt ei wario yma. Mae Tata'n gobeithio lleihau eu costau ynni, yn ogystal a'u heffaith amgylcheddol, drwy gynyddu capasiti eu cynhyrchiant pŵer eu hunain, ac mae ynni rhatach iddynt, wrth gwrs, yn golygu mwy o arian i fynd i'r afael â'r llygredd y maent yn ei gynhyrchu o ongl wahanol. A fyddech yn barod i bwysleisio yn y Cabinet fod yna resymau amgylcheddol yn ogystal â rhai economaidd dros wireddu uchelgeisiau Tata ar gyfer eu gwaith pŵer? Diolch.