Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 27 Mawrth 2019.
Wel, rwyf bob amser yn hapus iawn i gydweithio. Nid wyf yn meddu ar bob un o'r syniadau da; nid oes neb. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cydweithio, ac yn sicr, rwyf wedi gweithio gyda chi a'ch rhagflaenydd ar y mater hwn. Credaf ein bod wedi dangos arweiniad a chredaf—. Pan eisteddais i lawr gyda swyddogion a rhanddeiliaid eraill er mwyn cyflwyno'r targedau hynny, cafwyd ychydig o godi aeliau ein bod yn rhy uchelgeisiol, ond credaf mai'r peth pwysicaf ynglŷn â thargedau yw (1) eu bod yn cael eu cyrraedd a (2) eu bod yn realistig. Nid ydych eisiau gosod targedau nad ydych yn mynd i'w cyrraedd. Ond wrth gwrs, targedau'n unig ydynt; gallwn ragori arnynt wrth gwrs.
Bellach mae gennym dros 67,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy ledled Cymru, sydd, unwaith eto, yn dangos o ddifrif sut rydym yn annog y prosiectau hyn. Unwaith eto, rydym yn darparu cyllid ac rydym yn darparu cyngor, ond rwy'n hapus iawn i gyfarfod â chi unrhyw bryd a gweld beth y gallwn ei wneud.