Lleoliad ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:16, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Ni fyddaf yn cyflwyno ymateb. Fodd bynnag, cyfarfûm â Rheoli Gwastraff Ymbelydrol i sicrhau bod y pwyntiau a godwyd gan Rhun ap Iorwerth yn cael eu hystyried. Roeddwn yn teimlo hefyd, gan eu bod wedi newid yr un yn Abertawe i fod yn weminar, y dylai'r un yn Llandudno fod yn weminar hefyd. Fel gogleddwraig, rwy'n ymwybodol iawn fod y gogleddwyr am gael eu trin yr un fath â phobl y de, felly gwneuthum y pwynt hwnnw iddynt. Nid wyf yn siŵr a oeddent yn meddwl fy mod yn bod braidd yn smala, ond roeddwn yn credu o ddifrif fod hynny'n bwysig iawn, fod pawb yn cael eu trin yr un fath.