Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 27 Mawrth 2019.
Yn sicr, os yw cyngor yn mynegi hyn, credaf y dylai Rheoli Gwastraff Ymbelydrol ei gymryd fel y'i darllenwyd. Hoffwn ddweud yn glir iawn nad yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safleoedd neu gymunedau yng Nghymru lle gellid gosod cyfleuster gwaredu daearegol, ac ni fyddwn yn ceisio gwneud hynny. Mae ein polisi'n glir iawn: ni ellir adeiladu cyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru oni bai fod cymuned yn barod i'w groesawu.