Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 27 Mawrth 2019.
Cytunaf â phopeth y mae Suzy Davies newydd ei ddweud. Ond y cwestiwn rwyf am ei ofyn yw hwn: mae pawb ohonom yn derbyn bod y morlyn llanw yn brosiect buddiol mewn gwirionedd ac mae'r pethau a ddaw yn ei sgil a'r buddion a ddaw yn ei sgil yn rhywbeth y mae pawb ohonom am ei weld. Ond yn ogystal â manteision amgylcheddol, ceir heriau amgylcheddol, ac un ohonynt yn amlwg yw'r effaith ar bysgod. Nawr, gwn fod gan y cyrff pysgota yn fy ardal i a'r morlyn llanw eu hunain ddau fodel pysgota a oedd yn wahanol iawn ac yn eithaf pell oddi wrth ei gilydd. Pa gynnydd a wnaethpwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar edrych ar y modelau pysgota hynny? Oherwydd, os daw'n ôl i'r amlwg, nid ydym am i hynny gael ei weld fel canlyniad i beidio â bod wedi rhoi sylw i hyn ar yr adeg hon.