1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 27 Mawrth 2019.
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgynghoriad presennol y corff Radioactive Waste Management o ran lleoliad ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol? OAQ53642
Cynhaliodd Rheoli Gwastraff Ymbelydrol gyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ar eu proses o werthuso safle ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol. Cafwyd wyth digwyddiad yn Lloegr a dau yng Nghymru. Cynhaliwyd y digwyddiadau yng Nghymru drwy weminar.
Wel, mi gafodd y cyntaf o'r ymgynghoriadau cyhoeddus yna ei gynnal yn gyhoeddus, ond, wrth gwrs, mi ddatganwyd cryn wrthwynebiad i'r syniad o gael claddfa gwastraff ymbelydrol yn hwnnw yn Abertawe, wedyn mi newidiwyd i gael webinar yn hytrach na'r cyfarfod cyhoeddus oedd i fod i ddigwydd yn Llandudno. Mae yna rhai, yn sicr, yn fy etholaeth i wedi codi pryderon bod yna ymdrech yma gan RWM i symud tuag at fod yn llai agored yn ei ymgynghoriad.
Rŵan, mae gen i bryderon ynglŷn â sawl elfen o'r ymgynghoriad yma gan RWM. Un o'r rhai sy'n fy mhoeni yn fawr ydy bod modd i un tirfeddiannwr neu un busnes hyd yn oed wneud cais i ddatgan diddordeb mewn dechrau ymgynghori ar ddarparu safle ar gyfer man claddu gwastraff ymbelydrol. Dwi'n meddwl bod hynny'n gwbl annerbyniol, yn enwedig yn y cyd-destun lle mae awdurdodau lleol cyfan efallai eisoes wedi dweud nad ydyn nhw'n dymuno edrych ar bosibiliadau yn eu hardaloedd nhw, fel y mae cyngor Ynys Môn wedi ei wneud. A ydych chi'n cytuno efo fi, os ydy cyngor yn dweud, 'Dim claddfa yn ein hardal ni', dyna ddylai fod ei diwedd hi? Ac ydych chi'n cytuno efo fi y dylai cynghorau yng Nghymru fod yn datgan hynny'n glir rhwng rŵan a diwedd yr ymgynghoriad ar 14 Ebrill, nad ydyn ni'n croesawu claddfa ddaearegol barhaol yma yng Nghymru?
Yn sicr, os yw cyngor yn mynegi hyn, credaf y dylai Rheoli Gwastraff Ymbelydrol ei gymryd fel y'i darllenwyd. Hoffwn ddweud yn glir iawn nad yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safleoedd neu gymunedau yng Nghymru lle gellid gosod cyfleuster gwaredu daearegol, ac ni fyddwn yn ceisio gwneud hynny. Mae ein polisi'n glir iawn: ni ellir adeiladu cyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru oni bai fod cymuned yn barod i'w groesawu.
Fe'm dychrynwyd pan glywais fod Abertawe, fel y clywsom, yn un o'r ardaloedd a ystyriwyd gan y cwmni hwn, ac fel sawl un arall, rwyf wedi cyfleu fy nheimladau ynglŷn â hynny yn glir yn yr ymgynghoriad. Fe ailadroddoch chi eto heddiw fod hwn yn fater i gymunedau lleol wneud penderfyniad yn ei gylch, ac rwy'n ddiolchgar am y cadarnhad a gawsom, ond a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud unrhyw gyfraniad i'r ymgynghoriad ei hun? Ac os nad yw, am ba resymau bynnag, a wnewch chi gadarnhau y byddai Aelodau unigol o'r Llywodraeth hon sy'n digwydd bod yn rhan o'r Llywodraeth, ond sy'n cynrychioli ardaloedd o gwmpas Abertawe, yn rhydd yn rhinwedd eu swydd fel Aelodau Cynulliad i ymateb i unrhyw ymgynghoriad o'r fath?
Ni fyddaf yn cyflwyno ymateb. Fodd bynnag, cyfarfûm â Rheoli Gwastraff Ymbelydrol i sicrhau bod y pwyntiau a godwyd gan Rhun ap Iorwerth yn cael eu hystyried. Roeddwn yn teimlo hefyd, gan eu bod wedi newid yr un yn Abertawe i fod yn weminar, y dylai'r un yn Llandudno fod yn weminar hefyd. Fel gogleddwraig, rwy'n ymwybodol iawn fod y gogleddwyr am gael eu trin yr un fath â phobl y de, felly gwneuthum y pwynt hwnnw iddynt. Nid wyf yn siŵr a oeddent yn meddwl fy mod yn bod braidd yn smala, ond roeddwn yn credu o ddifrif fod hynny'n bwysig iawn, fod pawb yn cael eu trin yr un fath.
Diolch i'r Gweinidog.