Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:39, 27 Mawrth 2019

Wel, byddwn i'n gofyn i chi wneud mwy na dim ond pigo mas elfennau; byddwn i'n awyddus i weld hwn yn ffurfio sail ar gyfer polisi ynni llawer mwy uchelgeisiol a radical efallai na'r hyn dŷn ni wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn. Ac yn yr ysbryd yna, byddwn i'n awyddus i chi fel Gweinidog fod yn arwain o'r blaen ar geisio mynd ati i weithredu llawer o beth sydd yn hwn. Oherwydd dwi'n grediniol bod yna gonsensws yn bodoli ar draws y pleidiau i ni fynd ymhellach nag y mae'r Llywodraeth wedi ei ddatgan y mae hi am fynd ar hyn o bryd. A dwi hefyd yn teimlo bod hwn yn cynnig y cynsail i ni wneud hynny. Felly, yn yr ysbryd hynny, a fyddech chi'n barod, fel dwi'n dweud, i arwain o'r blaen drwy efallai wahodd y pleidiau i ddod at ei gilydd i drafod y polisi ynni yng nghyd-destun yr adroddiad yma a'r sector ehangach, oherwydd rŷn ni wedi gweld adroddiadau fel hyn yn dod ac yn mynd? Hynny yw, dwi'n gwybod am adroddiadau gan bwyllgor amgylchedd y Cynulliad diwethaf— 'Dyfodol Ynni Craffach i Gymru', er enghraifft—sydd yn hel llwch. Dwi ddim eisiau gweld adroddiad yr IWA yn dioddef o'r un dynged. Ac felly, ar eich ysgwyddau chi, fel Gweinidog, dwi'n meddwl y mae'r cyfrifoldeb nawr i sicrhau bod llawer o beth sydd yn hwn yn cael ei wireddu, a dwi'n cynnig i chi gydweithrediad er mwyn trio symud ar hyd y llinellau yna.