Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 27 Mawrth 2019.
Wel, do, dywedodd Llywodraeth y DU wrthym na fyddem yn colli ceiniog pe byddem yn gadael yr UE, felly rydym yn eu dal at eu gair. Ond credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig: nid yw pob rhywogaeth estron yn fygythiad i'n hiechyd, ein heconomi a'n hamgylchedd a chredaf ei bod yn bwysig iawn inni ganolbwyntio ar y rhywogaethau estron goresgynnol oherwydd, fel y dywedwch, ceir meysydd eraill sydd eu hangen arnom i hyrwyddo bioamrywiaeth.