Y Cynllun Gweithredu Adfer Natur

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:03, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn 2017, cynhyrchodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol adroddiad 'Glanhau Traethau Prydain'. Dangosodd yr adroddiad hwn fod dros 670 darn o sbwriel wedi eu casglu dros bob 100m o draeth yng Nghymru, cynnydd o 11 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae sbwriel o'n traethau ac yn ein moroedd yn cynyddu. Mae hefyd yn bygwth maglu, mygu a lladd ein bywyd gwyllt morol o dipyn i beth. Weinidog, pa gynnydd a wnaed ar ddatblygu strategaeth i atal a lleihau llygredd yn ein hamgylchedd morol yn unol â gofyniadau rheoliadau strategaeth forol y Deyrnas Unedig yng Nghymru?