Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 27 Mawrth 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio imi ofyn i'r Trefnydd yr wythnos diwethaf am ddatganiad ynglŷn â rheoli argaeau ledled Cymru, gan y ceir pryder ynglŷn â llifogydd i lawr yr afon o gronfa ddŵr Clywedog a Llyn Efyrnwy. Mae'r ddau argae, ar brydiau yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi bod yn gorlifo, a dywed CNC fod hwn yn fesur rheoledig sydd wedi’i brosesu, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n lleddfu pryderon tirfeddianwyr i lawr yr afon y mae eu tir yn cael ei effeithio'n sylweddol. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu a ydych wedi cael trafodaethau gyda CNC o ran rheoli argaeau yng Nghymru, yn enwedig Llyn Efyrnwy a chronfa ddŵr Clywedog i weld a oes angen diweddaru'r prosesau rheoli hynny.