Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 27 Mawrth 2019.
Credaf ein bod yn croesawu'n fawr y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gennym fesurau diogelu cadarn ar waith a'n bod yn gwella'r mesurau diogelu hynny ar ôl Brexit mewn gwirionedd. Ond wrth inni siarad heddiw, nodwn fod yna bobl ifanc i fyny yn yr oriel yn edrych i lawr ar ein trafodion, ac iddynt hwy, peth o'r amddiffyniad mewn mesurau diogelu ar gyfer ein hamgylchedd naturiol fydd gallu dinasyddion i herio Llywodraethau—Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac eraill. Ar hyn o bryd, mae gennym y gallu hwnnw, fel y gwelsom drwy sefydliadau fel Client Earth, sy'n herio nid yn unig Llywodraeth y DU, ond Llywodraethau yn yr Eidal a Hwngari a mannau eraill hefyd, o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Felly, a allwn ddweud yn bendant ar hyn o bryd, Weinidog, y bydd dinasyddion a sefydliadau dinasyddion yn dal i allu herio Llywodraethau pan na fyddant yn cydymffurfio â'u cyfrifoldebau amgylcheddol?